Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR Ymcuelydd |V[isol Golygydd Lleol—Mr. HUGH ROBERTS, 57 Clare Road. Hones dechreuad yr Achosyn Stanley Road. (Parhad). Wedi marwolaeth Mr. David Jones Rhagíyr 12, 1898, ymddanghosodd yr ysgrif ganlynol am dano yn y Drysorfa am Chwefror, 1899, wedi ei îiysgrifennu gan y Pareh. Edmund Griffith ; a chredwn y bydd yn dda gan ddarllenwyr yr Ymivelydd Misol ei gweled :— " Mab ieuengaf ydoedd Mr. 1). Jones i'r diweddar Mr. Job Jones, Llanbedr, ger Rhuthyn. Yr oedd yno dylwyth lliosog o ddeuddeg o blant, a ganwŷd yr ieuengaf ar Hydref 6, 1829. Ychydig iawn o f'anteision addysg a gafodd ym moreu ei oes. Dywedir ei fod yn blentyn nodedig o dyner a Uariaidd. Yr oedd ei nain yn byw gyda'i dad a'i fam, ac efe oedd anwylyd ei nain ; a mawr oedd ei gofal am dano. Dechreuodd fyned pan yn ieuanc iawn gyda'i nain i gapel Gellifor. Ac yno y dechreuodd ddweyd ei adnod gyda'r plant yn y Seiat. Cyn iddo gyrraedd ei ugain oed, symudodd i Lerpwl yn y flwyddyn 1848, a chafodd waith fel gweithiwr cyffredin gyda'r Dock Board. Teimlodd yn fuan oddiwrth ei anf anteision boreu- ol, a bu yn myned am gryn amser i'r ysgol yn yr hwyr i'r Mechanics Institute. Wedi bod felly am beth amser, symudwyd ef i'r North End, i gyfeiriad Bootle, i weithio yno i'r Dock Board ; ac yn fuan wedi mynd yno penodwyd ef i bwyso. Gwelir mor fuan y manteisiodd ar ei addysg hwyrol ! A dyna fu ei waith o hynny hyd ei fedd. Pan symudodd i gymydogaeth Bootle rhyw hanner can mlynedd yn ol, nid oedd yno gapel Cymraeg yn yr holl le. Deuai yr ychydig Gymry oedd yn byw yno i hen gapel Burlington Street i addoli, a deuai David Jones gyda hwynt. Ond buan iawn y cychwynodd efe ac ychydig gyfeillion gynnal Ysgol Sabothol yn ymyl Miller's Bridge, wrth ochr y Canal. Yr oedd yn deall digon i fedru arwain.y canu yn yr Ysgol ac yn yr Ystafell Genhadol. Buont am dymor yn myned i gapel Burlington Street y boreu a'r hwyr, ac i'r Ysgol yn y prydnawn yn yr Ystafell GenhadoL Wedi hynny symudwyd ymlaen i gael pregeth bob nos Saboth yn Bootle ; ac o dipyn i beth daethant yn ddigon lliosog a chi'yfion i gael pre- geth foreu a hwyr. Ymhen blynyddoedd daeth- ant yn ddigon cryfion i adeiladu capel ym Miller's Bridge ; a phan ffurfiwyd yr achos yn eglwys, dewiswyd Mr. David Jones yn rhestr cyntaf ei blaenoriaid yn 1868. Yr oedd efe a'r eglwys yn cyd-drigo ac yn cyd-dyfu â'u gilydd. Yn y flwyddyn 1873 daeth y Parch. Griffith Ellis, M.A., yn fugail ar yr eglwys, ac yr wyf yn sicr o'r holl gyfeillion caredig a ffyddlon a fu yn cydweithio gyda'r gweinidog gwerthfawTr, na bu iddo neb mwy caredig a ffyddlon na Mr. David Jones. Bu ar hyd ei oes yn ddi-briod, ac ar adegau nwyfus a chwareuá byddai yn arfer dweyd, " Yr ydwyf fì wedi priodi !" A phan ofynnid iddo pwy oedd ei briod, ei ateb parod ydoedd, " Yr wyf wedi priodi yr achos!" Ac felly yr oedd mewn gwirionedd. Yn fuan wedi i Mr. Elhs ddyf'od yn fugail ar yr eglwys, teimlid angen am gapel llawer mwy na'r hen gapel. Cafwyd cynlluniau i mewn, a dewiswyd un allan o'r llawer ; y drychfeddwl arweiniol yn hwnnw oedd capel hardd, a'r mwyafrif yn ei bleidio. Ar y llaw arall, drych- feddwl mawr David Jones am gapel oedd " Capel y gall bobl glywed ynddo ! " A rhywfodd, llwyddodd i ddymchwelyd y cwbl, a chafwyd cyn- fluniau newyddion i mewn, gyda'r prif syniad i gael capel i glywed ynddo. Cafwyd yn Bootle gapel hardd odiaeth, ac yn goron ar y cyfan, fe all y bobl glywed ynddo. Cafodd fyw i weled y fechan MTedi mynd yn un o eglwysi cryfaf y Cyf- undeb, yn rhifo 618 o aelodau cyflawn, a chyfan- swm ei chasgliadau yn 1897 yn £1,166. Yr oedd yn ddyn hynod o garedig, a gwên siriol ar ei wyneb bob" amser—" yn dduwiol siriol sant." Dywedai y Parch. H. Jones, D.D., fod ei gymer- iad yn gynwysedig mewn tri gair,—yr oeddyn ffyddlon, yn heddychol, ac yn llednais. Byr ysgafn-gystudd gafodd. Rhyw ychydig ddydd- iau cyn marw, syrthiodd i bêr-lewyg, a phan ddadebrodd, teimlai yn chwith mai yn y byd hwn yr oedd, ac nid yn y nefoedd. Ond yr oedd yn werth iddo aros yma am ychydig ddyddiau yn ychwaneg, er mwyn iddo adrodd un hen bennill, cyn myned. Nos Saboth olaf iddo ar y ddaear, aeth holl flaenoriaid yr eglwys, gyda'r Parchn. J. Williams, Princes Road, a Griffith Ellis, M.A., i'w weled ; ond wedi iddynt gyrraedd yno, caw- sant fod y meddyg wedi gadael gorchymyn pen-