Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

iUc~-i ŵ<) CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. 11 AT EIN GOHEBWYB. Bhaid i bob gohebiaeth fod mewn llaw ar yr 20/ed o'r mis, wedi ei gyfeirio, nid at y Oyhoeddwyr, ond fel hyn .—Rev. J. Roberts (Ieuan Owyllt). Llanberis. Y GEBDDOBIAETH YN Y BHIFYN HWX MARWOLAETH Y CRISTION; Gan Harwood; cynghaneddwyd gan y Golygydd. YR HAF-DDYDD; gan Gersbach. Y FRIALLEN; gan Mendelssohn. Bydd yr "Amen Chorus " yn y Rhifyn nesaf. METHU CANU'R GEIRIAU. Y mab un dosbarth o gerddorion yr Hen Nodiant yn gwneyd llawer o niwed raewn cysylltiad a'r Nodiant Newydd. Cyfeirio yr ydym at y rhai hyny sydd, ar ol dysgu ac ymarfer am ychydig a nodiant y Tonic Sol-ffa, yn ei adael, ac yn troi at yr hen, gan haeru fod yr hen yn y diwedd yn hawddach na'r newydd. Iddynt hwy, dan yr amgylchiadau, yr ydym yn addeí' mai yr hen yw yr hawddaf. Ond cyn rhoddi eu ded- fryd ar y pwnc yn gyffredinol, dylai y cyfeillion hyny gymeryd amryw bethau i ystyriaeth, os ydynt yn ewyllysio bod yn gywir ac yn deg. Yn y lle cyntaf, dylent ystyried yr holl flynyddoedd y buont yn dysgu ac yn ymarferyd a'r hen nodiant. Yn y lle nesaf, dylent gofio ar ba adeg yn eu bywyd yr oedd y blyn- yddoedd a dreuliasant felly. Ac yn y trydydd lle, dylent gofio mor ychydig o amser a roddasant at y newydd. At yr hen, rhoddwyd blynyddoedd lawer, a hyny pryd yr oedd natur yn fywiog, y galluoedd yn gryfion, a'r holl gyfansoddiad yn yr ansawdd mwyaf manteisiol i dderbyn argrafiiadau. I'r nodiant new- ydd, ni roddwyd ond ychydig o amser, a'r amser hwnw pryd yr oedd y natur wedi heneiddio, y gallu- oedd wedi gwanhau, a phob peth yn cydweithio i wneyd yr adeg yn un anfanteisiol i dderbyn argrafiîad- au, nac i ddysgu dim newydd. Nid rhyfedd fod rhai o'r cyfryw yn haeru mai "gwell yw yr hen;" ond dylent gofio fod y rhagoriaeth ynddynt hwy pan yn dysgu yr hen, ac nid yn yr hen ei hun. Y prif achwyniad a ddygir gan y rhai hyn ac ereill yn erbyn y Tonic Sol-ffa ydyw fod ei disgyblion, er y gallant ganu y seiniau ar y sillau, yn analluog i'w canu ar eiriau, ac felly, nad ydyw y fantais ond ym- ddangosiadol yn unig. Fel y mae pethau yn bod yn rhy fynycb, yr ydym yn addef fod gradd o wirionedd yn yr achwyniad. Os na ellir canu y seiniau ar eir- iau, nid ydyw yn tycio ond ychydig iawn ; oherwydd yr amcan sydd mewn golwg ydyw canu, ac nid dysgu Doh, Ray, Me. Offeryn, neu arf, yn unig yw y sillau; y gwaith mawr a phwysig sydd i'w gyflawni trwy ei offerynoliaeth ydyw canu, Pa mor ddifyr bynag yd- yw canu y sillau, byddai dda i'n pobl ieuainc gofio o hyd mai nid dyna yr amcan mawr sydd i fod mewn golwg. Yr ydym yn crybwyll hyn nid yn unig, nac yn benaf, am fod gwrthwynebwyr y gyfundrefn yn gwneyd defnydd o hono, ond yn hytrach oherwydd ein bod yn awyddus am alw sylw ein hathrawon at y pwnc. Yr ydym bellach wedi cael cyfleustra i ar- holi amryw gannoedd, yn y üe a'r Gogledd, gyda golwg ar gymeryd Certificates, ac o'r rhai cannoedd y buom yn anallnog i'w pasio, yn y lle hwn y byddai naw o bob deg yn methu. Byddent yn canu pob cyf- rwng o'r braidd ar y Modulator; byddent yn canu unrhyw don gyffredin ar y sillau; byddai yr amser yn lled dda (er 'fod esgeulusdra gormodol yn fynych ar y pwnc hwn); ond pan elid i geisio canu y Don ar eir- iau, neu ar y sill la, byddent yn ymddyrysu, yn myn- ed i'r niwl, ac yn methu. Y mae hyn oll i'w briodoli i ddiffyg ymarf'eriad. Nid oedd yn rhyfedd nac yn chwith fod y llanc yn methu yn y lle hwn, oherwydd ar ganu y sillau y byddai ei feddylfryd, a chanu y sill- au fyddai ei ddifyrwch. Y mae hwn yn bwnc y dylid cael diwygiad effeithiol ynddo yn mysg ein solffaydd- ion. Addefwn fod y sillau dieithr hyn yn swynol i blant yn y dechreu ; oud y mae eu newydd-deb erbyn hyn wedi ei wisgo ymaith. Yn hytrach, gan hyny, na bod yn canu y sillau byth a hefyd, ymarferer llaw- er mwy a chanu y gwahanol gyfryngau ar eiriau neu ar la. A threfn fanteisiol, yr ydym yn meddwl, i gael diwygiad yn hyn fyddai canu la, neu eiriau, ar y cyfryngau ar y Modulator, a chymerjd un ymarferiad yn hyn yn mhob cyfarfod. Ẃedi hyny, arferer y Tonau, ar ol eu dysgu, bob amser ar eiriau, ac nid ar y sillau. Y mae genym amcan arall hefyd wrth anog ein solffayddion i adael y sillau mor fuan ag y gallant, ac i arferyd geiriau; a hwnw ydyw, er mwyn dysgu ychwaneg o Hymnau a Chaniadau da. Nid ydym heb ofni, os eir yn mlaen fel y mae rhai yn myned y dydd- iau hyn, i ganu y sillau hyn, a dim ond hyny, ie, hydyn nod yn yr addoliad ar brydiau, y bydd ein pobl ieuainc wedi myned cyn hir heb ganddynt ddim arall i'w ganu ar y Tonau. Byddai yn fuddiol iawn arfer y dosbarthiadau i ddysgu a chanu cymaint o wahanol benillion ag a fyddo yn bosibl ar bob Ton, er mwyn cyfoethogi eu meddyliau a barddoniaeth dda, yi^ gystal a cherddoriaeth ddymunol a phrydferth.