Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

•»13, • CEEDDOB Y TONIC SOL-FFA. AT Ellf GOHEBWIB. Byddwn ddiólchgar os bydd i bób góhébiaeth i'r Cerdd- or Tomc Sol-fea gaél ei hanfon ini,i fod mewn, llaw ar neu cyn yr Sfífed o'r mis, i Bev. John Boberts, Fron, Carnarton. EIN GWAITH. Ie, "gwaith." Pob gwaith ond gweithio, medd y <Kog; ond i'r gweithgar, nid oes dim gwaith fel gweithio. Ar weithio y mae ei galon. Mewn gweithio y mae ei hyfrydwch; ie, mewn gweithio, orid heb ei lafur, y mae yn dymuno caei ei nefoedd. Y mae yn dda genym weled fod pobl y Sol-ffa, yn fach ac yn fawr, yn deall mai i weithio y maent wedi eu galw; ac yr ydym yn meddwl na fu gwaith erioed yn dal allan obaith gwell am gynyrch toreithiog na'r gwaith da hwn. Ond gadawer i ni eto nnwaith, ar ddechreu y flwyddyn hon, alw sylw ein gilydd at y gwaith sydd genym o'n blaen. Yn y lle cyntaf oll, y mae genym i alw sylw, ac i gynhyrfu y wlad. at y gwaith pwysig a thra angen- rheidiol o ddysgu y plant a'r bobl ieuainc i ddarllen cerddoriaeth. Er cymaint a wnaed, ac a wneir yn y dyddiau hyn, y mae yn ffaith amlwg o flaen ein llygaid fod miloedd ar filoedd o'n plant a'n pobl ieuainc heb fod dan addysg yn y gwaith hwn. Yn y trefydd hyny lle y gwneir rhyw gymaint o ymdrech, nid yw nifer y rhai sydd dan addysg ond ychydig iawn i'w gymharu a'r rhai sydd heb fod. Dichon nad oes ond ychydig, os oes un, o'n trefydd yn bresenol heb fod j-no ryw fesur o lafar gyda hyn; ond y mae ilawer o'n trefydd yn cynwys canoedd o blant, pryd nad oes ond ychydig yn dysgu canu. Nid yw ein pentrefydd a'n hardaloedd poblogaidd nemawr gwell na'n trefydd, os dim. Ac er fod y diwygiad hwn, fel y bu diwygiadau ereill yn ein gwlad, yn cael mwy o sylw a chefnogaeth, fel rheol gyffredin, yn y gwled- ydd nag yn y trefydd, eto, yr ydym yn ofni fod lluaws o ardaloedd yn bod heddyw yu Nghymru yn y rhai ni wneir dim ymdrech gyda'r gwaith hwn. Yr ydym yn credu mai nid fel y mae y dylai fod; a than ddylanwad y gred hon, yr ydym yn teimlo mai ein gwaith yw gwneyd ein goreu i ddwyn diwygiad effeithiol oddi-amgyleh. Yr hyn sydd yn gwneyd y mater hwn ýn ddifrifol iawn ydyw, fod y plant a esgeulusir yn colli yr adeg oreu at y gwaith. Y mae plant yn treulio eu hamser goreu heb wneyd dim; ac y mae llawer o bobl ieuainc yn colli eu hunig wleg. Tra mae y wlad yn hepian. y mae yr haf a'r iymor gweithio yn myned drosodd o hyd ar rywrai. Ai nid yw yn bosibl i ni argraffu yr ystyriaeth ddi- frifol hon ar feddyliau y rhai sydd yn y dosbarthiad- au yn y fath fodd fel na fedrant adael llonydd i'r plant ereill sydd o'u hamgylch heb eu perswaäio a'tt tynu hwythau gyda hwynt ? Beth pe cymhellid y rhai sydd yn llafurio i ymgymeryd hefyd o ddifrif a cheisio ennill pob plant sydd o fewn cylch eu hadna- byddiaeth i gyd-lafurio a hwynt ? Ein gwaith yn y lle nesaf, yw dwyn i fewn i'r dosbarthiadau, ac felly i gyffyrddiad a meddyliau a chalonau y plant a'r bobl ieuainc, farddoniaeth a cherddoriaeth ag a fydd yn gadael argraff ddymunol ar eu cymeriadau. Nid oes dim a all fod yn fwy pwysig na darparu ar gyfer plant. " Y winwydden a nyddir Yn egwan iawn, ac yn ir." Yn y mater o ffurf a chwaeth, y mae yn ddyledswydd arnom ofalu na byddo dim yn cael ei ddysgu yn bresenol gan y plant ag y bydd ganddynt i'w ddad- ddysgu yn y dyfodol. Peth o bwys ydyw rhoddi meddwl yr ieuanc ar gyfeiriad na -fydd raid iddo droi o hono. Y mae gan ddyn i ddysgu o hyd. " Y mae dysg hyd angeu," yn ol yr hen air; ac y mae yn bur debyg ar ol angeu hefyd: ond pwysig ydyw cychwyn ar y liwybr y gellir parhau i fyned yn mlaen ar hyd- ddo. Y mae barddoniaeth a cherddoriaeth i blant i fod yn syml, ysgafn, a phrydferth; ond nid yw i fod yn wael, yn wag, yn drymaidd, nac yn Uygredig. Dylai fud, ar unwaith, yn unol a'r chwaeth fwyaf pur, ac ar yr un pryd mor syml a llawn o fywyd a'r plentyn ei hun. Hoffem yn fawr iawn gael ein beirdd i weithio yn fwy effeithiol ar y maes hwn. ünid ydyw yn syndod, mewn gwirionedd, yn nghanol gwlad sydd mor lawn o farddoniaeth, a miwsig, a beirdd, a cherddorion, fod can lleied o ganeuon o'r fath o nodwyd yn ein meddiant ? Pwy o'n beirdd a ddaw allan oddifrif at y gwaith hwn ? Y mae eisiau gofal hefyd, nid yn unig am gael barddoniaeth bryd- ferth, seiuber, a bywiog, ond hefyd am gael cerdd- oriaeth o'r un nodwedd. Y mae perygl rhag myned i feddwl y gwna rhywbeth y tro i blant. Dyn ieuanc yn dechreu cyfansoddi—neu yn hytrach yn dechreu ymarfer a gosod cordiau, bid sicr, rhaid iddo ddwyn ei don i'w dysgu gan y Band of Hope. Ac yr ydym yn meddwl nas gall un cerddor o chwaeth dda edrych gyda hoffder ar y modd y dygir rhai tonau gwaelion, o'r nodwedd ag y mae cerddorion ein gwlad wedi bod mewn llawer o drafferth am flynyddoedd i'w carthu allan, i arferiad yn mysg y plant; üe, y modd yr ydys yn cysylltu rhai o'r tonau gwaelion hyny a rhai o'r hen benillion goreu, mwyaf nefolaidd, sydd yn ein hiaith. Hyderwn yn fawr yr arferir gofal priodol na fyddo ein gwlad yn eael ei thaflu yn ol. Vr ydym yn meddwl y dylai plant gael