Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

{cWa^ tä\0 cebddob y tonic sol-ffà. lio 83 YB ÀBHOLWYB. Syr,-—Yr wyf yn credu y byddwch mor garedig a rhoddi lle i'r cyfieithiad canlynoi o lythyr a dder- byniaia oddiwrth Mr. Robert Griffiths yn eich Cerddor Sol-ffa. Tr eiddoch yn ddidwyll, Moegajî. " COLEG Y TONIO SoL-PFA, Plaistow, London, E. " Ahwyl Syr, Mai 25«», 1870. "Trwy ei fod yn deall eich bod chwi wedi ysgrifenu at Olygydd Cerddor y Tonic Sol-ffa > yn achwyn oherwydd y dull rhydd a diofal yn mha un y mae Certificates yn cael eu rhoddi, y mae Mr. Curwen yn ceisio genyf ofyn i chwi am fod mor gar- edig ag anfon iddo ef y manylion ynghylch y cyfryw achosion ag sydd wedi dyfod dan eich sylw, fel y gallo efe wneyd ymchwiliad iddynt; ac os gwelir yn ang- cnrheidiol, bydd i'r neb a geir yn eaog gael ei dori oddiar ein rhestr. " Y mae Mr. Curwen yn dra awyddus na fyddo y Certificates yn cael eu rhoi i neb ond y rhai hyny ag ydynt yn hollol deilwng; a pha bryd bynag yr ydys wedi cael allan fod rhai yn eu rhoddi yn esgeulus a diofal, yr ydys wedi cymeryd oddiar y rhai hyny ar unwaith y rhagorfraint o fod yn arholwyr. Efe a fydd, gan hyny, yn dra diolchgar i chwi os bydd i chwi ei gynorthwyo i roddi atalfa yn ebrwydd ar unrhyw beth o'r fath yn mha le bynag yr ydych yn gwybod ei fod yn cael ei wneyd. Ni raid i'ch enw chwi ym- ddangos yn y mater o gwbl. , " Yr wyf wedi ceisio gan y Parch. John Roberts, Golygydd y Cerddor, anfon y llythyr hwn i chwi, ac yn amgau envelope i chwi i anfon eich atebiad i Mr. Curwen. " Ydwyf, Anwyl Syr, " Yr eiddoch yn gywir, ROBERT &RIFFITHS." " MoRGAN," 1 ofal Golygydd Cerddor y Tonic Sol-ffa. Nid ydwyf wedi cyd-synio a chais Mr. Curwen, oherwydd nad wyf yn ewyllysio cymeryd mesurau cryfion yn y dechreu. Ond gofynais am ei ganiatad i gyhoeddi y llythyr uchod yn y Cerddor, yr hyn a gefais gyda'r parodrwydd mwyaf. Fy amcan yn gwneyd hyn oedd, rhoddi cyfleustra i'r rbai sydd yn , euog i wybod pa beth sydd yn eu haros os byddant ' yn myned yn mlaen yn yr un llwybran eto. Nid da ydyw genyf y gwaith o ddinoethi neb ; ond yr wyf wedi rhoddi ar ddeall i Mr. Curwen, os bydd i mi gael allan fod neb o'r teulu diegwyddor hwn yn par- hau i wneyd ein cyfundrefn a'n Certificates yn sathrfa dan eu traed halogedig, ar ol yr eglurhad a'r rhybudd hwn, y bydd i mi anfon eu henwau a'r manylion iddo ef. Od oes ganddynt, gan hyny, ddim parch i'w henw da, heb son am ddim arall, hwy a ymgroes- ant rhag gwneyd dim o'r fath waith eto. . Ar ol y rhybudd hwn, ni bydd dim eiriach mwy. Y peth nesaf a fydd genyf i'w wneyd yn gyhoeddus fydd an- fon eu henwau i'r Cerddor íel rhai y cymerwyd oddi- wrthynt y fraint o fod yn arhoiwyr.—M. CONGL YR EFRYDYDD IEUANC. Jedtjthun.—Y mae yn y cyfansoddiad luaws o wallau o'r fath- fwyaf amlwg, megys 8fedau, &c. D. ap Dewi.—Nid oes yn y Don ond ychydig o wallau; ond y mae ychydig yn rhy isel i'r Cerddor. J. H.—Mae y Don yn ddiffygiol mewn melodedd a bywyd. Nid oes un gwall gramadegol ynddi; ond mae y cordiau yn fynych yn rhy gyffredin. Yr yd- ych yn trawsgyweirio i'r Ueiaf yn gwbl reolaidd ; ond tlawd ydyw y bas yn yr adran ddiweddaf. Cerddor Bach.—Y mae yr alaw yn llyfn, tyner, a naturiol; ac y mae y gynghanedd yn lled dda. Ýn mesur 2, cord 1, gwell fuasai dyblu y 6fed (d) na dybln y 3ydd (s), cord 3, gwell fuasai ymdrechu i gael y" 3ydd, yn hytrach na dyblu y 5ed, Yn mesur 4, mae y cord laf yn anghywir—Lc ar 3ydd y cyweirnod, heb fod y l na'r d yn cael eu hadferyd yn briodol. Yn mesur 5, cord 2, ychwanegu yr 8fed a ddylesid, ac nid dyblu y 3ydd. Nid da yw rhediad yr alto yn mesur 6. Yn mesur 8, nid ydym yn deall meddwl yr awdwr yn hollol; ond pa un bynag ai llithreni ai dewisnodau a fwriadai yma, y mae cordiau 2 a 3 yn anghywir. Nid ydym wedi gweled llinell o fewn cylch barddoniaeth ein hiaith fel hon— "Atnna wrendy gwyn y gwan." Peidiwch ag arfer cyfnewid gwaith ein beirdd, na di- lyn y cyfnewidwyr. Ymdrechwch i ddysgu ysgrifenu Cymraeg yn gywir; ac ewch yn mlaen. BWBDD Y GOLYGYDD. J. 0. J.—Y mae yn amheus genym pe byddem yn rhoddi llythyr yn y post heb ddim ond " J. O. Jones " y byddai iddo gyrhaéddyd ein gohebydd hwn. Os ydyw am sylw ar yr hyn a anfonir ganddo, anfoned ei enw a'i gyfeiriad yn llawn. T. D.—Heb enw na chyfeiriad. Vt fasged. Dtpbig.—Eto. Iago Mynwy.—-Gwr o ba le yw y gohebydd hwn f