Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ÌM^Wrlo CEEDDOR Y TONIC SOL-FFA. 49 SYMUDIAD Y SOL-FFA YN EI GYSYLLTIAD A DYN-GARWCH. Mae yn ddiau fod pawb ag sydd wedi rhoddi prawf ar allu cerddoriaeth ar blant, ac yn enwedig y rhai sydd wedi bod yn arfer cerddoriaeth mewn ysgolion carpiog a Band of Hope, yn gystal ag mewn ysgolion dyddiol, yn barod i ddwyn eu tystiolaeth yn unfrydol i'r dylanwad nerthol sydd ganddi ar dymherau ac ymdäygiadau y plant. Gwnaed llawer iawn trwy gerddoriaeth yn y cyfeiriad hwn trwy ddysgu tonau a chaniadau i'r plant; ac nid oes un amheuaeth na wnaed rhyw gymaint hefyd trwy eu dysgu i ddarllen cerddoriaeth yn yr hen Nodiant, yn ol cyfundrefn Hullah a dulliau eraill. Ond y mae yn eglur fod yr hyn a wnaed trwy y Tonic Sol-ffa wedi taflu yn mhell i'r cysgodion yr hyn oll a wnaed yn y cyfeir- iad hwn mewn ffyrdd eraill; ac ymddengys i ni nad yw yr hyn a wnaed ond ychydig i'w gymharu a'r hyn sydd i'w wneyd a6 a ellir ei wneyd eto gydag ym- drech priodol. Ac y mae yr ystyriaeth hon yn dyfod yn un o'r rhesymau cryfaf dros wneyd pob brys i ddwyn y plant yn mhob man, a hyny yn ddioed, dan addysg gerddorol yn ol y gyfuudrefn werthfawr hon. Darllenodd Mr. John Spencer Curwen, mab y Parch. J. Curwen, bapyr tra dyddorol ar y pwnc yn un o gyfarfodydd y Social Science Congress yn Nghastell-newydd-ar-Dyne, Medi 27. Cynwysai y papur adroddiadau oddiwrth nifer luosog o fonedd- igesau a boneddigion, y rhai sydd yn cyfranu addysg i blant ac yn gofalu am danynt mewn gwahanol sefydliadau. Yr oeddynt i gyd yn dwyn y tystiol- aethau mwyaf ffafriol, ac yn líefaru yn y modd mwyaf croyw am fawr ragoriaeth y drefn bon i ddysgu cerddoriaeth i'r plant. Sylwai Mr. Curwen hefyd ar berthynas y ddau nodiant a'u gilydd. Dywedai—" Y mae wedi cael ei /Idadleu yn fynych y gellir gwneyd yr un peth trwy ddefnyddio yr hen nodiant. Nid rhaid i mi ddweyd fcd tystiolaeth ein cyfeillion ar y pwnc hwn yn hollol benderfynol; o herwydd wrth gymeryd i fyny drefn newydd yr oeddynt yn dangos eu hanghrediniaeth yn effeithiolrwydd yr hen. Dywed Mr. Joseph Proud- man, yr hwn sydd wedi bod yn arwain y canu am lawer o flynyddoedd yn nghynulliadau blynyddol tnag 800 o bíant y Reformatory a'r Refuge Union, a thua 600 o'r Eomes for Destitute Children, &c, y byddai yn well ganddo ef ddysgu y tonau i'r plant wrth eu clust na cheisio eu dysgu i ddarllen yr hen nodiant. Dywed yn mhellach fod gwers yn y Sol- ffa ddwywaith yn yr wythnos am dri mis yn ddigon i ddysgu plentyn i ddarllen cerddoriaeth." A'r un ydyw tystiolaeth pawb ag syddwedi gwneyd y prawf. Bylwai yn mhellach fod y berthynas rhwng y nodiant newydd a'r hen yn un hollol gyfeillgar. Pe byddai y cwestiwn yn cael ei roddi—Pa beth yw cerddor- iaeth ? yr ateb a roddid gan haner pobl y deyrnas fyddai, mai y piano ydyw, ac mai dysgu cerddoriaeth ydyw dysgu chwareu yr offeryn hwnw. Dichon mai yr ateb a roddid gan y mwyafrif o'r gweddill fyddai, mai yr erwydd a'r nodau—y crotchets a'r quavers, ydyw cerddoriaeth. Ond nid y naill na'r Uall o'r pethau hyn yw cerddoriaeth, mwy nag y mae y ffigyrau Arabaidd na'r llythyrenau Ehufeinig yn Rifyddiaeth. Cerddoriaeth ydyw y nod yr ydys yn ymgyrhaeddyd tuag ato, ac nid ydyw y ddau nodiant ond dwy o wahanol ffyrdd yn arwain at y nod hwnw. Os yw un ffordd yn ddreiniog ac an- hawdd, a'r llall yn esmwyth a hawdd, nid ydyw croesi o'r naill i'r Uall ond gwaith rhwydd iawn. Anaml y mae athrawon y Sol-ffa yn gwneyd dysgu yr hen nodiant yn rhan o waith eu dosbarthiadau, ond y mae eu disgyblion yn ei bigo i fyny yn í'uan. Ar y llaw arall, y mae cerddorion a ddygwyd i fyny yn yr hen nodiant yn dyfod i'r newydd yn fuanach fyth. Heblaw hyny, yr hen egwyddor dda o gymeryd pob ton oddiwrth y Tonydd, yr hon y rhoddir cymaint o amlygrwydd iddi yn y nodiant newydd, yw yr agor- iad fwyaf diogel i anhawsderau yr hen nodiant hefyd, fel os amcan un ydyw dysgu darllen wrth nodiant yr erwydd, yr ydym yn dal mai y ffordd hawddaf a chyntaf iddo wneyd hyny ydyw astudio y nodiant newydd. Ac os dadleuir fod llwyddiant y gyfundrefn i'w briodoli i frwdfrydedd a llafur y rhai sydd yn ei dwyn yn mlaen, ac y buasai yr hen drefn yn cynyrchu yr un ffrwythau pe buasid yn llafurio mor eiddgar gyda hi, y mae yr ateb i'w gael yn hanes Mr. Hullah. Dechreuodd efe ei symudiad tua deng-mlynedd-ar- hugain yn ol; cafodd bob cefnogaeth a chymorth oddiwrth y Llywodraeth, ac yr oedd ei weithgarwch, ei frwdfrydedd a'i fedr yn fawr iawn—yn ddiguro; ond y mae y symudiad hwnw wedi darfod am dano. A phaham? Am fod ei waith yn rhoi o'r neilldu yr egwyddor donyddol, yn ngeiriau Syr John Her- schel, "y cam mwyaf tung ya ol a gymerw^d erioed mewn dysgu cerddoriaeth nag un ganghen arall o wybodaeth." Y mae symudiady Sol-ffa yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, nid am fod ei gefnogwyr yn frwdfrydig, ond o herwydd fod ei egwyddorion yn gywir." é DARLITH GERDDOROL EUING YN GLASGOW. Mab y ddarlith hon wedi ei sylfaenu gan Mr. Euing, mewn cysylltiad â Phrif Athrofa Andersonaidd Glasgow. Y mae yn cymeryd i fewn Wyddoniaeth, Hanesiaeth a Bywgraffyddiaeth gerddorol; ond rhaid i'r efrydwyr fod yn deall digon i ddarllen cerddor- iaeth neu i chwareu offeryn cyn rhestru eu hanain. Mae y cwrs yn cynwys pedair-ar-hugain o ddarlithiau —deuddeg ar wyddoriaeth a deuddeg ar hanesydd- iaeth gerddorol. Mewn cysylltiad a'r rhai hyn y mae cwrs o addysg yn elfenau cerddoriaeth, yn