Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GERDDOE Y TONIC SOL-FFA. 25 HULLAH A CUBWEN. Mae y ddadl yn nghylch y ddwy gyfundrefn a gyn- rychiolir, y naill gan Mr. John Hullah, a'r llall gan lír. John Curwen, yn myned yn fwy poeth. Parodd yr anfoddlonrwydd a ddangoswyd i benodiad Mr. Hullah ýn Arolygydd Cerddorol dan y Llywodraeth i Gyngor Addysg wneyd ymchwiliad i'r mater, gyda golwg ar sicrhau i ba fesur yr oedd y ddwy gyfundrefn yn cael eu harferyd. Yn y fan y cyhoeddwyd yr ad- roddiad, neidiodd rhai o bleidwyr Mr. Hullah i gasgl- iadau ag nad oedd yr adroddiad yn eu cadarnbau. I ddechreu, dywedwyd fod llawer iawn mwy o ysgolion athrawol Brydain yn defnyddio trefn Hullah nag sydd yn defnyddio trefn Curwen. Wedi hyny, aed mor bell a dweyd y nifer oedd yn defnyddio pob un; a'r nifer, medd un, ydoedd 36 yn dysgu yn ol trefn Hullah, a 10 yu ol trefn Curwen. Wrth fyned trwy yr adroddiad, pa fodd bynag, yr ydym yn cael fod yr achos yn sefyll yn gwbl wahanol. Dyma fel y safant:— Bangor. Yn y rhan gyntaf o'r flwyddyn cymerwyd yr efrydwyr trwy gwrs cyflawn o wersi yn ol cyfundrefn y Tonic Sol-ffa. Ar ol gwyliau canol yr haf, cymerwyd bwy trwy gwrs cyffelyb yn yr Hen Nodiant. Battersea. Treí'n Hullah. Borough Road. Bhoddir darlithiau ar egwyddorion cerddoriaeth, a defnyddir yr Hen Nodiant. Mae yr ymarferion ar egwyddor do symudol. Y testyn-lyfr yw Musicai Analysis, gan Currie. Caerfyrddin. Trefn Hullah. Caernarfon. Dosbarth isaf, Uyfr Hullah; dosbarth nchaf, llyfr Sutton. Chelsea. Trefn Hullah. Ciieltenham. Dysgir yr efrydwyr i ganu yn yr Hen Nodiant, ac arferir do symudol. Caerlleon. Dyegir yr efrydwyr i ddarllen cerddor- iaeth yn ol trefn do symudol. Arferir Modulator y Tonic Sol-ffa mewn cysylltiad a'r Hen Nodiant. Introduction to the Study of Music, gan Wright, yw y testyn-lyfr. Culham. Trefn Hullah. Durham. Trefn Hullah, wedi newid ychydig arni, gan ein bod yn arfer y do yn symudol. Exeter. Derbynia yr efrydwyr eu gwybodaeth gerddorol yn gyntaf oddiwrth y llyfrau hyn:—(a) The Elernents of the Theory of Mustc, gan R. Sutton. (ò) The Elements of Musical Analysis, gan J. Currie, M.A. Yn ailj oddiwrth ddarlithiau gan yr athraw cerddorol, yr hwn nid yw yn defnyddio trefn Hullah na threfn Curwen, ond trefn y do symudol. Hammersmith. Y Tonic Sol-ffa. Homerton. Defnyddir yr Hen Nodiant, a'r hen Eillau do, re, mi, &c, yn symudol yn ol y cyweirnod. Y llyfr a arferir yw y Tfaining School Method, sylfaen- edig ar waith J. R. Weber, Berne, yr hwn sydd mewn arferiad cyffredin yn Switzerland. Peterborough. Y llyfrau a arferir yw Elements of Iheory of Music, gan Sutton ; Manual and Grammar ot Harmony, gan Hullah; a Composition, gan Goss. Saltley. Ar_ egwyddorion cerddoriaeth, arferir Elements of Musical Analysis, gan Currie; aci ddysgu canu, defnyddir trefn y Uythyrenau, gan gymeryd do yn symudol. ' Westminster. Yr Hen Nodiant. Winchester. Trefn Hullah. Yoek. TrefnHullah. Edinbubgh (Eglwys Scotland). Yn yr Hen Nodiant, gan gymeryd do yn symudol. » Edinburgh (Eglwys Rydd). Dysgir yr efrydwyr i ddarllen cerddoriaeth yn ol y Tonic Sol-ffa a'r Hen Nodiant. Cant gwrs o ddarlithiau ar egwyddorion cerddoriaeth gan yr athraw cerddorol; a defnyddir Standard Course Curwen a'r Scottish Psalmody fel testyn-lyfrau yn y rhan ymarferol. Glasgow (Eglwys Scotland). Y cwbí yn yr Hen Nodiant. Glasgow (Eglwys Rydd). Tonic Sol-ffa. COLEGAU MERCHED. Bishop Stratford. Trefn Hullah. Brighton. Arferir yr Hen Nodiant, a'r sillau do, re, mi, &c, i ddynodi y cyfryngau yn eu perthynas a'r Tonydd—do yn dynodi y Tonydd mwyaf, a la y lleiaf. Bbistol. Y Tonic Sol-ffa, gyda chyfnewidiadau. Cymerir y fii^yrau 1, 2, &c, yn lle do, re, &c, one bob amser am y cyweirnod. Cheltenham. Yr Hen Nodiant, sryda do symudol. Derby. TrefnHullah. Durham. Trefn Hullah. Home and Colonial. Trefn Hullah. HomertoN. Do symudol, yr un í'ath ag ysgol y meibion. Limcoln. Trefn Hullah. Livebpool. Touic Sol-ffa. Norwich. Y drefn a ddefnyddir yn y Class Singing Book, gan H. Rudd, disgybl i Miss Glover. Do sym- udol. Ripon. Yn ol trefn sylfaenedig ar Hullah's Method. Manual Hullah yw y prif destyn-ìyfr. Salisbury. Trefn Hullah. Stocrwell. Singing Metliod gan Weber, wedi ei olygu gan Dr. Unwin. Truro. Trefn Hullah, gydag ychydig o gyfnewid- iad. Warrington. Trefn Hullah. Whitelands. Trefn Hullah, gydag ychydig o gyf- newidiad. Edinbürgh (Eglwys Scotland). Hen Nodiant, gyda do yn symudol. Édinburgh (Esgobyddol). Tonic Sol-ffa a r Hen Nodiant. Edinburgh (EglwysRydd). Tonic Sol-ffa ar Hen Nodiant. Arferir yr un llyfrau ag yn ysgol y bechgyn. Glasgow (Eglwys Scotland). Yn yr Hen Nodiant. Glasgow (Eglwys Rydd). Tonic Sol-ffa. Abertawe. Tonic Sol-ffa. Darlington. Tonic Sol-ffa. Yn ol y daflen uchod, gwelir nad oes ond 16 yn dysgu trefn Huìlah, sef 8 o golegau i feibion, ac S i ferched.