Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CERDDOR Y TONIO SOL-FFA, GWAITH Y TAFOD. Ux o'r pethau sydd yn gosod arbenigrwydd neillduol ar ddyn ydyw ei dafod. Mewn llawer o bethau y mae y creaduriaid sydd o'i amgylch yn rhagori ar ddyn. Y mae lliaws o honynt yn llawer iawn cryfach nag ef. Rheda y ci bychan sydd yn chwarea o am- gylch ei draed yn llawer cynt nag ef. Gall yr aderyn nofio yn yr awyr pryd y rhaid iddo ef ymfoddloni ar symud yn araf ar íryd wyneb y pridd. Mewn gweled, clywed, ac arogli y mae yr anifeiliaid sydd o'i amgylch yn llawer cyflymach a galluocach nag ef. Ond am aìlu y tafod, nid oes dim cymhariaeth rhyngddynt. Yn rìiinwedd hwn y mae dyn yn profi ei hun ar un- waith raddau fyrdd uwchlaw yr anifeiliaid a ddifethir, ac yn sicrhau ei berthynas a byd uwch ac a bodau anhraethol ragorach na'r rhai hyn. Nid ydyw cy- farthiad y ci, beichiad yr ych, gweryriad y ceffyl, ie na chaniad yr aderyn nac efelychiad y parot ond gwael iawn i'w cymharu a'r hyn a wneir gan dafod dyn. Y mae gwaith y tafod yn gynwysedig mewn dwy ran. 1. Ei waith mewn cysylltiad a'r deall. 2. Ei waith mewn cysylltiad a'r teimlad. Byddai yr hen bobl yn arfer siarad am ddyn fel yn berchen ar ben a chalon. Wrth hyny byddent hwy yn deall yr un peth ag a ddeallir gan yr athronydd wrth y deallol (intellectuaî) a'r teimladol (emotional). Ac y mae ei swydd a'i waith arbenig i'r tafod mewn cysylltiad a'r naill a'r llall. Ar y naill law y mae i wasanaethu i gynyrchu a throsglwyddo meddyliau, ac ar y llaw arall y mae i wasanaethu i gynyrchu a throsglwyddo teimladau. Pan y meddyliom am eiliad am allu y tafod yn y naill adran a'r llall, yr ydym yn cael ein cynhyrfu i waeddi allan gyda'r Saímydd, " Ofnadwy a rhyfedd y'm gwnaed ! " Y gwaith cyntaf a mwyaf cyffredinol o lawer a roddir i'r tafod mewn cysylltiad a'r deall ydyw gwasanaethu i angenrheidiau y corph, a galluogi dynion i ddwyn yn mlaen drafnidiaeth a masnach. Yma y mae yn galluogi dynion i ddeall meddyliau, syniadau, a bwriadau eu gilydd—i gyfranu eu medd- yliau i'w gilydd—i berswadio eu gilydd gyda golwg ar fabwysiadu yr un syniadau a bwriadau—i gyfnewid golygiadau ac eiddo—ac i gydweithredu gyda'r un amcanion. Trwy offerynoliaeth y tafod mae y teulu niewn hwyl a chysur—mae y farchnadfa yn lrawn bywyd—mae y weithfa mewn cydgordiad, a holl olwynion peiriant cymdeithas yn cael eu troi yn drefnus ac effeithiol. Nid ydym wedi diolch erioed fel y dylem am wasanaethgarwch y tafod yn y cyfeir- W hwn. Y fath fyddai sefyllfa ein byd pe byddai ei ùoll drigolion yn analluog i siarad—pawb yn fud! vnd y mae lle inawr i oíni fod y tafod yn cael ei gamddefnyddio yn ddirfawr yn ymddiddanion cyff- redin ein gwlad. Y mae llawer iawn o " eiriau segur "—geiriau ofer nad oes dim o'u heisiau, yn cael eu defnyddio. Y mae swm mawr iawn o gellwair— siarad ymadroddion heb un ystyr, yn cael ei arferyd yn ein gwlad. Ac mewn rhai parthau yn Nghymru, y mae yn arswydus meddwl gymaint o fan lwon a gymysgír ag iaith gyffredin y bobl. Adwaenom ar- daloedd ag y bydd y rhan amlaf o'u trigolion yn arferyd rhyw fath o lw gyda phob ail frawddeg yn mron. Yr ydym yn cyfeirio at y cyfryw ymadroddion ag " Yn enw'r tad"—"yn enw'r taid "—"y Brenin mawr "—" yn enw'r Brenin "—" y tad anwyl "— " Diawch ! "—" O Duwch "—" Diaist i "—" myn Diaist"—" Duwcs anwyl"—"tawn i'n marw "—"da i byth o'r fan yma"—" byth na chyffrwy," &c. Yr ydym yn nodi y rhai hyn fel ychydig o lawer iawn o'r fath ymadroddion a arferir yn ein gwlad, y rhai nad ydynt na mwy na llai na llwon a rhegfeydd ag y dylid eu carthu allan yn llwyr o'n hiaith. Hyderwn y bydd y plant a'r bobl ieuainc sydd yn ymarfer a cherddoriaeth yn ystyried eu tafodau yn rhy lan a chysegredig i arferyd dim o'r cyffelyb byth mwy. Gwaith arall a roddir i'r tafod ydyw cynyrchu difyrwch. Y mae difyrwch yn naturiol ac angen- rheidiol i ddyn ; ac y mae y tafod yn gwneyd gwas- anaeth mawr iawn yn y cyfeiriad hwn ; a lliosog iawn ydyw y dulliau o ymadroddi ag sydd yn tueddi i greu ac i feithrin difyrwch. Yma y ceir arabedd, ffraeth- ineb, alleg, gwawdeb, diareb, dameg,—ffurfiau ag ydynt oll yn gyfreithlon a gwasanaethgar yn eu Ue ac o fewn terfynau priodol. Ond yma eto y mae diwylliant, disgyblaeth, a gofal raawr yn angenrheid- iol, rhag i'r hyn a amcenir er difyrwch a sirioldeb fyned yn foddion i feithrin gwagedd, oferedd, a choeg- ddigrifwch, ac i hyny, o radd i radd, fyned yn gancr yn yr ysbryd, a difa ynddo bob archwaeth at y syl- weddol, y difrifol, a'r pur. (Tw barhau.) CONGL YR EFRYDYDD IEUANC. Puw.—Yr ydych yn acenu yn gywir, ac nid ych- ydig o gamp ydyw hyny pan y mae acen y geiriau mor anwastad. Ychydig o feddwl sydd yn yr alaw; mae y gydgan yn welì, ond fod y cynghaneddiad yn wallus iawn. J. J. —Mae y Gan wedi ei hacenu yn afreolaidd iawn. Acenir y Gydgan ychydig yn well, nid yn hollol gywir ; ond y mae y cynghaneddiad yn wall- us. Nid ydym yn cyhoeddi Can a Chydgan oni bydd yn y'cyfansoddiad ryw ragoriaethau tra neill- duol.