Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. 17 GWAITH Y TAFOD. (Parhad o tu dal. 13.) Yn yr ail ddosbarth yn mha un y mae y tafod yn gwasanaethu i'r teimlad y mae cerddoriaeth sydd a'i hamcan yn uniongyrchol i gynyrchu ysgafnder neu ddifyrwch. T mae plant dynion yn hoff o ddifyrwch ; ac y mae \:\ hollol gyfreithlon a buddiol, cyhyd ag na byddo y mwyaf yn cael ei wneyd yn aberth er mwyn y lleiaf— yr enaid yn cael ei ddwyn dan draed yr anifail. Diau fod y fath beth yn bod. nid yn unig a difyrwch " dini- wed," ond difyrwch ílesiol, daionus. Mor iachjis a liyfryd, a gwir werthfawr lawer pryd i ysbryd prudd- aidd a llesg a fu can ysgafn neu hanesyn difyr ? Ac o'n rhan ein hun, ni waeth genym heb lawer o gwmni y dyn neu y ddynes na fedr fwynha» difyrwch, ac na fedr chwerthin yn galonog hyd nes byddo ei holl dabernacl yn cael ei ysgwyd gan y dylanwad. Mae yr Anfeidrol hefyd, fel tad ag sydd yn deall natur ei blant yn dda, wedi trefnu yn dra helaeth gyda golwg ar roddi difyrwch i blant dynion. Ac y mae rhai dynion wedi cael eu cynysgaeddu a mesur helaeth o ddawn yn y ffordd hon; ac nid oes un amheuaeth nad dyledswydct pawb ydyw gwneyd y defnydd goreu, yn mhob modd, o'r doniau a gawsant. Y mae ei lle felly i gerddoriaeth o nodwedd ddifyr ac ysgafn, fel y mae eu lle i ychydig o ymarferion ad- ìoniadol yn ngwaith dyn, i ychydig o felusder a pher- eidd-dra yn ei ymborth, ac i ychydig o adloniant yn ei ddiod. Y mae teinilad ysgafn a siriol yn fynych o werth amhrisiadwy; ac ni ddylid bod yn ddibris o unrhyw foddion cyfreithlon tuag at ei gynyrchu a'i feithrin. Ond gwyr plant dynion yn dda bellach beth fyddai ffawd anifyr y neb a dreuliai lawer o amser i chwareu, neu mewn ymarferion adloniadol; deallapob mam beth fyddai y canlyniad i'w phlentyn o gael Hawer o felusion ; a gwyr miloedd o wragedd a mamau betli ydyw y canlyniad gofidus o fod eu gwyr a'u tadau ynymhyfrydu mewn diodydd cynhyrfus. Acnid ydym liebfeddwl yprofa Oymru hecîdyw beth ydyw effaith ^nymunol gormod o gerddoriaeth ddigrif, ysgafn, ar feddyliau ei phobl ieuainc. Pregetha rhai i ni mai ™yg mawr ein cenedl y dyddiau hyn ydyw diffyg 'inoldeb ac ysgafnder—fod y dull y bu ein tadau yn pregethu ac yn dysgu crefydd, a'r modd y mae mwy na d!gon o'u plant yn dilyn eu hcsiampl, wedi gwneyd y genedl yn bruddaidd, athrist, a diysbryd; ac mai y ;eadyginiaeth fawr sydd yn angenrheidiol yn bresenol 'wrthweithio y dylanwad afiachus hwnw ydyw, digon j? adigrifwch. Prif apostol yr efengyl newydd hon, ^a'lai, oedd y diweddar Talhaiarn; ond y mae eto ar y maes deilwng olynwyr iddo yn y mater hwn. Rheda y ^ysgeidiaeth hon yn mhell yn gyfochroga'r ddysgeid- aeth gyda golwg ar y diodydd meddwol. Dywedir i gan un dosbarth fod yfed dwfr yn gwneyd dyn yn atanfJ yn Hcsg, ynddiysbryd; ac mai rhaid iddo, tuag aeii yn Sryf a chalonog, ydyw arferyd diodydd diod T? ,Oraddi radd, ac yn enwedig fel yr oedd ^ydu ep'c", dig yn gwneyd eu gwaith ar y me.ddwl, yn gystal ag ar yr archwaeth a'r cyfansoddiad, aeth yr arferiad o yfed dwfr—y ddiod a ddarparodd yr Anfeid- rol i'w holl greadigaeth, i gael edrych arni yn isel, amharchus, a gwrthodedig. Felly, yr un modd, yn . mysg dosbarth mawr, y mae siarad, a chanu, os na fydd yn cynwys digon o'r digrifol, yn cael ei ystyried yn ddwl, gwael, a dienaid. Rhaid cael y nofel, yr araith, y ddarlith, y llythyr yn y newyddiadur, y gan, ie, a'r bregeth—pob peth, mewn gair, yn eplesiedig. Dywedai Mr. Gough (ac nid oedd ar y ddaear neb a wyddai yn well), fod demon yn y ddiod feddwol; dywedwn ninau am yr ysbryd digrifwch ac ysgafnder sydd ar led yn ein gwlad y dyddiau hyn, mai demon ydyw. Dywedir wrthym fod yn rhaid i'r bobl ieuainc gael rhyw gymaint o chwareu—o ddifyrwch ac adloniant; ac y dylem ninau fyned i'w cyfarfod, a darparu ar eu cyfer. Y mae pob dyn rhesymol yn addef hyn; a diehon fod rhai a ddylasent ddyfod allan yn fwy blaen- llaw gyda hyn wedi ymgadw yn rhy bell yn ol, fel y syrthiodd y gwaith i ddwylaw a than lywodraeth dynion o gymeriadau ysgafnach a gwaelach. Ond y mae dwy ystyriaeth i'w cadw mewn cof. Y naill ydyw mai yn nhymor ieuenctyd y mae dyn yn ffurfio ei chwaeth a'i arferion. Y mae difyrion yn wasanaethgar mor bell ag y byddant yn gymorth i ddyn i ffurfio y cymeriad o fod yn weithiwr diwyd, caled, a difrifol; a dim pellach. Pa beth bynag a all fod yn feithriniaeth i segurdod meddwl, yn gystal a segurdod corph, o'r drwg y mae, a dylid ymgadw rhagddo. Os ydyw y melusion yn tynu archwaetb y plentj7n oddiwrth fwyd sylweddol, a thrwy hyny yn ei gadw yn eiddil, ac yn atal ei gynydd mewn c >rpholaeth a nerth, dyledswydd y fam ydyw ymgadw yn ddyfal a chydwybodol rhag rhoddi iddo y cyfryw bethau. Yr ystyriaeth arall ydyw, y gall dynion difrif- ol, trwy fynod yn rhy bell i gyfarfod arcliwaeth isel, feithrin yr archwaeth hono yn lle ei gwella; ac y gall eraill yn y man ddyfod yn mlaen a darparu ar ei chyfer fwy nag y gall eu cydwybodau hwynt mewn un modd ei ganiatau. Ae felly, ar ol bod yn foddion i feithrin yr archwaeth, bydd y Uifeiriant llygredig yn gryfach nag y medrant hwy ei lywodraethu. Nid ydyw gwneyd rhyw gymaint o ddaioni presenol yn dâigonol i gyf- iawnhau moddion ag sydd a'u tuedd naturiol i wneyd llawer mwy o ddrwg mewn amser a ddaw- Prin y mae yr ystyriaeth bwrysig hon yn cael lle dyladwy gan lawer yn y dyddiauhyn. Nid -ydyw son am ychydig o arian a geir at ddyleä capel, neu linell o foes-ddysg a all fod yn niwedd can, ar ol i holl deimladau anifeilaidd y gwrandawyr gael eu cynhyrfu, nemawr gwell na chell- wair mewn achcs ag sydd mor anhraethol bwysig. St. Paui, at wasanaeth Cerddoriaeth.—Ar ol y cyfarfod mawr a gafwyd yn St. Paul, yn Llundain, i roddi datganiad o gerddoriaeth Gregoriaidd, y mae Mr; Curwen wedi crybwyll, trwy fod yr iâ bellach wedi ei dori, y dylai Cymdeithas y Tonie So!-ffa cfyn am yr Eglwys Gadeiriol er cynal ynddi gyfarfod mawr o ger- ddoriaeth grefyddol. Os rhoddwyd yr eglwys genedl- aethol hon i'r Gregoriaid, nis galì un rheswm fod dros ei gwrthod i'r Sol-ffayddion.