Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ÖËRDDÖË t TONIÖ SÖL-FFA. 25 GWAITH Y TAFOD. (Parhad o tu dal. 17. j Gwelsom mai gwaith uchaf, ardderchocaf y tafod meŵn cysylltiad a'r deall ydyw llefaru am wirioneddau cref- ydd, eu dysgu, eu hegluro, a'u cyhoeddi i eraill. Yn yr un modd, y gwaith goruchaf sydd yn perthyn iddo mewn cysylltiad a'r galon ydyw canu mawl i Dduw. )íae y maes hwn yn un tra eang. Clywsom ddywedyd, a darllenasom, yn y dyddiau eynt, na ddylai dim gael ei ganu dan yr enw o " fawl " ond a fyddai yncynwŷe moliant yn uniongyrchol i Dduw. Condemnid canu galar am bechod, edifeirwch, teimladau o ofn, amheu- aeth, ac anghysur. Dywedid wrthym mai croes i reswm a synwyr ydoedd canu y fath benill a— " Pechadur wyf, da gwyr fy Nuw, Llawn o archollion o bob rhyw." Cofynid yn gondemniol pa synwyr oedd canu— " Ai marw raid i mi, A rhoi fy nghorph i lawr." Ar yr un egwyddor y collfernid ein Casgliadau o Hymn- au, a dywedid eu bod yn rhy helaeth er mor gyfyng oeddynt, ac yn cynwys lliaws o Benillion a Hymnau y rhai nís grallasai ac ni ddylasai cynulleidfaoedd eu canu, ercyraaint a wnaethid gan y Casglyddion yn y ffordd o ddethol, clytio, a newid. Ond y mae ychydig o fyfyrdod pwyllog ar y pwnc yn ein dysgu ar unwaith i wrthod yr haeriad fel un an- r-trhywir, yn gymaint a'i fod yn llawer iawn rhy gul. Addefwn y dylai pob geiriau a genir mewn addoliad, aen wasanaeth crefyddol, fod yn cynwys hanfod mawl i Dduw; ond haerwn y gallant fod felly mewn llawer iawn o ffyrdd. Am y cyfryw a'r Ganfed Psalm, a flymnau o'r fath, y maent hwy o nodwedd folianus amlwg, uniongyrchol; ond y mae Hymnau o ansawdd edifeiriol, erfyniadol, yn cynwys haofod mawl. Ni ddaethai pechadur gerbron Duw i gyfaddef ei fai, ac i adrodd ei edifeirwch am ei bechodau mewn acenion a'hrist a dwys, oni bai fod ganddo feddwl mawr a Pharchus am Dduw. Y mae yn ei weddi a'i edifeirwch }'i datgan y teimladau parchus sydd yn ei fynwes tuag at Dduw ; ac y mae hyny yn cynwys nanfod mawl. Mwy cywir a chyflawn fyddai dweyd fod cerddoriaeth fcrefyddoì yn llawforwyn gyfaddas i gynorthwyo y fyn- wes ddynol i arllwys allan bob math o deimlad a all godi ynddi, y tu yma i Iwyr anobaith a thrueni digym- y% wrth edrych a myfyrio arwrthddrychau a gwirion- ™dau crefydd. Os dyna y gwirionedd, yna y mae maes caniadaeth gysegredig mor ddiderfyn a gwrthddrychau Cr«ydd. Gall dyn redeg mewn myfyrdod ar Hanfod ■^Uuwdod yn dri Pherson—gall edrych yn ngoleuni ^atguddiad ar luniaethiad y drefn mewn Cyfryngwr i J' Pechadur—gall ymollwng i fyfyrio ar y drefn /pdd tono yn cael ei dwyn oddiamgylch gan Dduw- i i» 1rga^ ymcüwilio i ryfeddodau diderfyn y Pryned- saeth trwy ei waed Ef—gall ollwngallan ei glodforedd wrth rodio ar hyd glenydd y moroedd diwaelod hyn— gall edrych arno ei hunan, gall wylo o herwydd llygr- edd ei galon, rhyfeddu wrth fawredd cariad Duw yn edrych arno, ac addoli yn yr olwg ar effeithiolrwydd y drefn, trwy yr Ysbryd Glan i'w adferyd a'i berffeithio— gall edrych allan ar waith y deyrnas yn cael ei ddwyn yn mlaen er gwaethaf holl lid ac ystrywiau uffern— gall dafiu ei olygon yn mlaen ar y golygfeydd netblaidd ä ymagoränt o'i flaen oddiar lethroedd Calfaria a'r Olewydd—ac nid rhyfedd mewn un modd fyddai ei weled ambell dro wedi ei lyncu i fyny gan fawredd a gogoniant ý golygfeydd a ymddadblygent ger ei fron. Ond i ba beth y dechreuwn ? Mae y maes yn yraagor o'n blaen yn gwbl ddiderfynau yn mhob cyfeiriad. A'n pwnc ni ydyw, fod cerddoriaeth grefyddolynogymesur a'r holl wrthddrychau a'r gwirioneddau mawrion hyn. Addefwn nad ydyw y defnydd a wneir o honi ond cyfyng a chul iawn; ac wrth ystyried mor ychydig o'i thir sydd yn cael ei llafurio, ac mor wael a dirym y dygir yn mlaen yr ychydig lafurio sydd, nid yw yn rhyfedd mewn un modd fod y cynyrch mor brin. Er fod Williams o Bantycelyn ac eraill wedi canu athraw- iaethau yr efengyl yn dra gogoneddus a phrydferth, nid ydyw y defnydd a wneir o'u gwaith yn ein cynull- eidfaoedd ar hyn o bryd ond bychan, ac nid yw y canu a geir, os meiddir myned allan ychydig o'r hen lwybrau sathredig, ond oeraidd, gych, a hynod o aneffeithiol. Os ydyw cerddoriaeth wedi ei hordeinio gan Dduw i ddwyn gwirioneddau crefydd adref i'r galon gyda nerth a blas newydd—ie, gyda nerth a blas ag sydd y tu hwnt i allu un cyfrwng arall, onid ydyw yn canlyn y dylai y rhan hon o'r gwasanaeth gael y sylw mwyaf pwyllog a gofalus gan bawb ag sydd yn perthyn i'r gynulleidfa ? Mae yn sicr mai nid ychydig yn y gy- nulleidfa sydd i lafurio gyda'r gwaith goruchel hwn; ac mai nid y rhan hon o bob rhan o'r gwasanaeth ddylai fod y fwyaf aneffeithiol a dilewyrch. Wrth roddi hanes y gyngherdd a roddwyd gan Philharmonic Society Liverpool ar y 6ed oFai, erbudd yr Orphan Asylmn, dywed y Musical Stanâard:— " Teimlai Miss Edith Wynne a Mr. Santley na ddylas- ent fod ar ol mewn gwneyd rhywbeth i'wtref enedigol, a rhoddasant hwy, ynghyd a Mr. E. Lloyd, eu gwasan- aeth yn rhad. Ër pa bryd, tybed, y mae Miss Sarah Edith Wynne o Dreffynnon, yn "enedigol" o dref Liverpool? Ymddrngys fod Liverpool yn anfon tri o gorau i gystadleuaeth y Palas Gwydr; ond nid i gystadlu am y brif wobr. Ymddengys fod y diweddar John Stuart Mill yn gerddor da—vn feirniad craffus mewn cerddoriaeth, ac yn chwareuydd gwych ar y piano. Yr oedd hefyd yn hoff iawn o lysieuaeth. Ttbia Mr. G. A. Macfarren mai Herr Brahmssyddi godi a gwisgo mantell y prif gerddorion, yr hon a syrthiodd oddiwrth Mendelssohn, ac sydd hyd yma heb ei chyfodi.