Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. 37 CYLCHWYLIAU BIRMINGHAM A HENFFORDD. Eleni, yn wahanol i'r arfer gyffredin, yr oedd Oylcb- ffyl Birmingham yn dyfod o flaen Cylchwyl HenfFordd. Cynhaliwyd y gyntaf yr wythnos olaf yn Awst, a'r olaf yr ail wythnos yn Medi. 0 ran poblogrwydd, yr oedd fjylchwyl Birmingham eleni yn mhell y tuhwnt i'r un a gäfwyd erioed o'i blaen. Yr oedd y derbyniadau dros £15,660. Effeithiodd presenoldeb Duc Edinburgh, mae yn ddiau, lawer yn y cyfeiriad hwn. Bu yno mewn pump o'r cyfarfodydd—yn gwrando Elijah, gwaith Mendelssohn, yr hwn oedd mor hoff gan ei dad a'ifam; yn gwrando oratoria newydd Mr. Sullivan, gwaith yr hwn a hoffir yn fawr gan y tsulu brenhinol; ac yn gwrando gweithiau newyddion Schira a Randegger. Òratoria faith a llafurfawr, fel y sylwyd, ydyw cyfan- sodiiad newydd Mr. Sullivan. Ei henw yw The Light ofthe World (Goleuni y Byd); a'i thestyn, fel y gellir casglu, yw Iesu Grist—mewn modd arbenig yn ei wedd ddynol, fel Athraw, Iachawdwr, a Phrophwyd. Syn- iad y beirniaid yn unfrydol ydyw fod y gwaith yn un pwysig a dyddorol, a'i fod yn amlygu galluoedd cerdd- orol llawer tuhwnt i'r cyffredin. Tybia rhai mai hon yw yr oratorio oreu a gafwyd ar ol Elijah; ac y gall fod I yn well eto ar ol i'r cyfansoddwr edrych drosti, gan j dynu rhai pethau allan a pherffeithio pethau eraill, cyn ei hargraffu a'i chyhoeddi. Datganwyd hi yn ardderchog, dan arweiniad y cyfansoddwr ei hun, a chafodd dderbyniad tra gwresog. Cymerid y prif srymeriadau gan Mdlle. Titiens, Madam Trebelli Bettini, Mr. Sims Reeves, a Mr. Santley—pedwar o îantorion o'r dosbarth uchaf oll. Er fod cantata Sig. Schira, The Lord of Burleigh, yn cynwys llawer o fyw- iogrwydd, a dyfeisiau tuag at gynyrchu effaith, nid ydys yn teimlo fod ynddi elfenau parhad. Y mae yn ysgafn a melodus, yn gynrychioliad da o gerddoriaeth Itali ar y pryd presenol; ond nid yw yn feddianol ar y nerth bywyd hwnw a'i gesyd yn mysg y gweithiau nad oes marw yn perthyn iddynt. Bu Sig. Randegger, yn eigantata Fridolin, rywfaint yn fwy llwyddianus. O'i rüyw, addefir fod hon yn un o'r rhai goreu, er nad yw y gerddoriaeth mor newydd a gwreiddiol ag y buasai jn ddymunol. Y prif weithiau eraill a ganwyd, heblaw y rhai newyddion hyn, oeddynt yr oratoria Elijah (Men- delssohn), Messiah a Judas (Handel), detholion o gerddoriaeth gysegredig boreu dydd Gwener, yn cynwys y gantata, " God, thou art great," o waith Spohr, a darnau amrywiaethol yn y cyngherddau yn jr hwyr. Yr oedd y cor a'r gerddorfa yn llawn cyatal &g erioed; ac yr oedd y corph o brif gantorion oedd yn bresenol yn ei gosod ar unwaith yn y dosbarth cyntaf, a thua'r flaenaf yn y dosbarth hwnw. Y rhai hyny oedd :—Soprano, Mdlle. Titiens, Mdlle. Albani, Madam ^emmens Sherington; Contralto, Madam Trebelli «ettmi^MadamPatey; Tenor, Mr. Sims Reeves, Mr. ^mmings, a Mr. Vernon Rigby; Bas, Mr. Santley, a 'ẁg. Foli; a'r cwbl dan arweiniad Syr Michael Costa. 10 Yn Henffordd, un cyfansoddiad newydd yn unig a gafwyd, sef oratoria fer o waith y Parch. Syr F. Gore Ouseley, Mas. Doc, Proffeswr cerddoriaeth yn Athrofa Rhydychain, a phrif gantor Eglwys Gadeiriol Hen- ffordd. Enw yr oratorio yw Hagar, ond rhoddir llawer mwy o amlygrwydd yn y gwaith i Abraham a Sarah. Mae yr oratorio yn amlygu ei hawdwr fel cerddor gwir ddysgedig, a chyfarwydd iawn yn ngherddoriaeth Eglwys Loegr yn y tri chan mlynedd diweddaf, ac yn enwedig yn y cyfnod Tudoraidd. I efrydydd cynghan- add eglwysig, mae y gwaith yn uu o werth a dyddor- deb mawr ; ond nis gall fod felly i'r Uuaws, oherwydd ei ymddifadrwydd o felodedd a theimlad. Y prif gan- torion yn yr wyl hon oeddynt:—Soprano, Mdlle. Titiens a Miss Edith Wynne; Cantralto, Madam Trebelli Bettini, a Miss Enriquez; Tenor, Mr. Cum- mings, Mr. Edward Lloyd, a Mr. Montem Smith ; Bas, Mr. Santley, a Signor Agnesi. Y prif weithiau a gan- wyd yno oedd Elijah a St. Paul (Mendelssohn), Messiah a Je»hthah (Handel), Stábat Mater (Rossini), a lluaws o fân ddarnau amrywiaethol. Yr oedd y líe yn dra chyfaddas i Mi?s Edith Wynne—heb fod yn ormod o faint i'w llais, a chanodd yn dra rhagorol. BWRDD Y GOLYGYDD. Y mae ar ein bwrdd heddyw ddau lyfr o gerddoriaeth newydd, yn y Tonic Sol-ffa, y rhai y dylam ddweyd gair yn eu cylch. Y cyntaf yw— Cantata y Plant ; neu Ymgom yr Adar. Y geiriau çan y Parch. Thonias Levi, a'r gerddoriaeth gan Mr. Joseph Parry, Mus. Bac. Gallwn ddweyd wrth y cerdiior Cymreig, Edrych ar hwn, dyma beth newydd. Nidydym yn meddwl ygellir dweyd am dano, Efe a fa eisoes yn yr hen amser o'n blaen ni. Y mae yn beth newydd tlws a dyddorol iawn hefyd. Gwyr miloedd lawer o blant Çymru am ddawn .\Ir. Levi. Gwyddant pa mor syml, naturiol, a dyddorol y medr efe ysgrifenu, ar gân yn gystal ag mewn rhyddiaeth. Am y geiriau, gan hyny, digon yw dweyd eu bod fel Mr. Levi, yn ei ddillad goreu. Ÿ syniad ydyw—Yr adar yn ymgomio a'u gilydd, yn adrodd eu gwahanol rinweddau, ac yn gosod allan cu gwahanol wersi, abachgenynyn gwrando arnynt, yn beirniadu, ac yn dysgu eu gwersi. üygir yn mlaen yma y Gwcw, yn canu—" Gwcw, gwcw,. ddinas a gwlad," a'i wers ef yw "canmol ei hunan- fwynhad." Gwers yr Eurbinc (Ooldfinch), a'i wisg o felyn a pharphor, ydyw— . ct Os mynwch gael parch gan y byd, Rhowch lawer o'eh bryd ar eich dillad." Gwers bwysig y Robin ydyw— " Mai goreu yw bod yn garedig." Ceir araeth a chân gan yr Eryr; ystyr ac ysbryd ei syniad ef yw awdurdod ac uchelfrydeddar gyfrif eifawr nerth. Tarawiad hapus yw dwyn y Dryw Bach, yn wrthgyferbyniol iddo, gyda'i—