Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CEEDDOR Y TONIC SOL-FFA. 13 BWEDD Y GOLYGYDD. Soarfab.—Yr ydych yn gvwir ; diolch i chwi am ysgrifenu. Yn " Y Goedwig," 0. T. S.-Ff., Ehii'. 63. yn nechreu yr ail symudiad, dylasai y n , DOH E. sopranofod ||depl ac nid dn. Telyn'OR.—Derbyniasom y Gydgan, ac y mae rhan- au ohoni yn ein boddhau; oncl nis gallwn gymeradwyo eicb gwaith yn tudal. 2 a 3. Os oeddych yn ewyllysio cael ffoal o ryw fath, gwell fuasai i chwi weithio un meddylddrych allan yn dda, ysgoi y llithreni hirion a geir yma, a cbadw y rhanan ar waith yn lled gyson. Mae y symudiad bychan olaf yn un dedwydd. Edrych- wcli eto a'i ni ellwch weithio y rhanau canol yn well. CONGL YE EFEYDYDD IEUANC. Dewi Myrddin.—Mae y Salm-Don yn gywir; ond nid ydym yn teimlo fod y pas-donau yn yr ad- ran gyntaf yn ateb un diben da. Yr ydych yn gweithio yr Hymn-Don hefyd yn ganmoladwy ; ond ar ol astudio ychydig eto &xffurf chwi a ganfydd- wch nad yw llin. 3, 4, 5, yn foddhaol o ran perthynas y dosranau na gwrthgyferbyniad y diweddebau. Rby ycbydig o berthynas a gwrthgyferbyniad a geir ynwir trwy yr holl Don. Llin. 1, curiad 5, caled yw y f noeth yn y tenor ; buasai cbwifiad o | m : f yn well. Llin. 3, cur 2. i ysgoi Sfedau trwy symud- iad gwrthgyfeiriol rhwng y ranau pellaf ; i i gwell fuasai rhoddi y cord F yn ei gyflead b, trwy roddi 1 yn y bas. Eto, cur. 8, gwell fuasai parhau y P yn ei gyflead a, na'i newid i gyflead c. D. 0.—Y mae gradd helaeth o deimlad yn y Ton- au, ac yr ydych wedi eu cynghaneddu yn syml a da. Yn y don gyntaf, llin. 1, cur. 8, 9, 10, nid da ydyw J' 1 noeth a ddygir i fewn i gord D ; gwell fuasai d1 yn y tenor, a m yn yr alto, yna yn y ddau gord nes- af gallai yr alto fod yn | m : r a'r tenor yn | d1 : t- Maeyn wir y byddai 1 (y 5ed) allan felly, ond bydd- ai symudiad cydgyfeiriol y tenor a'r alto, a chroes- gyfeiriol y ddau a'r bas, yn esgus digonol dros hyny. Lbn. 3, cur. 2, nid da ydyw y cordiau hyn. Gwen- did yn yr ail Don yw fod y bas yn ail adrodd yr un adran yn llin, 1, 2. Y mae rhanau o'r Don arall jn dda; ond yr ydym yn meddwl, ar eiriau mor faith, y bydd unrhywiaeth y mydr yn ei gwneyd i raddau yn ddiflas. Beth pe byddech yn sefyll uwch ei phen eto, ac yn ei rhoddi mewn amser dau neu dri yn y mesur, gyda mydr amrywiaethol, a dwyn i fewn fwy o efelychiad yn y felodedd, a gwrthgyfer- byniad gwell mewn rhai o'r diweddebau ? T. "V. D.—Ymroddwch i feistroli nodiant y Tonic Sol-ffa. Astudiwch lfurf diweddebau hefyd, a chylch y gwahanol ranau. Y mae chwe' llinello Don heb un math o ddiweddeb ond yn y diwedd yn unig yn ormod. Rhoddir y tenor i ganu E£ mewn 17 o'r cord- iau, a'r bas i ganu o'i G uchaf i fyny mewn 24 o'r cord- iau. Dylai cerddoriaeth gael ei hysgrifenui'r gwahan- ol ranau o fewn y cylch y gall y lleisiau ei chanu yn fwyaf effeithiol. Y WASG GEEDDOEOL, Y mae dau lyfr bychan ger ein bron, yn galw am air o sylw oddiwrthym; ac y mae yn dda iawn genym deimlo y gallwn yn ddibetrus ddweyd gair yn ffafriol i bob un ohonynt. Digon diflas ydyw gorfoà condem* nio llyfr ; a pheth ag sydd yn agos mor ddiflas a hyny ydyw ei adael mewn distawrwydd, am nad oes genym braidd 3dim da i ddweyd am dano. Un o'r llyfrau hyn yw "Y Canibdydd American- aidd ; at wasanaeth yr Ysgol Sabbathol a'r Aelwyd." Y geiriau Cymraeg gan M. S., Merthyr. Gwylaidd o naturiaeth yw " M. S. ;" ond ni buasai raid iddo gy- wilyddio rhoddi ei enw yn llawn wrth yr Hymnau bychain hyn. Y mae rhai ohonynt yn ddaiawn. Nid oes yn y casgliad bychan ddim i lygru, ond llawer a all fod yn foddion i wella, y Irhai a'i canant. Mae y Tonau, fel y deallir wrth yr enw, yn waith awduron Americanaidd; ond nid ydynt i gyd, fel yr awgrymir ar y wyneb-ddalen, yn waith Mr. P. Phillips. Y mae "Shalí we gather" a " Beautiful Zion," y rhai a ymddangosaasnt eisoes yn y Cerddor, y naill yn waith Mr. Ijowry a'r llall yn waith Mr. Bradbury. Y llyfr arall yw ''Dafydd:" Cantata Cysegredig, gam H. Davies, A C., Garth, Ruabon. Nid ydyw trefniad rhai o'r Salmau yn y gwaith hwn yn ein boddio. Trefniad drwg iawn sydd ar y 91ain. Ceir yma ormod o Adroddiadau hefyd, a cbarasem gael mwy o newydd- deb a tblysni mewn rhai rhanau. Prin befyd y mae yr Hymn "Ar for tymhestlog teithio'r wyf," &c, yn briodol yn hanes Dafydd, yr hwn ni bu, mae yn debyg, ar y mor erioed. Wedi crybwyll rhai pethau yn erbyn y gwaitb, mae yn dda genym ddweyd ei fod yn cynwys llawer mwy o rasroriaethau na diffygion. Y mae Mr. H. Davies wedi llafurio yn galed gyda'r Tonic Sol-ffa. Byddai yn dda genym ddeall fod ein Dosbarthiadau, ar ol myned trwy " Gantata y Plant," yn yrugymeryd a hon, yn ei dysgu ac yn ei chanu. ^ Ymrodded yr awdwr ati. Peidied cyfansoddi yn rhy frysiog.