Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. 37 AT EIN GOHEBWYR. Derbyniasom gerddoriaeth oddiwrth P. Edwards (tri irn), G. Degar, E. Davies, Alaw Myrddin, Llew Llifon, law Trefor (dau ddarn), Alaw Afan, Eos Edeyrn, lawfryn. Disgwyliwn gael mwy o hamdden i sylwi nynt yn ein nesaf. íYFARFOD COLEG Y TONIC SOL-FFA YN GLASGOW. tnamwyd y cyfarfod hwn eleni yn Glasgow, yr wyth- os gyDtaf y Awst; a chafwyd cynulliadau a chyfar- )dydd tra rhagorol. Wrth draethu ar "Arwain Canu," osLun (Awst 3), sylwai Mr. Curwen ar yr anhawsder gadw y Don ymlaen yn ei chyweirnod a'i hamser. Yr edd rhagfarn rhai pobl mor gryf fel y byddai rajd i'r rweinydd weithiau beidio defnyddio ffon; ac eto yr edd ffon yn well i arwain na llais yr arweinydd. Ni dylai ganu y soprano (neu y prif alaw) onide dysgai y obl i ymorphwys arno, a rhwystrai y merched i ganu n llawn ac yn annibynol. Lle byddo cor ac organ, ylai y cor arwain, a'r organ lanw i fyny a chefnogi. )ylai yr arweinydd ddeall ei lais ei hun yn dda, a'i rfer yn y modd mwyaf manteisiol i ddysgu y gynull- idfa i ganu gyda dealldwriaeth. Darllenwyd papyr addysgiadol a dyddorol gan Mr. îolin Brown ar " Ffug-ddysgu " (Sham-teaching). Sfallai nad oes dim yn gwneyd mwy o niwed i Sol-ffa la gwaith pobl yn proffesu dysgu yn ol ei threfn, pryd lad ydynt yn gwneyd hyny. Dydi Mawrth (Awst 4) rhoddwyd arddangosiad o ' ganu wrth olwg a ehlust-ymarferion gan blant," dan .rweiniad Mr. W. M. Miller. Ehifai y dosbarth 50, anasant amryw Donau yn cynwys haner curiadau a hrawsgyweiriadau, a chanasant yr anhawddaf o honynt uag yn ol, a'r cwbl gyda'r hawsder mwyaf. Canasant vedi hyny ddwy gân gydag amrywiaeth mynegiant, ac tethant trwy ymarferiad anhawdd ar y Modulator, yn ìynwys trawsgyweiriad a'r tonau gg a fe, a dweyd )rawddegau o dair neu bedair ton. Gwnaethant y :wbl er boddlonrwydd mawr. Crybwyllwyd am y gwasanaeth pwysig a wnaed gan Mr. Eidston gyda golwg ar y Llywodraetb ac Arolyg- ad Cerddoriaeth y Colegau athrawol. Yn yr hwyr, dechreuwyd dadl ar " Arwain canu " ?an Mr. Proudman, yr hwn a ddaliai y dylai yr ar- ^einydd ganu y prif alaw bob amser. Dadleuai eraill Iros gaeì cor i arwain, yn mha rai y byddai lleisiau pnodol yn arwain pob rhan, ac mai gweddillion bar- oanaeth ag oedd yn cyflym ddiflanu yw i'r arweinydd ganuyprifalaw. Darllenwyd papyr gan Mr. Litster ar " Brofiad a «yiw, a chafwyd anerchiad gan Mr. Miller ar " Hy fforddi Lleisiau Bechgyn." Cafwyd wedi hyny ymddiddan maith a dyddorol, jn mha un y cymerwyd rhan gan Mr. Curwen, Mr. Millér, a Mr. Proudman. Dydd Mercher, yn y boren, cafwyd ymddiddan gyda golwg ar gurphoriad y Coleg a chael iddo Freinlen F/enhinol. Cydnabyddai Mr. Curwen y gwasnnaeth pwysig a wnaed gan Mr. Lushington, Q, C, Mr. Kid- ston, a Mr. Lichfield, ac awgrymai y dymunoldeb o roddi cyngherddau trwy y wlad, fel y gwnaeth " Can- torion y Juwbili," er mwyn gwneyd trysorfa i ddwyn y draul. Sylwyd fod yn angenrheidiol iawn cael lle a mantais i roddi addysg i athrawon yn y drefn. Dywedai Mr. C. Brown fod pris cantorion ac athrawon da yn y drefn hon yn codi. Yr oedd £150 yn y flwyddyn wedi ei roddi yn Aberdeen i A.C ag oedd hefyd yn chwar- euydd da, am ddwy nos yn yr wythnos, ac yr oedd £70 ac £80 wedi eu cynyg yn Liverpool i athrawesau gyda thystysgrifau da yn y drefn hon. Cynygiwyd, eiliwyd, a phasiwyd yn wresog, fod y Coleg yn cael ei gorphori ; a dywedai Mr. Miller wrth eilio na ddylid ymfoddloni heb gael Breinlem hefyd. Yn yr hwyr darllenwyd papyr anarferol o dda gaa y Parch. D. Batchellor. Cwynai Mr. Roadie fod eisiau ymarferion newyddion; ac awgrymai Mr. Curwen fod ei fab a'i feddwl a'i galon ar y gwaith, ac y gellid dysgwyl ymarferion newyddion oddiwrtho yn fuan. Sylwai Mr. Curwen, yn ei bapyr ar " Gynlluniau Gwersi," &c, y dylai gallu y dosbarth gael ei ystyried bob amser wrth drefnu y wers, ac y byddai yn gyfleus amrywio ychydig weithiau oddiwrth y cynlluD. Mewn dosbarthiadau elfenol, dylai fod llawer o ymarfer ac ychydig o siarad. Celfyddyd fawr oedd gwybod pa faint a fedrai dosbarth ei wneyd yn yr amser, crynhoi y wers, a gadael pob pwynt pan y byddai wedi ei orphen. Ni ddylid siarad ond ychydig yn y canol i roi seibiant i'r lleisiau. Dylai gwaith o'r un natur gael ei ddwyn yn mlaen yr un amser yn y dosbarth. Ýr oedd cynllun awr a haner o wers wedi ei ysgrifeni ar y bwrdd du, yn cynwys 13 o wahanol ymarferion a gwaith. Yn y tymor o chwech wythnos y bwriedir ei gael yn fuan i roddi addysg i athrawon, dywedai y bydd i'r athrawon gael eu dysgu ac y bydd i'r gwersi a roddir ganddynt gael eu beirniadu—gyda golwg ar eu cyfaddasder i'r dosbarth ; gyda golwg ar yr egluriadau a roddir, a yW y dosbarth a'r athraw yn hapus gyda'u gilydd, a yw yr athraw yn creu ac yn cadw dyddordeb yn y dosbarth, a yw ei egluriadau yn dda, a ydyw yn arwain eu medd- yliau yn mlaen, pa nn a ddywedodd efe ormod neu ry ychydig, pa u,n a adawodd efe i'r disgybl chwilio rhy w bethau allan ei hunan, ar ol agor cil y ffenestr o'i flien. Beirniadid hwynt hefyd gyda golwg ar eu gallu i gadw disgyblaeth, a chant eu dwyn i ysgolion i roddi gwersi, ac i weled gwersi yn cael eu rhoddi gan athrawon prof- iadol. Cafwyd gwers wedi hyny gan Mr. Proudman ar ddysgu cor, a chanwyd yr Anthem Jubili, dan arwein- iad y cyfansoddwr, Mr. Merryless. Dydd Iau, dechreuwyd gyda sylwadau beirniadol ar bapyrau Mr. Batchellor a Mr. Curwen. Tybiai Mr. Miller fod gormod o wahanol bethau yn ngwers Mr. Curwen. Yn ei bapyr ar "Ddysgu Babanod i Ganu," sylwai