Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CEEDDOE Y TONIC SOL-FFA. 41 G YLCHWYLIAU LIYEEPOOL A LEEDS. Yn ystod 7 mis diweddaf (Hydref) rhoddwyd dwy gylchwyl gerddorol yn ngogledd Lloegr, y naill yn Liverpool, a'r llall yn Leeds. Nid peth newydd i Liverpool yw cylchwyl gerddorol. Cynhaliwyd y gyntaf yno yn nghanol mis Medi, 1784—90 mlynedd yn ol, am bam diwrnod, pryd y canwyd detholion o Messiah, Judas, a phethau eraill, yn Eglwys St. Peter, a cherddoriaeth fydol yn y Theatre Royal. Yn mhen chwe blynedd cafwyd cylchwyl gyffelyb, pryd y rhoddwyd Messiah yn gyflawn, a'r oratorio Re- demption gan Dr. Arnold. Yn 1799, rhoddwyd y drydedd gylchwyl, yn yr un drefn a lleoedd eto, a'r Messiah eto oedd y prif attyniad. Yn hon chwareu- id yr organ gan Dr. Wainwright, a'r piano gan Mr. Webbe. O'r flwyddyn hono hyd 1823, ni chaed un gylchwyl gwerth ei chrybwyll yn Liverpool. Yn y flwyddyn hono, pa fodd bynag, cafwyd un ragorol. Yn mysg y prif gantorion yr oedd Mr. John Braham a Mr. Henry Phillips—Syr George Smart yn ar- weinydd, a Mr. F. Cramer yn brif ar y violin, a Mr. Lindley ar y violoncello. Yn hon, rhoddwyd Messiah, Mount of Olives, a detholion o weithiau eraill. Cynhaliwyd y bumed yn 1827—Syr G. Smart eto yn arweinydd, a Mri. Cramer a Mori ar y violin. Gwnaeth Madam Pasta ei hymddangosiad cyntaf yn Liverpool yn y gylchwyl hon, ond oer fu ei derbyniad, er ei bod ar y pryd yn anterth ei phobl- ogrwydd. Yn 1830, yr oedd Madam Malibran yn bresenol, yr hon a gafodd 300 gini am ei gwasan- aeth. Yn mysg gweithiau eraill, rhoddwyd datgan- iad (am y tro cyntaf yn Liverpool medd rhai) o Midsummer NighCs Dream Mndelssohn), a Last Judgement (Spohr), yr ail waith yn Lloegr. Yn y gylchwyl yn 1833, gwnaeth Clara Novello ei hym- ddangosiad cyntaf yn Liverpool—yn ferch fechan 15 oed ; a chyda hi yr oedd Mad. Malibran, Mr. Henry Phillips ac eraill—Mr. George Holden yn feistr y cor, Syr G. Smart yn arweinydd, a Mri. Cramer a Loder ar y violin. Yn 1836, cynhaliwyd yr olaf o'r hen gyfres o gylchwyliau ; ac y mae yn nodedig ar ddau gyfrif neiìlduol ; y naill, mai ynddi y rhoddwyd y datganiad cyntaf o St. PauZ(Mendels- sohn) yn Lloegr, a'r llall oedd marwolaeth sydyn Madam Malibran yn Manchester, cyn cyrhaeddyd i gymeryd rhan yn nghylchwyl Liverpool. Yr oedd Mri. Braham a Phillíps yn bresenol, a Mr. J. A. Novello (tenor), yr hwn, ar ol hyny, a ddaeth mor aànabyddus fel cyhoeddwr. 0 hyny hyd y flwyddyn hon, er y cafwyd yno gyngherddau godidog, ni chafwyd dim yn deilwng o'r enw cylchwyl. Nid oedd neb o gerddorion y cylchwyliau gynt i j gymeryd rhan yn yr hon a gynhaliwyd eleni. Yr I oedd Syr G. Smart wedi cilio, a'i le yn cael ei lanw ; gan Syr Julius Benedict; lle Mri, Cramer, Loder a I Mori yn cael ei lanw gan Mr. Sainton, Mr. Carrod- I us a Herr Straus; Madam Mara, Pasta, Malibran, ! Clara Novello, &c, wedi gadael eu lle i Madam ! Patti, Mdlle. Albani, Miss Edith Wynne, a Madam ; Patey; lle yr ardderchog John Braham yn cael ei lanw gan ei deilwng olynydd Sims Reeves, a lleoedd H. Phillips ac eraill gan Santley, E. Lloyd, a Behrens. Nid ydym yn gwybod fod diîn i'w feio ar y detholiad a wnaed eleni o brif gelfyddydwyr, oddigerth Madam Patti. Y mae hi yn un o brif gantoresau Ewrop (nid y brif gantores—fel cantores, yn annibynol ar bob peth arall, y mae Mdlle. Titiens yn ddigon o'i blaen). A thuag at sicrhau llwyddiant masnachol y gylchwyl, yr oedd yn rhaid ei chael hi yn seren, a thalu £800 iddi am ganu yn y cyngherddau yn yr hwyr. Yr oedd mesur mawr o arogl masnach hefyd ar ddygiad Duc Edinburgh i fod yn gadeirydd, a phethau eraill; a phrofodd y dref ei hun yn dref masnach mewn modd arbenig yn y gwahanol gynulliadau. I dde- chreu y gylchwyl dydd Mawrth (Medi 29) rhoddwyd datganiad ardderchog o St. Paul (Mendelssohn). Nis gallasai dim fod yn fwy priodol, ac nid yn aml y cafwyd datganiad mwy boddhaol o'r oratorio ar- dderchog hon—Miss E. Wynne, Mad. Patey, Mr Lloyd, a Mr. Santley, yn cymeryd y prif ranau. Ond yn mha le yr oedd pobl Liverpool ! Un o't gweithiau godidocaf a roddwyd i'r byâ gan athrylith ddynol, yn cael ei ddatgan gan un o'r cynulliadau mwyaf galluog o gerddorion i ugeiniau, os nad eau- oedd o eisteddleoedd gweigion ! Detholion a gaíwyd yr ail foreu. Y trydydd dydd (Iau) rhoddwyd oratorio newydd Mr. Sullivan (The Light of the World), dan arweiniad y cyfansoddwr. O herwydd fod Mr. Sullivan wedi digwydd dyfod yn boblogaidd fel cyf- ansoddwr caneuon, daeth cynulliad da i wrando ei oratorio ef; ac yn sicr rhaid iddo gael ei foddloni hyd eithaf dymuniad ei galon yn y datganiad a gaf- wyd o honi. Yr un rhai, gyda Mr. Sims Reeves, a gymerent y prif ranau yn hon eto. Yn y ddwy gyngherdd hwyrol, yr oedd y lle yn llawn; ond gwrandewid y darnau mwyaf coeth a chlasurol yn oeraidd a diddyddordeb, tra y byddai y tŷ ar dàn pan y canai Madam Patti y cyfryw ganeuon a " Within a mile of Edinbro' town," a " Comin thro' the rye." Er fod y program am y nos ddiweddaf yn cynwys llawn cystal cerddoriaeth, os nad gwell, na'r ddwy hwyr flaenorol, ac er fod Mdlle. Albani, Miss Wynne, Mr. Santley, &c, yn canu, teneu oedd y gynulleidfa, a hyny o herwydd fod Madam Patti a Duc Edinburgh yn absenol. Y cyfryw yw ser-