Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

[>|><|||||[|||MM^MM^,M,MWWW,MMMMWMMW«BW^MM»MWI«>WI«PIWiWIWW|'W»'^^^. - n-w»~—..........i—...... .111 .......i.----L- JL- i - ■—* , 1~" .............. ..... .....* " ""* -;--.J-::/ ;■_-•' .".*... J. ......_,-,.. ..^. ..; NATIONAL LIBRARY1 , ^f^ OF WALES. \ c/% CöI............................... Acc. Nc4ÛL.5^05 /k Sh NoÄAP^ fl/â^ "GYNÌRU FU, /\ CYMRU FYDD." 7 NEGESYDD C (The Welsh Messenger). Cylchgrawn wythnosol at wasanaeth arbenig Cymry Llundain—cymdeithasol a chrefyddol. 0 DAN OLYGIAETH Y PARCHN. J. E. DAVIES, MA, AG OWEN EVANS, D.D., LLUNDAIN, AG ERAILL Rhif 2. LLUN, MAI 14, 1894. Pris Ceârtiog- IRewpooíon C^ffreöínol. Mae Cylchdaith Shaw street, Lerpwl, wedi gwahodd y gweinidogion sydd yno'n barod i gael gwasanaeth y Parch. Evan Evans, yn Medi, 1895, a'r Parchn. Edward Humphreys (yr arolygwr), a Thomas Hughes (Bethesda), yn Medi, 1895. Nos Sul, Mai 6ed, cynhaliwyd gwasanaeth y blodau yn Nghapel y Bedyddwyr, Castle Street, pan y cafwyd pregeth gyfaddas i'r achlysur gan y Parch. R. E. Williams, y gweinidog, a detholiad o gerddoriaeth o " St. Paul " (Mendelssohn) gan y côr, yn cael eu cynorthwyo gan Miss Pollie Collins a Mr. T. Meurig James. Cafwyd odfa hyfryd a chynulliad da. Nos Wener, y Sabboth, a nos Lun, Mai 4ydd, 6ed, a'r yfed, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Eglwys Annibynol Radnor Street, Chelsea. Pregethwyd gan y Parchn. W. J. Nicholson, Porth- madog, a P. W. Hough, Merthyr. Nos Iau, y iofed cyfisol, yn y Tabernacl Cymreig, King's Cross, cynhaliwyd Cyfarfod Cenhadol Cymreig mewn cysylltiad â Chymdeithas Genhadol Llundain. Cymerwyd y gadair gan Mr. W. Williams, A.S., ac anerchwyd y cyfarfod gan y Parchn. W. Owen, Wuchang ; M. Phillips, Madras, ac eraill. Wythnos i nos Sadwrn, am hanner awr wedi saith, bu farw yr hen Gristion hawddgar a thalentog (Mr. William Thomas, Lerpwl), mewn henaint teg. Fel y gwyr ein darllenwyr, yr oedd yn un o nifer o frodyr enwog. Ei frawd hynaf oedd y diweddar Barch. O. Thomas,D.D.,a brawd ieuengach nag ef oedd y diweddar Barch. John Thomas, D.D., a'i frawd ieuengaf ydyw y Parch. Josiah Thomas, M.A., ysgrifenydd galluog Cymdeithas Genadol Dramor y Methodistiaid. Dydd Iau, Ebrill igeg, yn Eglwys St. Mair, Finchley, Llundain, cymerodd priodas le rhwng Dr. John Milton Rees, Devonshire, Portland, a Mount-park-road, Ealing, mab Mr. John Rees, cyn-faer Castell Nedd, ac Eleanor Bessie, merch Mr. W. P. Jones, Manor House, Finchley, a Holloway, Llundain. Cymerid cryn ddyddordeb yn yr amgylchiad. Dr. Rees ydyw un o'r meddygon ieuengaf sydd wedi gwneyd doluriau y gwddf yn astudiaeth arbenig yn Llundain, ac yr oedd yn gyfaill a chy- northwydd i'r diweddar Syr Morell Mackenzie, tra y mae'r briodasferch yn hanu o hen deuluoedd yn Nhgaernarfon, ac yn nith i Mr. J. W. Jones, U.H., Plasybryn, ger y dref hono. Gweinyddwyd y briodas gan y Parch. McAnally, ficer St. James, Hampstead, a'r Parch. W. Edmund Batty, perioglor St. Mair. Daeth cwmni lluosog ac urddasol i'r wledd briodasol. Aeth y pâr priodasol i dreulio eu " mis mêl " yn Plasybryn, Caernarfon, a phan yn myned trwy Bontnewydd cawsant groesaw calonog gan y trigolion. CAN I EXCURSIONS CYMRY LLUNDAIN, SULGWYN, 1894. Ar foreu Llun y Sulgwyn, Awn i'r wlad, awn i'r wlad, I wledda gyda Jewin Yn y wlad ; Cawn deithio mewn cerbydres Yn gyflym a dirodres Heb gwmni Sais na Saesnes Tua'r wlad, tua'r wlad, Ac adrodd difyr hanes Yn v wlad. Fe gân y Gog ei halaw, Yn y wlad, &c, Rhydd in' Gymreigiawl groesaw, Yn y wlad ; A blodau Parc Rothampstead Siriolant ruddiau'r merched Nes teimlant wrth eugweled, Yn y wlad, &c, Fod calon dyn mewn dyled Am y wlad. Hen lanciau dinas Llundain, Dewch i'r wlad, &c, Bydd llawer am eich adwaen, Yn y wlad ; Cewch rodio drwy y caeau, A'r merched am eich breichiau Yn mysg y coed a'r blodau, Yn y wlad, &c, Ffynhonell priodasau Ydyw'r wlad. Bydd cress a the'n ddigonedd, Yn y wlad, &c, A ' theisen fraith ' yn garnedd, Yn y wlad ; Cawn wedy'n swynol ganu Alawon mwynion Cymru, Nes byddo'r Sais yn synu, Yn y wlad, &c, Ac anian dlos yn gwenu Yn y wlad. Bydd purdeb yr awelon, Yn y wlad, &c, Yn ysgafnhau ein calon, Yn y wlad ; Cusanau fyrdd gawn yno, Wrth chwareu ' Bobbi Bingo,' Gan Mary Jane a Gweno, Yn y wlad, &c, Hyfrydwch pena'r Cymro Ydyw'r wlad.