Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. IV. CHWEFROR, 1900. Rhif 41. MKS. GEE, DINBIGH, A'I DOSBAEtTH. (Y mae y diweddar Barch. T. Gee yn sefyll o'r tu ol iddi). N. P. Bahk, Amlwch, Anwyl Ceridwen Peris, Teimlais i'r byw rai wythnosau yn ol, pan glywais ei fod yn addefedig mewn llawer o fanau, nad ydyw pobl ganol oed yn mynyhu yi Ysgohon Sabbothol mor gyffredinol ag yn yr oes o'r blaen, a bod nifer ei haelodau gryn lawer yn llai mewn rhai siroedd na chyfanrif yr eglwysi! Dywedir hefyd mai yn nosbarth y merched y mae hyn i'w ganfod yn fwyaf amlwg; ac wedi chwilio yn mhellach, rhoddir fel y prif reswm nad ydyw y mamau a fuont dan orfod i aros gartref gyda'u babanod, yn ail gychwyn ar ol i'r plant dyfu yn ddigon o faint i ddyfod i'r ysgol. Pa ddifrawder sydd wedi ein goddiweddu? Y mae yn sicr ei fod yn bryd galw sylw ein chwiorydd—rhag i'r bai orwedd ar ein hochr ni i'r tyl_a,t eu dyledswydd tuag a.t y sefydüad-bendigedig sydd wedi bod, ac yn bod o'r fath fendith i Gymru, nid yn unig i'r plant, ond, fel yr ydym yn caru ei adnabod yn ein mysg, i'r bobl ieuainc, y canoî' oed, a'r hen gyfeillion penwyn. Ystyriaf mai yr adeg fwyaf pwysig mewn teulu yti ei dylanwad ar y dyfodol, ydyw yr amser byr y mae y plant ar yr aelwyd, cyn troi allan i'r byd, a dyma'r cyfieusdra goreu i'r rhieni eu cychwyn yn yr iawn gyfeiriad, a'u harwain mewn addysg grefyddol. Felly colled o'r mwyaf ydyw, os na cheir esiampl a dylanwad y fam yn gryf o blaid mynychiad cyson o'r Ysgol Sabbothol. Gwn eich bod yn aiddgar iawn dros yr Ysgol Sabbothol, ac y gwna y Gymraes ei rhan ymysg Cymryesau y byd i beri fod y bwlch hwn yn cael ei godi a;i gyfanu; a gobeithiaf y deffroir yr eglwysi trwy'r wlad i unioni y camwri difrifol a achosai enciliad parhaol ^nifer o aelodau eglwysig, a hyny cyn iddi fyned yn rhy ddiweddar. Hoffwn eich helpu gyda hÿn, a'r modd sydd yn ymgynyg i fy meddwl ar hyn o bryd ydyw, rhoddi ychydig o hanes fy anwyl fam fel athrawes ddiflino, er ei bod yn awr mewn oedran teg. Hwyrach y bydd clywed am dani hi, ac feallai am eraill sjdd vn ymroddgar a selog, yn symbyl- iad i'r chwiorydd sydd wedi llaeŵ dwylaw, gan feddwl fod henaint yn