Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

i? <5vmraes. Cyf. VII. ÌONAWR, 1903. Rhif 76. CENADWRI DECHREU BLWYDDYN ;— PRIF ANGEN CYMRU. GAN V ÜEON HOWELL, TY DDEWI. Beth ydyw ? Diwygiadau gwleidyddol, medd rhai. Mwy o gyd- deimlad a chydweithrediad rhwng gwahanol ddosbarthau cymdeithas, medd eraill. Gweinidogion mwy dysgedig ac ymroddgar, medd eraill. Gwell trefniadau iechydyddol a chvmdeithasol, medd eraill. Pethau pwysig, gwir bwysig, bob un ohonynt ; ond ai y rhai hyn yw prif angen Cyrnru ar riyn o bryd ? A chaniatau eu bod yn ddymunol, ac y geilid eu cael, a wnant hwy gyflawni prif angen Cymru ar yr adeg bresenol ? A wnai y pethau hyn a'u cyffelyb halltu a lefeinio cvm- deitîìas. gwrthweithio tueddiadau llygredig yr ces, carîhu ac ad- newyddu bywyd teuluol a chymdeithasol y genedì, ac. yn fiaenaf o bob peth, ei dyrchafu i safon uwch o ran iechyd moesol, yni ysbrydol, a brwdfrydedd crefyddol ? Ai y pethau hyn ddylai gael y lle blaenaf a mwyaf difrifol ym meddwl a myfyrdod pob dyn a dynes syd I â lles blaenaf eu gwlad a'u cenedl yn barhaus ar lechau eu calon ? Wel, nid wyf am farnu eraill, na thros eraiil ; ond yn ol fy marn gydwybodol ì, y mae peth arall llawer mwy pwysig, mwy angenrheuiiol, a mwy anheb- gorol na'r pethau a enwyd : peth wna gyrhaedd hyd at wraidd bvwyd y genedl : peth wna gynyrchu ffrwythau ac effeithiau mwy nerthol a chyffredinol na'r oll o honynt ynghyd ; peth mwy parhaoi ei ddvlan- wad, a chynwysfawr ei fendithion, tymorol ac ysbrydol, sef yw hyn: — Adfvwiad Ysbrydol! Nid Diwygiad, ond Adfywiad ; nid cynhyr- íiad lleol, y fath a geir mewn cysylltiad à ' Chenadaeth Blwyfol,1 neu ' Genhadaeth Gydamserol.' ond math o or-lanw ysbrydol, yn gor-lifo yr hoîl wlad, a wnai drwytho pob dosbarth a Bedyddyr Ysbryd Glan. Onid hyn yw prif angen Cymru ar hyn o bryd ? Oni theimlir yr angen hwn, i raddau mwy neu lai, gan braidd bawb sydd yn ' eu proffesu ac yn galw eu hunain yn Gristionogion' ? Onid gwir am ein hamser ni fel am amser Haggai—' Hauasoch lawer, a chludasoch ychydig ; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon ; yfed. ac nid hyd fod yn ddiwalP, &c. ? Ni fu erioed gymaint o bregethu ; ond beth am yr effeithiau ? Onid yw y gwasanaethau, y cylchwyliau, y cyfarfodydd -o bob math, a'r dyfeision o bob math i ddenu gwrandawyr, wedi myned braidd yn orthrymus ? Oni chlywir cwynfan ar bob llaw o herwydd y clauarineb, y cysgadrwydd, a'r dideimladrwydd ysbrydol