Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

15 ẅmraes* Cyf. VII. MAWRTH, 1903. Rhif 78. MISS DOROTHY PUGHE JONES, YNYSGAIN, CRICCIETH. Y mae y foneddiges ieuanc uchod ar hyn o bryd yn Neheubarth Affrica. Aeth ynoyn Hydref 1901 fel Inspector of the Camps' School. Y mae wedi cymeryd dyddordeb mawr mewn Addysg, ac yr oedd ei hryd yn ystod y Rhyíe! ar fyned i'r Transvaal i gynorthwyo y Plant a ddioddefent yn eu haddysg. Deallwn ei bod yn gwneyd gwaith rhag- gcrol a'i bod wedi ymweled a phrif leoedd y ddwy dalaeth, yn enwedig yr Orange Free State. Ganwyd y foneddiges ieuanc yn Bramerton ger Norwich, ond yn Ynysgain Criccieth, cartref ei thaid, y mae yn byw er's llawer o flynyddoedd. Y mae yn hanu o hên deulu parchus yn y Cyfundeb Methodistaidd, y mae yn uyres i'r diweddar John Jones, Ysw., Ýnysgain, yr hwn oe<ìd flaenor ffyddlawn, ac mae yn nith i J. T. Jones, Ysw., Parciau, Criccieth, yr hwn yntau hefyd sydd flaenor ffydd- ìawn yn Capel Mawr. Derbymodd ei haddysg yn Llundain a Rhyd- ychen, a'i phrif efrydiau ydyw Hanes ac Ieithoedd. Enillodd y wobr ílaenaf ar Draethaud, sef " Addysg" yn Eisteddfod Merthyr yn y flwyddyn 1901. Y mae yn foneddiges o ysbryd rhagorol, a mawr hoííir hi, ac iddi air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun. Nodded y nef fyddo drosti i ddod yn ol i'w chartref prydferth ac at ei pherth- ynasau hoff. —W.