Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. VII. HYDREF, 1903. Rhif 85. DIFFYG RHAI DA. GAN YR ARGLWYJDES HENM SOMERSET. Pe buasai rhywun yn gofyn i mi, ar ol blynyddoedd lawer o brofiad o weithio gyda merched ffyddlon a gonest pa beth yw y perygl mwyaf parod iddynt syrthio iddo, buaswn yn ateb heb betruso, mai yr arferiad o ýarnu eraitl. Dyma ddiffyg rhai da. A chredaf nas gellir amheu ei fod yn ddiffyg ag sydd yn perthyn yn neillduol i'r rhai hyny sydd yn cywir ymgeisio rhoddi eu bywyd i'r gwasanaeth uwchaf, ac eto y mae y geiriau tawel, cryf yn seinio drwy y canrifoedd—" Na fernwch fel na'ch barner." Nid oes yr un o honom yn synied mor barod ydym i fynegi ein barn, ond os adgofiwn y llu o ymddiddanion difeddwl, gwelwn hyny. Mor hawdd ydyw disgyn i yspryd beirniadu, nid yn unig bethau dyfnion, ond pethau allanol ac arwynebol bywyd. " Y mae hon a hon yn fydol, edrychwch ar ei dillad." " Yr wyf yn sicr mai prydferthwch celfyddydol sydd ar ei gwyneb." " Y mae genyf le i gredu nad yw ar delerau da â'i theulu." " Nid wyf yn sicr ei bod yn un gywir." "Buaswn yn ofalus yn nghylch ei derbyn i gylch o weith- garwch," &c. Daw hefyd duedd beryglus i'r amlwg, sef arfer brawddegau ag y gellir eu hysigo, fel ag i feddwl mwy nag sydd ynddynt, gan adael i'r gwrandawr ddyfeisio beth all fod eu hystyr, ac feallai gredu fod rywbeth drwg iawn yn guddiedig ynddynt. Faint o bobl sydd wedi cael eu hanafu fel hyn ! Cofiwn, y gallwn anmharu cymeriad, wrth ddim ond codiad amrant, neu ysgydwad yr ysgwyddau. Gall ein beirniadaeth fod yn un ddistaw, ond yn llawn o ystyr ysgeler. Y mae yr arferiad o farnu eraill, mi gredaf, yn un mor gyffredinol oherwydd ein bod dan yr argraff fod Duw yn dosbarthu ei ddeddfiu, ac fod rhai o honynt ag y gallwn eu tori heb lawer o bryder, ac eraill na feiddiwn eu tori. Y mae ein gallu i roddi ein hunain yn lle eraill rnor fychan, ac yr ydym yn maethu mor brin yr "angel sydd yn y meddwl" a elwir yn ddychymyg, fel yr ydym yn crwydro trwy fywyd gan sathru yn ddifater ar fiagur tyner uchelgais pobl eraill, ac yn barod i fychanu rhwystrau a dyryswch eneidiau o'n cwmpas. Gall yr hyn sydd yn demtasiwn gref i mi, beidio bod yn demtasiwn o gwbl i chwi, a'r pethau yr ydych chwi wedi bod mewn brwydrau a hwynt, nas gwyr ond eich cydwybod am danynt, sydd erioed feallai, heb gyífwrdd fy mywyd i, a'r aml-agweddau yma i'n bodolaeth ryfeddol, yr hon yr ydym mor analluog i'w deall, sydd wedi ein harwain i basio barn mor <idifeddwl ar eraill.