Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Î5 ẅmraee* Cyf. VII. TACHWEDD, 1903. Rhif 86. ÜNDEB DIRWESTOL MERCHED GOGLEDD CYMRU. (Anerchiad y Liywyddes, Mks. Davies, Bryn Llwyd, Menai Bridge, dra- ddodwyd yn Nghymanfa Abergele, Medi 30, 1903). Anwyl Chwiorydd a Chyd-weithwyr, Yr ydwyf yn sicr y bydd i chwi oll gytuno a mi fod hanes ein Hundeb <dros ystod yr un mlynedd ar ddeg er pan ffurfiwyd ef, wedi profi fod angen am waith o'r fath, ac fod sylfaenwyr yr Undeb a'u cyd-gefnogwyr ffyddlon wedi ceisio gwneyd y gwaith liwnw. Credaf rnai yr hyn y mae galw am dano yn awr ydyw pwysleisio y gwirionedd yna, fod yn hollol iawn ac angenrheidiol i waith yr lTndeb barhau, ac mai dyledswydd arnom yw gwneyd pob ymdrech i wasanaethu yr Achos Dirwestol, ac yn arbenig i geisio lledaenu a chad^rnhau a i?vfchau y teimlad o blaid Dirwest }rmhlith y Merched. Dyfynaf eiriau Mr. Arthur Chamberlain ar y mater hwn. Y mae Mr. Arthur Chamberlain yn ddiweddar, fel y gwyddoch, wedi rhoddi cymorth gwerthfawr iawn i bleidwyr Dirwest. Y mae wedi ein gosod o dan ddyled drom iddo trwy ei waith yn dadleu mor rymus ac mor oleu dros hawl yr ynadon i ystyried budd y cyhoedd, ac i sefyll yn erbyn gofynion dosbarth o ddynion sydd eisoes wedi ymgyfoethogi ar draul llogellau a buddianau moesol y genedl.—am gael hawl gyfreithiol i barhau i ymgyfoeth- ogi felly. Yn mis Mehefin yr oedd Mr. Arthur Chamberlain yn anerch cyf- arfod yn Manchester, a ctywedodct y geiriau hyn :—" Mae yn ffaith fod swm 3' diodydd meddwol a yfir yn y wlad hon yn awr yn fwy o un ran o dair na'r hyn ydoedd haner cant neu driugain mlynedd yn ol, ac y mae y cynydd hwn i'w briodoli i fe-ur helaeth i gynydd ymyfed ymhlith y merch»d." Gwyddom oll yn wir mai ail adrodd y ffaith ddifrifol hon y mae pawb sydd yn cymeryd y drafferth i edrych i mewn i'r mater. Nid dyma gan hyny yr amser i ni laesu dwylaw—y mae y ddyledswydd sydd yn gorphwys arnom fel undeb o ferched yn hollol eglur. Dylem gyfeirio ein hymdrechion goreu yn erbyn yr arferiad lygredig hon. Dylem wneuthur pobpeth yn ein gallu i wrthweithio effeithiau y fasnach feddwol ar ferched trwy ddysgu mewn gair ac esiampl mai yr unig ffordd i sicrhau diogelwch a dedwyddwch a chysur ydyw trwy alltudio diodydd meddwol o'r cartref yn llwyr. Ar yr un pryd, ni ddylem fod—a theimlaf yn sicr nad ydym—yn anghofus o'r ag- weddau eangach sydd i'r cwestiwn hwn. Rhoddwn ein hymdrech yn llawen i hyrwyddo pob roesur a chynllun a ffurfir gyda'r amcan o gefnogi arferion dirwestol, ac o atal tra-ar^lwyddiaeth <y Fasnach ' ar ein gwlad. Ond credaf y dylem yma heddyw ymdeimlo o newydd a'r ddyledswydd sydd arnom i ymdrechu yn galed fel merched dros ferched. Carwn i bob aelod o'r Pwyllgor Gweithiol, i bob cynrychioles, i bob un sydd mewn swydd fel Llywyddes neu Ysgrifenyddes Cangen-Gymdeithasau, fyned adref o'r cyfar- fod hwn gydag ymdeimlad dyfnach nag o'r blaen o'i chyfnfoldeb, a chan sylweddoli y ffaith ei bod wedi cymeryd y cyfrifoldeb hwnw arm ei hun o r newydd ei bod wedi ymgymeryd a gofalu ar fod gwaith ymhhth yjmerched yn cael ei gario ymlaen yn y gymydogaeth y mae yn byw ynddi. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf—v gyntaf i mi yn y swydd hon—cefais y framt o weled a chlywed am waith mawr yn cael ei gano ymlaen trwy hunan-