Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

i? ẅmraes. Cyf. VIII. RHAGFYR, 1904. Rhif 99. Ganwyd i chwí Heddyw Geidwad. Gan Dyfed. \x\vyd i chwi heddyw Geidwad, Ganwyd i chwi ddwyfol Frawd, thywynu rnae ei gariad Trwy agenau'r preseb tlawd ; ân etifedd tragwyddoldeb, Ac eneiniog nef y nef; Calon Duw sydd yn ei wyneb, Deuwch, ac addolwch Ef. Ganwyd 1 chwi heddyw Geidwad, Yn nyfnderoedd angen byd ; Sanctaidd wyn fydd ei gymeriad, A'i rodfeydd yn ras i gyd ; Brawd ag allwedd pob addewid Yn ei hael ddeheulaw gref; Brawd a ddeil yn ddigyfnewid, Deuwch, ac addolwch Ef. Ganwyd i chwi heddyw Geidwad, Ac angylion wrth ei gryd ; Cenir cân yr ymgnawdoliad Bob Nadolig oesau'r byd ; Heibio'r Ardd, ac heibio Salem, Gydâ'r wawr, o swn y dref, Ar eich gliniau tua Bethlem, Deuwch, ac addolwcli Ef.