Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Gymraes- CYF. XI. IONAWR, 1907. RHIF 124. Adgofíon am Gymanfa Gwynedd ac Undeb Dírwestol y Merched, Gogíedd Cymrtt, a gynhalíwyd yn Machynlleth, Medí 26, 27, 1906- (Papur g-an Mrs. D. H. Hughes). MSS. F0ULKES-j0NES AC ANWYL CHWIORYDD,---- Erbyn hyn y mae y Gymanfa y buom yn edrych ymlaen yn bryderus ati, wedi myned heibio. Credaf mai adg-ofion dymunol sydd gan bawb o honom am dani. L n wers bwysig i ni od'diwrthi ytíyw hyn: os ceir pawb i gydweithio, gallwn anturio ar waith fydd yn ymddangos yn fawr ac anhawdd. Yr wyf yn meddwl ein bod wedi derbyn llawer o lesad wrth ddarparu ar g'yfer y Gymanfa. Yr oedd clywed y dieithriaid yn canmol, a'u gweled mor hapus a chartrefol, yn dál da am y cyfan. Un peth pwysig oedd yn amlwg iawn, sef fod pawb mor frawdol. Ond cael undeb a chydweithrediad, coronir llafur dirwestol a llwyddiant. Yr oedd rhai yn y dreí yn gofyn cyn y Gymanfa,— " I beth yr oedd hi yn dda? " ' Dywedodd Mr. Herber't Roberts, A.S., mai un amcan i'r Gymanfa oedd ceisio gofalu fod Cymdeithas Ddir- westol ymhob ardal yn Ngogledtì Cymru. Gwyddom yn dda fod' perygl i'r gwaith scfyll heb hyn ; ac mai drwy ymdrechion y Cym- deithasau y cedv.ir y gwaith yn fyw. Calondid mawr oedd gweled cynifer o bobl mor barchus a dy- lanwad'ol wedi dod ynghyd, a gwybod eu bod gartref ac oddi- cartref yn rhoddi eu holl ddylanwnd 0 blaid dirwest. Ein cred yw y bu i'r Gymanfa adael argraff dda ar ein tref. Clywais mai un o'r cyfarfodydd goreu oedd Cyfarfod y Plant. Gwnaeth ein Llywyddes—Mrs. Foulkes-Jones, ei gwaith yn rhagorol ynddo; a dywedodd Ceridwen Peris, a Mr. Grifhth, Liverpool, bethau y bydd y plant vn sicr o'u cofio. Canmol mawr hefyd oedd ar Gôr y Plant, a thynoddì yr orymdaith ardderchog sylw yr holl dref. Hyfryd iawn oedd gweled Cranogwen mor llawn o ysbryd gweithio, ac yn siarad mor ddoniol. CÌywais un yn dweyd am araeth Mr. Rees, Pwllheli, £í Pe b'aswn yn feddwy'n, yr wyf yn meddwl y buasai Mr. Rees yn siwr o fy nhroi í." Gallwn feddwl fod Undeb Dirwestol y Ch'wiorydd w'edi bod yn hynod o ddoeth yn eu dewisiad o Miss Prichard yn Ysgrifenyddes ; y mae ei holl galom yn y gwaith; yr oedd yr ádroddiad am waith yr Undeb yn galonogol dros ben. Clywais lawer o ganmol ar Mrs. Humphreys, Rochdale. Yr oedd ganddi destyn da, sef "Y Dirwestwyr yn Genhadon." Yr