Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Gymracs. CYF. XI. MEHEFIN, 1907. RHIF 129. Un o'n Gweíthwyr. (Miss PRICHARD, BlR.MINGHAM. Ysgnfenyddes Líndeb Dirwestol J/erched Gogledd CymruJ. •Gwn mai boddhad mawr i'n miloedd darllenwyr fydd cael y darluu hwn o Ysg- rifenyddes ddiwyd yr Undeb uchod. Y mae er*s bìynyddoedd bellach wedi llafurio yn ddi-dor, ac i íawer o honom y mae yn esiampl fyw o ddiwydrwydd. Ei hanes yw, trefhu, ymweled, annog, cynghori. cydymdeimlo, calonogi, cofio at, trefnu Cymanfa, trefnu cyfarfod, trefnu te, mewn gair,—teithio, annetch, ysgrifenu, a hyny yn ddibaid, ddi-orphwys. Gwaith, dyna ei holl fwynhad. Diolch fod merched ieuainc Cymru ya gallu edmygu Miss Prichard a gweithwyr eraill cyffelyb iddi, a'u bod yn dod i deimlo mai ystyr y gair ' byw' yw gweithio o blaid y da, y pur a'r dyrchafol, Y peth mwyaf ffasiynol hyd yn nod yn mysg Tywysogesau yw trafferthu, ac ymdrechu gyda llesoli, a helpu a chysuro eraill. Peth anmharchus, peth hunanol, pe'th yn dangos rhai yn fodau bychain iawn ydyw gallu treulio amser, arian, a chalon ar hunan, ymdroi o hyd, o hyd, o fewn cragen fechan hunan, heb le i neb na dim ond y bod bach meddal ei hun ! Nid dyna ddesgrifiad o ferched rhmweddol a goleuedig Cymru — merched glân y bryniau, merched yr awelon iach. Pa genedl bynag a all ymffrostio yn ei merched ieuaoc call, talentog, crefyddol, pur eu cymeriadau, rhaid rhoddi merched Cymru ar y blaen. Rhifir y rhai sydd yn weithgar gyda Chymdeithasau dyngarol, cenhadol, Beiblaidd, dirwestol, meddygol, &íc, wrth y miloedd. A. hyfryd yw gallu tystio yn ddibetrus fod rhif Cymryesau :syddyn weithwyr Cristionogol yn chwyddo bob blwyddyn. f% Uwch eled merched Cymru wen, daw y wlad i fyny gyda hwynt. , i *,