Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Gymraes. CYF. XI. HYDREF, 1907. RHIF 133 Míss Anníe Daníeí, Towyn. Gweithred yn haeddu ei chadw mewn coffadwriaeth ydoedd eiddo y forwynig Mary Jones, Ty'nddol, Llanfihangel yn Mhennant, yn cerdded o'i bwthyn yn nghesail y mynydd, dros bum' milldir ar hugain o ffordd i dref y Bala, ar y neges o bwrcasu Beibl i fod yn feddiant iddi ei hun. Anhawdd i ni yn y dyddiau hyn yw rhoi ein hunain yn ei hamgylchiadau hi er sylweddoli yn llawn arwredd ei gweithred. Yr oedd prinder o fara y bywyd yn ein gwlad ninau y pryd hwnw, a llawer o'r herwydd yn mron marw o newyn. Er ceisio diwallu cri dwfn ei henaid am ymborth ysbrydol elai hi ar bererindod mynych i dŷ cymydog clytach, a berchenogai gopi o