Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Gymraes. CYF. XII.] MAWRTH, 1908. ÍRHIF 138. Bryngwenallt. Dyma eto ddarlun o gartref teg ac un o rai mwyaf gwerthfawr Cymru. Nid cartref gwych yw—nid rhai felly yw goreuon Cymru —ond un a'i brydferthwch cain y fath fel y mae ysbryd dyn pan ■o'i fewn yn llonyddu ac yn gorphwyso. Xid llonyddwch na gor_ phwysdra diwaith—y gwrthwyneb i hyny yn hollol yw y dylan- wad a deimlir a'r esiampl a geir yn y cartref hwn—ond llonydd- wch rydd help i un i feddianu ei enaid, ac i ymarfogi o'r newydd ü frwydr a phob gelyn. Cadfridogion yn y frwydr a'r gelyn meddwol ac a gelynion eraill y ddynoliaeth a fu ac y sydd yn preswyüo yn Bryngwenallt. Pwy na- wyr am yr hvn a wnaeth vr Ysweiniaid David a John Roberts, ac yn arbenig y diweddaf fel aelod Seneddol, i droi cyfreithiau Prydain o blaid y gwan yn y rhyfel hwn ? A hysbys yw i bawb mai J. Herbert Roberts, Ýsw., A.S., ŵyr y naill a mab y llall yw arweinydd Cymru heddyw yn y frwydr Ddirwestol. Xid oes ychwaith angen cyflwyno brenhines y cartref hwn i ferched Cymru. Gwyr pawb am y foneddiges hawddgar sydd yn myned bob dydd yn ddyfnach i serchiadau y miloedd o*i chyd- weithwyr yn Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru, ar yr íhwn y mae yn arweinvdd mor ddedwydd ac mor ddoeth. Estyner