Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Gymraes. CYF. XII.] TACHWEDD, 1908. [RHIF 146. Lady Dorothy Howard. Y mae Lady Dorothy yn ferch i Lady Carlisle, LÌywyddes Undeb Dirwestol y Merched Prydeinig. Boneddiges ieuanc alluog iawn ydyw Lady Dorothy, hynod am ei charedigrwydd a'i gweithredoedd da. Y mae yn ei chynefm pan yn anerch cynulliadau mawrion o blaid dirwest. Y mae ei llafur hi a'i mam a'r rhan arall o'r teulu yn ddi- flino o blaid sobrwydd a phurdeb buchedd. Fel y gwyr darllenwyr y Y Gymraes bellach, y mae i Lady Carljsle haniad Cymreig. Árglwftid Stanley of Alderley oedd ei thad, ac y mae ei brawd yn dwyn yr enw yna yn adna- byddus iawn yn Sir Fôn. Maent yn falch o gydnabod eu cysyìltiad Cymreig. Yn Nghastell Howard ynyr haf, bu cant a deugain o gynrychiolesau neu Bwyllgor Gweithiol yr"Undeb Dirwestol Prydeinig yn aros am wythnos, ac yn derbvn y croesaw mwyaf cynes, a nerth newydd at eu gwaith. ' Ymgasglent oll ynghyd, a dechreuid pob dydd gyda y " Weddi deuluaidd," a phob nos o'r capel oedd yn y Castell, esgynai moliant i'r nef am nawdd a gofal Duw am danynt. Yn mysg y rhai oedd vn cael y fraint a'r hyfrydwch yr oedd nifer dda o Gvmrv, aelodau gweithgar ein Hundeb Cymreig. Dyma y trydydd tro i'r Llywyddes gael cwmni ei chydweithwyr ar ei haelwyd ei hun, a mawr y ganmoliaeth am ostyngeiddrwydd yspryd, a chyf- •eillgarwch Lady Carlisle a'i merched, y rhai ydynt oll awyddus 1 weithredoedd da.