Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Gymraes. CYF. XIII.] AWST, 1909. ÍRHIF 155. IWÍrs. Edwards, Caerdydd. Yn sefyllfa bresenol ein materion cenedlaethol, ychydig enwau ^onhlith gwragedd ein gwlad a safant allan yn fwy amlwg, neu a hawliant ddyddordeb mwy eang, nag eiddo Mrs. Edwards, gwraig y Prifathraw Dr. Edwards, Caerdydd, darlun o'r hon a roddir yn y rhifyn hwn. Y mae ei bywyd a'i gwaith mewn amryw feusydd o wasanaeth, yn dra adnabyddus, a bydd rhai o agweddau o hanes personol yn dderbyniol gan lawer o'i chydwlad-wragedd, y rhai sydd yn gwerthfawrogi y gwaith y mae eisoes wedi ei gyflawni, fel cantores, fel arweinyddes yn achos Dirwest a Phurdeb Cym- deithasol, ac fel Cristion ymarferol. Enw morwynig Mrs. Edwards oedd Sarah Anne Evans. Yr oedd ei mam yn ferch i'r Parch. Stephen Edwards, gweinidog enwog gyda'r Bedyddwyr yn Rhymni. Ganwyd hi yn Mhont- lottyn. Ni chafodd fanteision addysgol tra neillduol, oblegid hi oedd merch henaf y teulu, ac yr oedd ei heisieu gartref; ond er yn foreu dangosodd ei bod yn meddianu meddwl cryf, gwelediad