Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Gymraes. CYF. XIII.] TACHWEDD, 1909. ÍRHIF 158. Addysg Genethod Cymru. Nt fu mewn un ganrif gymaint o son am addysg ag sydd yn ein dyddiau ni, a hyny oherwydd mai dyma yr oes y dargan- fyddwyd ỳlentyn. Cyn hyn, ychydig o sylw oedd plant yn ei gael. Ychydig o werth» oedd- ynt i'r wlad, acychvdig o arian a dreuliai y Llyw- odraeth arnynt. Ond yn awr, y mae y plentyn wedi myned yn werth- fawr, ac yn gostfawr i'r Wladwriaeth. Beth sydd wedi achosi y cyfnewidiad ? Mae yr atebiad i'w gael yn yr hen air Cymraeg—" Y plentyn yw tad y dyn." Hyny yw, os am Ymerodraeth gadarn mewn moesau a diwylliant, rhaid cychwyn y plentyn i gyfeiriad iawn. Rhaid gofalu am y bywyd yn ei darddiad cyntaf. Yr un modd, os am famau deallgar, rhinweddol, darbodus, a gofalus, rhaid cychwyn y genethod yh y cyfeiriadau hyny yn ieuanc — yn yr adeg hawdd i dderbyn argraffiadau. *' Fel saethau yn llaw cadarn, felly y mae plant "—rhai ag eisiau eu cychwyn ydynt at nod aruchel, anrhydeddus, a hyny gan gymeriadau cadarn, athrawon di-wyro oddiwrth yr hyn sydd gywir, gonest, a da. Beth yw angen penaf genethod Cymru yn awr o 13 i 17 oed ? Atebwn mai addysg gyfiawnach mewn pethau ymarferol bywyd. Ar hyn o bryd, y mae canoedd o enethod Cymru yn cael blwyddyn, dwy, neu dair yn yr Ysgolion Canolraddol, ac nid yw yn mwriad y rhai hyn i fyned ymlaen am addysg golegawl, oherwydd y mae y genethod hyny yn aros am bedair a phump o fiynyddoedd. Mae y sylwadau hyn yn perthyn yn unig i rai na fwriadant fyned ymlaen ddim pellach gyda'u haddysg. Amcan y rhieni hyn sydd yn ymdrechu i roddi ychydig addysg ganolraddol i'w genethod yw, perfFeithio a chadarnhau yr hyn ddysgwyd yn yr Ysgol Elfenol. Disgwyliant iddynt dd'od i ddef- nyddio yr iaith Saesneg yn well, a chael hyfforddiant mewn coginiaeth a gwniadwaith. Yn lle hyn, fel rh^fjt mae y genethod yn dechreu ar unwaith gyda iaith arall—Lladin neu Ffrancaeg—a deuant adref ar ol blwyddyn neu ddwy heb fedru yr un yn iawn. Yn lle gwersi beunydd mewn coginiaeth, a chadw ty, dechreuant ar Algebra ac Euclid a