Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Gymracs. CYF. XIII.] RHAGFYR, 1909. [RHIF 159. JYlrs. Phíílíp Davíes, Críccícth. GAM MlbS PRICHARD, OSWESTRY. Gorchwyl anhawdd yw son gyda phin ac inc am rai fyddant wedi d'od yn agos iawn atom, ac wedi eu cymeryd ymaith. Tueddir ni gan ryw fath o ledneisrwydd i gadw rhinweddau y rhai hyny i ni ein hun- ain, a'n meddyliau am danynt yn gyfrinach bersonol felus. Ac oherwydd y ffrwyno yna ar ein teimladau, y gwaharddiad mewnol yna ar ddweyd ein holl feddwl, darlun gwael a di- fywyd yn aml'a dyn yr ysgrifell. Er yn gyfarwydd a'i henw a'i gwaith er's blynyddau, yn y rhan olaf o'i hoes y daeth yr ysgrifenydd i gyd- nabydiaeth agos â Mrs. Phillip Davies, a bydd iddi gyfrif byth mwy y gyd- nabyddiaeth yna yn un o ragorfreintiau ei bywyd. Gwelodd yn fuan ei bod yn Mrs. Davies wedi dyfod i gyffyrdd- iad âg un o'r cymeriad puraf, tyneraf, cryfaf, a choethaf. Deffrowyd ei hed- mygedd wrth sylwi ar wybodaeth a chydymdeimlad eang, ar farn addfed, ar ysbryd gwresog a duwiolfrydig, ac ar arafwch a phwyll grasoí iawn ei chyfeilles. Nid arafwch diwaith. Fel un yn gweithio yr adnabuom hi yn bersonol. Buom hefyd yn Criccieth pan y dywedid wrthym gan y naill ar ol y llall o"r cyd-drefwyr mai hi oedd cefn pob achos da ymron yno ; buom yno eilwaith yn gwrando rhai a gruddiau llaith yn dweyd na wyddent sut y gwnai Criccieth a'r sir hcbddi. Hoff beth oedd ganddi weini ar bob achos da, nid croes •i gwyno o'i phlegid y cyfrifai wasanaeth o'r fath, ond hyfrydwch ei bywyd'. Xid gweithio yn y front a fynai ychwaith, gochelai y llwy- fan hyd fyth y gallai, ac hyd y gwyddom ni roddodd anerch ar goedd erioed, nid am y diystyrai aberth ac ymdrech felly, ond am y credai mai nid hyny oedd ei gwasanaeth ìii i unrhvw achos. Yn wir ni chynhaliwyd breichiau ei chwiorydd sydd o dan ryw fath o •orfod i sefyll ar fân Iwyfanau gan neb yn fwy serchog a brwdfrvdig na chan Mrs. Phillip Davies. Ond er na fynai y llwyfanau yr oedd