Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

U? (S^mraee. Cyf. IX. MAI, 1905. Rhif 104. Mrs- D. P- Wílíiams, Llanberís. Yn ardaloedd Llanberis a Deiniolen y mae y wyneb uchod yn bur -adnabyddus er's llawer o flynyddoedd. Y mae Mrs. Williams yn briod a D. P. Williams, Ysw., Cadeirydd Cyngor Addysg Sir Gaernarfon, ac yn ferch i'r diweddar bregethwr gwreiddiol. y Parch. Robert Ellis, Ysgoldy,—coiiant yr hwn sydd yn hynod ddyddorol yn awr ar gyfrif ei adgofion am y diwygiadau a fu. Nid bob amser y ceir gwyneb sydd yn ddarluniad mor gywir o ansawdd cymeriad ag yw yr uchod. Ynddo gwelir tawelwch, add- fwynder, sirioldeb a meddylgarwch, a dyna nodweddion amlwg •cymeriad Mrs. Williams. Mae ei harafwch yn amlwg i bawb. Gyda hamdden y mesura ac y pwysa bob mater, a bydd ei synwyr cyffredin cryf yn cael llawn chwareu teg ar bob amgylchiad. Mae yn naturiol o duedd gartrefol, ac yn gwarchod gartref yn dda. Priododd 3*11 leuanc, ac fel y gellid disgwyl i un o'r nodweddion yna, mae ei bywyd priodasol wedi bod yn un o'r rhai mwyaf dedwydd. Yn