Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ji? (Bçmraes* Cyf. IX. MEHEFIN, 1905. Rhif 105. Mrs- Roger Edwards, RCM.. Colwvn Bav- Os yw parodrwydd i wasanaethu eraill, er mwyn Crist: cysegriad talent ac amser i hyrwyddo moes a rhinwedd, ac ymroad diflino o blaid Undeb Dirwestol Merched Cymru yn gymhwysder i un gael •enw yn mhlith merched anrhydeddus Cymru, ac i gael lle yn oriel Y Gymraes, credwn nad oes nemawr un teilyngach o'r anrhydedd na Mrs. Roger Edwards, Colwyn Bay. Er cychwyniad yr Undeb caíwyd ynddi hi un o'i gefnogwyr ffydd- lonaf, a pharha yn un o'i arweinwyr mwyaf gweithgar a gwerth- fawr. Trwy ei sel a'i brwdfrydedd hi yn benaf y ceir yn Colwyn Bay un o'r canghenau lliosocaf a mwyaf blodeuog ar y coasL Hi ddewiswyd dair blynedd yn ol yn llywyddes gyntaf y gymdeithas, ac