Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

jg (5gmraes, Cyf. IX. HYDREF, 1905. Rhif 109. Undeb Dirwestoí Merched Gogícdd Cymrti. Anerchiad y Llywyddes, Mrs. Davies, Bryn Llwyd, Mehai Bridg-e, draddodwyd yn Nghymanfa y Wyddgrug", Medi 28, 1905. Anwyl Gyfeillion, Y mae tair blynedd wedi myned heibio yn gyflym er pan y darfu i chwi yn Amlwch ddangos eich hymddiried ynof fi, ac yn fy ymroddiad i'n Hundeb a'i amcan- ion, trwy fy nghymell i dderbyn y swydd yr ydwyf heddyw yn ei thros- glwyddo i'm holynydd. Fe deimla hi, y mae yn ddiameu, fel y teimlais inau, gyfrifoldeb y gwaith; ond dymunwn i'r geiriau o ddioíchgarwch yr ydwyf yn eu cyflwyno i chwi oll ddwyn sicrwydd iddi hi fod pob ffyddlondeb a charedigrwydd yn ei haros yn nghalonau y rhai y mae i weithio gryda hwynt, a throstynt. Ỳ mae yr addewidion a wnaed i mi ar eich rhan y pryd hwnw am gefnogaeth a ffyddlondeb wedi eu cyfìawni yn heíaeth. Dechreuais ar y tair blynedd gyda llawer o betrusder ac ofn ; ond fe ddarfu i chwi gyflenwi yn rhydd yr hyn oedd ddiffyg-iol ynof, fel yr ydym yma heddyw fel Undeb yn gryfach ymhob ystyr. Mewn gair, y mae ein Hundeb wedi llwyddo. Yr ydwyf o galon yn diolch i chwi am hyn, a theimlaf y g'allaf yn briodoî alw arnoch chwi fel y g-alwodd yr Arglwyddes Carlisle ar gyngor y " B.W.T.A." i fyned dros restr o'r pethau yr ydym Avedi ein bendithio â hwynt. Ÿmlaenaf oll, dylem gydnabod gyda diolchgarwch dwfn y g-waith sydd wedi ei wneyd yn ein hegflwysi, gwaith yr Ysbryd Glan, trwy yr hwn y mae crefydd a moesoldeb wedi dangfos eu hawdurdod i ddeffro ac i reoli bywydau dynion. Gwyddom fel y mae ein g-waith dirwestol wedi ei rwystro trwy y mesur y darfu fr Llywodraeth—a hyny heb ddangos dim cywilydd o'i herwydd —ei bas'o i gynorthwyo ac amddiffyn y fasnach feddwol. Ond g"allwn ni, a'r rhai a g-ymhellwyd g~an ofn yr Arglwydd a chan gariad at ddyn i gydweithio â ni, gydnabod yn ddiolchgar ein bod; wedi gweled llaw yr Arglwydd gyd'a ni i enill y meddwon ac i beri î feibion a merched droi eu cefnau ar y tafarndai a cheisio ffordd rag-orach a chartrefì gwell, mwy cydweddol agf ofn yr Argflwydd,