Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Gymraes. CYF. X. CHWEFROR, 1906. RHIF 113. Miss Eleanor Wílíiams, Johnstown, Unol Dalaethati America. Trwy ei hanerchiadau dirwestol, daeth Miss Williams yn ad- nabyddus i gylch eang". Y mae llawer, yn ddiameu, yn ei chofio yn Nghyfarfodydd Blynyddol Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru, yn siarad gyda rhwyddineb a dylanwad mawr. Ar hyn o br}^!, y mae yn yr America, ac yn pregethu bob Sabbath, yn Ngfhymraegf neu Saesneg. Bu yn gwasanaethu yn Gymraeg" yn Washington, a phan yno cafodd ei chyflwyno i Lywydd yr Unol Dalaethau—Llywydd Roosevelt. Bu yn gofalu am gapel Cym- raeg y Bedyddwyr yn Pittsburg am rai misoedd, ac ychwaneg- \vyà rhif yr aelodau yn fawr dan ei bugfeiliaeth fedrus a dyfal. Un o ardal Llanuwchllyn, ger y Bala, ydyw Miss Williams. Yr oedd ei thad yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr. Collodd ei rhieni yn gynar, a gadawyd hi a brawd yn amddifaid. Symud- oââ i Lundain at deulu cyfrifol, a thra yno ymroddodd1 i waith