Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Gymraes. CFF. X. MEDI, 1906. RHIF 120. Maír yníe Martha. ADRODDiRamWilliams Pantycelyn ryw dro yn pregethu ar y testyn— " Martha, Martha, gof- alus a thrafferthus wyt yn nghylch llawer o bethau. Eithr unpeth sydd angenrheidiol. A Mair a ddewisodd y rhan clda, yr hon ni ddygir oddiarni." Yr oedd Williams mewn hwyl yn canmol Mair, ac yn barhaus yn Uadd ar Martha. Y noson hono yr oedd i fod i letya gydag amaethwr yn yr ardai. Yr oedd hwn wedi teimlo vn fawr oherwydd í'od Martha wedi cael ei c h a m d d a r 1 u n i o ganddo. Arolcyrhaedd y ty, aeth a Ẁilliams i ystatell heb dewyn o dàn, ac ychydig iawn o oleuni,—gadawodd ef yno am beth amser. Yn mhen enyd daeth yno, a gofynodd, " Sut yr ydych yn hoffi yr ystafell yma Mr. Williams ?" " Syaìol iawn," medd yntau. " Wel," medd gwr y ty, " ystafell Mair yw hon : nid yw yn gofalu am ddim ond crefydd a chapel. Dowch gyda mi ffordd yma." Yna aeth a Williams i ystafell oleu, lle yr oedd tanllwyth o dân, a chadair esmwyth iddo orphwyso, a bwrdd a swper parod arno. " Dyma ystafell Martha," meddai, " mae hi wedi bod yn brysur iawn, onide sut byddai arnoch chwi a'ch cyffelyb ? " Mair ynte Martha ? Rhaid cael y ddwy. Hyfryd meddwl fod Cymru yn gyfoethog o feiched, a rhinweddau y ddwy wedi cvd-gyfarfod ynddynt—crefyddolder dwys, a gweith- garwch gyda phethau ymarferol ac allanol crefydd. H. J.