Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

V Jyst Dirwesfof Pris Ceiniog. Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cyfrol IX. CHWEFROR, 1906. Rhif 98. Cunwusiad. Tafarndy y Pentref a'i effeithiau dinystriol .. 17 'Rwyt wedi agor fy llygid i ,. .. 19 Congl y Plant .. .. (A ... 20 Min y Ffordd ; Y üWroad — Cyfnod Noàydd Y sail i bob Diwygiad — Esiampl deilwng i'r Fam-wlad—Ffrwyth y Fuddugoliaeth 22 Gwaharddiad a Lleihad Ymyfed .. .. 24 Brwydr y Beirdd .. ... ..26 Bwrdd yr Alliance .. ... ..27 Congl y Cystadleuydd .. ... 29 Meddyg y Brenin ar Alcohol .. .. 30 Tafarndy y Pentref a'i effeithiau dinystriol Gan y diweddar Barch. VV. I. Morris, Pontypridd. NID oes eto ddeng mlynedd wedi myned heibio er pan welwyd, ar brydnawn gwaith hafaidd, mewn pentref cymharol fychan, yr hwn orwedda ar waelod un o ëdyffrynoedd tlysaf a ffrwythlonaf hen wlad y bryniau, hen wr cedranus, a deall- us yr olwg arno, yn eistedd o dan goeden gysgodfawr gerllaw ei dŷ gwyn, yr hwn oedd yn ymyl y brif-ffordd, yn prysur ddarllen ei newyddiadur, pryd y daeth teithiwr o ymddangosiad trwsiadus a boneddigaidd heibio gan gyíarch gwell i'r hen batriarch. Dychwelodd yntau y moes- gyfarchiad gyda boneddigeiddrwydd a sir- ioldeb a dynodd sylw arbenig y teithiwr. Bu hyn yn arweigiad i ymddiddan maith a dyddorol ar gwestiynau amrywiol y dydd. Ond y cwestiwn gafodd fwyaf o sylw yd- oedd,— y dẁstr mawr a GYNYRC^R^GAN Y fasnS:h mewn diodydd meüdwol yn ein gwlad,ac yn neillduol yn ein pentrefi. " Yr ydych chwi," ebe y teithiwr wrth yr henafgwr, " yn ddedwydd iawn yn y wlad brydferth yma. Ni wyddoch chwi ddim am y llygredigaeth a'r trueni mawr a gyn* yrchir gan y fasnach mewn diodydd medd- wol, fel y gwyddom ni sydd yn byw yn y trefydd a'r gweithfaoedd." " Wel," atebai yr hen wr a'iẁyneb wedi pruddhau, a'i lygaid erbyn hyn yn nofio'n ddagrau, "diau nad ydym yn gwybod yn y pentref tawel hwn am ddinystr y ddiod feddwol ar raddfa mor eang ag y gwydd- och chwi bobl y trefydd ; ond yn ol rhif y boblogaeth, y mae .genym brofiad mor chwerw o'i dylanwad dinystriol a neb mewn unrhyw dref borthladdol, neu ardal weithfaol. Ystyriwch am foment,—nid oes ond un- ar-hugain o dai yn y pentref hwn, ac nid yw y preswylwyr yn, rhifo ond ychydig dros gant; eto y mae dau dafarndy yn y pentref, ac un arall ychydig y tu allan. Dyna dri mewn ardal deneu ei phoblog- aeth ; ac yr ydwyf yn clywed ar awdurdod dda fod y tri yn gwneyd masnach go rwysgfawr. Prynwyd dau dafarndy y pentref hwn yn ddiweddar gan ddarllaw- ydd cyfoethog, a rhoddodd dros ddwy fil o bunau yr un am danynt. Gwir nad oes yma rialtwch mawr, ac ymladdfeydd bwystfilaidd, fel y ceir yn rhai o'n trefydd ; ond gwelais yraa gryn grechwen cyn hyn, ac ymrysonau a der- fynasant mewn gwaradwydd Ŵ phoen,