Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ms> y Jÿsf Dirwesfol Pris Ceiniog, Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cyfrol IX AWST, 1906. Rhif 104. Cynwysiacf. Yr Aelwyd a Dirwest Congl y Plant Y Ddau Gleddyf Dirwest. Gan y Parch. D. Jones Duw, Cariad yw Min y Ffordd Y Pwysigrwydd i Ddirwestwyr y wlad fod yn Gymeriadau Crrfion. "3 117 118 120 121 122 124 Yr Aelwyd a Dirwest Gan y Parch. J. D. Richards, Trawsfynydd. PRIN y mae achos datgan y waith hon eto fod dylanwad neillduol gan yr aelwyd ar fywyd yn gyffredinol. Gwir- eddir hyn yn nglyn â'r unigolyn ac yn nglyn a gwlad ac à chenedi. Dylanwad distaw ydyw mae'n wir, ond y mae sicred ei effeithiolrwydd â nemawr ddim dylan- wad arall. Edrycha aml un yn ol o der- fynau cyfrin gyrfa hir, a chenfydd mai ffeithydd digamsyniol fu yr aelwyd yn ei fywyd. Lliwiwyd ei gymeriad gan yr ar- graffiadau dderbyniodd ar aelwyd ei rieni, ac ofer iddo geisio athronyddu dylanwad yr aelwyd ffurfiodd efe ei hun ar ol hyny, allan o'i fywyd. Pan y llithrai dyddiau a blynyddoedd heibio megis breuddwydion nos, ychydig feddyliodd efe am hyn, ond felly y bu yn ei hanes. A phe tae cenedl yn manylu ar ei bywyd, teimlasai mai ei hyawdledd dyfnaf ydyw un yr aelwyd. Yn wir, yr hyn ydyw aelwydydd cenedl ydyw y genedl drwodd a thro. Brithir cofiantau goreugwyr y byd gan deyrnged dihafal i'r aelwyd, a gellir priodoli nerth a cheinder ambell genedl i lendid a chyfar- edd aelw}Tdydd. Lefain anorchfygol ei ddylanwad yw un yr aelwyd. Daw diwr- nod tywyll dros fyd yr unigolyn a'rgenedl hefyd pan anwybyddir gwerth a lle y dy- lanwad hwn. Beth am Cyrnro a Chymru gyda golwg arno ? Hyd yn hyn, credwn fod y genedl Gymreig mewn dyled fawr i'r dylanwad hwn, a bu yn ddylanwad iach iawn yn nglyn â hi hefyd ac ystyried prin- der adnoddau ei hawyrgylch. Darllener rhai o weithiau Hiraethog, Daniel Owen, ac eraill elfenant y bywydCymreig, acheir syniad lled glir am gyfaredd yr aelwyd yn mywyd y genedl. Ceir yr aelwyd hefyd yn nghân y Cymro yn aml, ac o fyfyrio ei ganeuon canfyddir ei serch pur tuag ati, a'r ymdeimlad dyfnaf o ddyled iddi. Ym- drôäd yr awen ganwaith gyda gofal, ac aberth, a chariad hon mewn tadau a mam- au ydynt seintiau heddyw mewn mwy nag un ystyr. I lawer Cymro a Chymraes bu yn fagwrfa efieithiol at gyfarfod y byd a'i fyrdd helyntion blin. Sancteiddiwyd hwy ar drothwy bywyd â dylanwadau iach a dyrchafol cyfnod y crŷrd a'i hwiangerddi. Os mai prin fu eu hadnoddau mewn llawer modd ar wahan i'w haelwyd, cawsant gynysgaeth efieithiol o'i chael hi. Dichon mai un blaan, ddiaddurn ydoedd, ond gryf- ed fu ei dylanwad ar eu cymeriadau ! Ië, dristed byd y rhai na chawsant gynysgaeth gyffelyb ! Dyma'r gwir i raddau pell iawn am y gorphenol mewn perthynas i'r ael- wyd, ond, pa le y safwn ni fel cenedl heddyw ?