Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

V Jyst î>irwesfol Cyhoeddiad Misol at wasanaeth OTNAL LÎBRARY íf hsäl!s; Cymanfaoedd a Chymdeithasau, Temlwyr Da, Cymru Sobr, Gobeithluoedd, Yr Aelwyd, &<£,, Pris Ceiniog, Acc. Noi'MÌ9k Cyfrol VIII. IONAWR, 1905. -..'i. No, Rhif 85. „ Dînasoedd Noddfa. GAN PLENYDD. MAE Clychau'r Nefoedd yn canu, ac O! mor fendigedig yw eu sain. Rhyfedd mor fuan yr arddelodd yr Ar- glwydd ymdrech a gweddiau ei bobl. Tybio yr oeddym ni, a disgwyl, mai atal rhwysg Balfour, a chau ffordd y giwaid meddwol â drain a wnai, ond nid felly y gwelodd yn dda. Yn hytrach, gadawodd yr arweinwyr ynfyd í gyflawni mesur eu hanwiredd, pardduo eu cymeriadau ar len hanesiaeth, a halogi Deddf-lyfr Prydain â gwobr anwiredd. Ond wele'r wŷs o'r Nef. Wele farn gorsedd Jehofa am "gyf- iawnder tragivyddoln Balfour, a "hawl buddianol" masnachwyr diod gref. Ac fel y tywyna pelydrau y Gogoniant ar ein gwlad, daw y dafarn a'i hamgylchedd i'r golwg yn ddiofryd-beth ysgeler. Fe esgyn bloedd o ddyfnder, calon Eglwys Dduw i'w herbyn, ie, o fynwesau miloedd sydd ar genllif meddwdod yn teimlo y dinystr yn agoshau. Nis gallwn feddwl pa fodd y medr tafarnwyr Cymru mwyach barhau yn eu masnach ; tybed na throant i falurio y delwau a llosgi " arwyddion " eu pyrth ar eu cyfer ? Pa fodd mwy y meiddia aelodau crefyddol eistedd yn eist- eddfa cyfeddach, llwon, a chabledd? 'Mae swn tyrfa yn dyfod.' Yn wir, mae canoedd wedi dyfod eisoes o'r " Hen Babilon Fawr " (chwedl Dafydd Rolant y Bala),—dynion fu yn gaethion i'w blysiau, dynion ag yr oedd y gyfeddach megis rhwydwaith am eu henaid, yn garcharor- ion anghymedroldeb. Ond maent yn di- anc—a diolch am hyny—ond dianc a darn- au o'r hen gadwynau heb eu llwyr dori, dianc a gafaelion yr hen flys heb eu llwyr dattod, ie dianc, ond gyda gwendid corph a meddwl yn glynu wrthynt, ac fe lŷn am ysbaid maith. Maent yn ymuno a'r Eg- lwysi, ydynt, ac o mor fendigedig fydd cael trigo yn nghyd o fewn i furiau gogon- eddus Eglwys Dduw. Ond yr eglwys ar y ddaear ydyw, heb ganllawiau gogoniant o'i hamgylch eto i berffeithrwydd. Ond blin yw y syniad fod miloedd o'r dychwel- edigion at yr Iesu yn hen íeddwon, ac yn troi eu hwynebau i'r Eglwysi, ond yn cael fod yn yr Eglwysi hyny lu yn anwesu eu hen elyn hwy, a thra wedi ffoi o deml ymyfed yn cael eu hunain o fewn teml a llawer o yfwyr yn aelodau ynddi wedi'r cyfan. Os dylai gweddi saint sobr fod dros ddychweliad tafarnwyr, ac achubiaeth meddwon, fe ddylai yn bendifaddeu fod am argyhoeddiad y blaenoriaid a'r aelodau crefyddol hyny sydd yn llymeitian, ar