Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

"'..... y Jyst Birwesfol Pris Ceiniog, Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cyfrol VIII, EBRILL, 1905. V Rhif rQiAL LI3RARY CF WALFS. •fc'No............. Cynwysiad. Undeh Dirwestol Merehed Gogledd Gogledd Cymru Yr Arddangosfeydd Amaethyddol a'r Ddiod Min y Ffordd.— Gwaradwydd yr Aipht- Treigler ymaith Todder y mynydd-Cynulliad Pwysig Cwestiwn y Barmaids- D wfr —By w'n hir Addysg—Dadsefydler y dafarn Barddoniaeth. Iaith Crefydd yw iaith Cymru Y Ty Tafarn .. .. .. .. Congl yr Ymholydd. .. Bwrdd yr Alliance. Dirprwyaeth—Mr. Herbert Roberts, A.S. Campbell Bannerman—Porthladd Caernarfon Congl y Plant—Yr hyn a wnaeth Ben Cymdeithasau Prawf Dic Shon Dafydd (up to date) Ton-" Y Phiol Gas." .. Undeb Dirwestol Merch- ed Gogledd Cymru. Gan Miss Prichard, Birmingham. Ifl^EL am lawer o bethau da eraill, y mae rrrs» . . i , , , •, * • J^ y byd yn ddyledus i'r America am Gymdeithasau Dirwestol y Merched. Yno ar adeg " Rhyfel y Wisci " yn 1873—74 y dechreuwyd eu fìurfio, a gellir casglu mesur eu dylanwad yno pan ddywedir fod cerfddelw o'u prif sylfaenydd, Miss Will- ard, wedi ci gosod y mis diweddaf, yn Neuadd y Gyngres Wladol yn Washing- ton. Oddiyno cyrhaeddodd y mudiad i Loegr, ac y mae Cymdeithas Ddirwestol Genedlaethol Merched Prydain yn awr yn 28 mlwydd oed, ac yn gref a dylanwadol. Mae cymdeithasau wedi eu ffurfio hefyd yn Awstralia, Canada, India, Affrica, Japan, China, Madagascar, a gwledydd eraill, yn nghyd a hefyd yn mron pob gwlad yn Ewrob. Ceir rhai cryfion yn yr Iwerddon- a'r Alban, ac er's oddeutu pedair mlynedd y mae un yn tyfu yn rhagorol ymysg merched Cymreig y Deheudir o dan ar- weiniad y ddihafal Cranogwen a'i chyn- orthwywyr ymroddedig^ Ffurfia y cym- deithasau hyn, gyda bid *sicr, yr un y mae ei henw uwchben ein llith, " Undeb Dir- westol Cristionogol Merched y Byd," yr hwn a'i Ruban Gwyn—ei arwydd-nod,— sydd yn rhwymo ynghyd ferched pob Cyf- andir mewn gwasanaeth i sobrwydd a chrefydd. Trwy Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru y dygwyd ni i'r rhwymyn, ac a sy. mudiadau hwnw yr ydym yn fwyaf cyd- nabyddus. A braint yr ystyriwn byth ein dwyn i gysylltiad â'r Undeb, oblegid gol- ygai ddyfod i gysylltiad, ac i gydnabydd- iaeth, â merched goreu Cymru o bob safle. Çafodd yr Undeb o'i gychwyniad ei fen- dithio â brenhinesau yn famaethod. Hyf- ryd yw edrych dros restr y rhai fuont yn ei gynal a'i noddi yn ei ddyddiau gwanaf —merched a gwragedd Aelodau Seneddol, gweinidogion, meddygon, boneddigesau yn y safleoedd uchaf, a hefyd wragedd a merched goreu gweithwyr y wlad. Ein barn ddihoced yw na chafodd cymdeithas erioed arweinwyr mwy teilwng a rhagorol. Ac yr ydym wedi bod yn ddigon agos at bron yr oll o honynt i'w clywed yn dad- gan mai braint iddynt yw eu cysylltiad âg ef. Ni chafwyd erioed ychwaith gyd- weithwyr mwy unol a dedwydd. Nid oes dadl na fu sefydliad yr Undeb o wir werth a bendith i bob aelod gweithgar o hono. Nid yw hyny ond prawf fod pob gwaith Cristionogol yn " ddyblyg fendigedig," ac " yn bendithio'r neb sy'n rhoi fel y gwna y neb sy'n derbyn."