Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

irwestoí Pris Ceiníog, Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cyfrol VÎH RHAGFYR, 1905. Rhíf 96 Cynwysiad. Adfydau Plant oddiwrth y Fasnach Feddwol 177 Ton: Diwygiad .. .. .. 180 Min y Ffordd— Dydd yr Ymwared yn ymyl—Y Mesur Dir- westol nesaf, beth fydd ?—Y Symudiad ne- wydd—Esgob Llundain yn pregethu Dir- west—Dr Nansen ar Ddirwest — Finland Rydd—Ai y Ddiod sydd yn llanw ein Car- charau—Beth ddywedodd y nhad ? — Beth ddywed Dirprwywyr y Carcharau ? .. 181 Bwrdd yr Alliance .. .. .. 184 Ifor Owen .. .. .. ... 187 Congl y Plant .. .. .. .. 190 Cymanfa Ddirwestol Arfon a Dyffryn Conwy igi Ädfydau Pîaní oddiwrth y Fasnach Feddwol Gan y Parch. W'. Ross Hughes, Borthygest. 'RTH adfydau y golygwn holl beth- au croesion ac anymunol bywyd. Cyfyngir ni yn y testyn i adfydau ydynt yn cyraedd y plant o gyfeiriad neillduol—cyf- eiriad y Fasnach Feddwol, ac y mae eu henw yn lleng. Fel rheol, nidyw adfyd y plentyn o'r cyfeiriad hwn yn ei gyraedd yn uniongyrchol ond trwy arall.a'rarall hwnw wedi ei dynghedu gan bob deddf ond deddf ei chwant, i sefyll rhwng y plentyn a phob adfyd. Afradlonedd y rhiaint bron yn mhob achos sydd yn cyfrif am adfyd y plentyn. Y rhai a roddasant fod iddo, yd- ynt fel pe ar eu heithaf, yn gwneyd y fod- olaeth hono mor adfydus ag y mae yn ddichonadwy. Dywedodd un y dylai pob trallod ymdreiglo ar yr ysgwyddau lletaf, ac nid gorphwys ar yr ysgwydd eiddil a gwan ; ond pan ddaw y brenin Alco i deyrngadair y teulu, y deiliaid gwanaf, a mwyaf diamddiffyn—y plant—a orfodir i ddioddef mwyaf. Henry Ward Beecher a ddy wedai fod " Y plentyn nad oedd gan- ddo neb i ddioddef drosto yn adyn truen- us :" ondy rnar yn Mhrydain Gristionogol heddyw fyrddiynau o blant, nid yn unig heb neb i ddioddef drostynt, ond a orfodir i ddioddef eu hunain o'r cryd, oherwydd afradlonedd eu rhieni. Daw yr adfydau o hyd i'r plentyn trwy wahanol ffyrdd. Yn gyntaf oll, gofala deddf etifeddaeth ei fod yn cael ei gyfran. Genir miloedd o blant yn Mhrydain bob blwyddyn wedi eu hanghyfaddasu ar gyfer brwydr bywyd cyn cyraedd maes y frwydr. Nid yu ofer y dy- wedodd y Deddfroddwr Mawr, " Myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd gen- hedlaeth o'r rhai a'm casant." Y mae'r ddeddf mor hen a chyfiawnder dwyfol, ond er hyned yw, gellir dweyd am dani gydag un o'n Prif-feirdd :— " Ar ei haeliau ni ddisgynodd Cysgod cwsg trwy'r oesau hir." Profa sylwadaeth gwyddonwyr craff, a meddygon dysgedig, fod "dianc o afaelion y ddeddf yn ymarferol amhosibl, ac yn mysg y rhai anhebycaf o allu dianc ceir hil y meddwyn a'r ymyfwyr. Olrheiniodd Con- way Scott deulu meddwyn i'r drydeddgen- hedlaeth,—tad meddw, mab meddw ; ac allan o saith o wyrion, bu dau farw o'r convulsions, aeth dau yn wallgof, ac un yn hurtun, a dioddefai y ddau arall oddiwrth iselder meddwl, &c. Dilynodd meddyg arall hanes teulu i'r bedwaredd genhedl- aeth, trwy orsaf iselder meddwl, heibio i orsaf gwallgofrwydd, gan alw yn ngorsaf tueddiadau llofruddiog ; yn y diwedd cyr-