Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ERDDOR.Y.CYMRYî CYHOEDDIAD MISOL CENEDLAETHOL, &t $la$mte«th C^ôôoẃ^tÍTt &t.r gtt mf|fitf| g <£gmr& Cyfrol III. AWST, 1885. Rhit 25. Gan Isalaw. YSGRIF I. |ID mor hen ychwaith î er ef- allai o ddeugain i haner cant oed ! Wrth edrych dros hen bapyrau—rwbel fel tomen y Bala yn barod i'r tân—daetb- um ar draws yr hen lyfryn hwn. Ar ol tynu'r llwch oddiarno, daeth i fy meddwl edrych i mewn iddo, er gweled a oedd ynddo rhywbeth o ddyddordeb i ddarllen- wyr y Cerddor ; a dyma sylwedd fy ym- chwiliadau :— Y mae yr hen lyfr yn ol yr hen ddull, yn hir o ran hyd oddeutu, dyweder, tair modfedd ar ddeg; ac ar ei draws tua phedair modfedd. Cynwysa tua phum' cant o dudalenau, ac ar bob tudalen y mae pedair erwydd. Y mae wedi ei rwymo yn ddestlus mewn croen llo, gydag ymylon euraidd ; ac oddiallan ar y clawr gwelir y geiriau, " Edwards' Collection of Music" ac ar y cefn. " Sacred Music." Pwy yw yr Edwards hwn nis gwn ; ond wrth agor cauad y llyfr gwelir oddifewn, ^r " ccdling card," yr enw " J. C. Edwards," yr hwn sydd wedi ei ddyogelu trwy ym- tyniad i'r llyfr. Wrth edrych yn fanylach dros rai o'r tudalenau, fe welir mai Joseph Chambers Edwards, Llangefni, oedd ys* grifenwr neu copyist y llyfr, yr hwn waith y iöae wedi ei wneyd yn dra destlus. Os yw yn fyw, yr wyf yn ei longyfarch, fel un ag sydd wedi gwneyd llawer o'r un gwaith. ^s wedi ymadael â'r fuchedd hon, dy- ^unaf heddwch i'w lwch ! (Efallai y gall rhywun o Langefni roddi ychydig o'i -^anes i ddarllenwyr y Cerddor). Cynwysa yr hen lyfr lawer o dônau ac f-nthemau, o bob llun a lliw, wedi eu taflu bhth-draphlith, rywsut, rywfodd, at eu |%dd, heb amcan daear am drefn. ^echreua gydag anthem fechan, " Codaf Jn awr," yn C, ond nid oes enw un awdwr wrthi. Nid yw o bwys o ran hyny, gan nad oes ryw lawer o allu yn y cyfansodd- iad. Ar ol hyn daw " Diolcb i Ti, yi Hollalluog Dduw," gyda'r gerddoriaeth ag sydd yn arferedig y dyddiau hyn. Y mae yr anthem fechan hon yn bur hen, a buaswn yn dewis gwybod pw^ yw ei hawdwr, ac o ba le y mae yn deilliaw. Yn dilyn y mae anthem o'r eilfed benod o Luc gan Griffith Griffìths, ar y geiriau, " Ac yr oedd yn y wlad hono fugeiliaid." Anthem lled faith, ond pur annyddoro! i. gerddorion y dyddiau hyn, er, eíallai, haner can' mlynedd yn ol yn lled bobl- ogaidd. Dymunol fuasai gwybod pwy oedd y Griffith Griffiths hwn, A all rai o ddarllenwyr y Cerddor roddi i ni ychydig o'i hanes ? Yn nesaf ceir anthem fechan o waith John Evans, Rhuddlan, ar " O ! deuwch i'r dyfroedd." Cynwysa hon gryn lawer o felodedd, a sicr genyf os aü- drefner hi, y daw eto yn lled boblogaidd. Gwna anthem gynulleidfaol dda, gan ei bod yn fèr ac i'r pwipas. Cawn wed'yn anthem o waith John Williams, Dolgelle, ar y geiriau, "I bwy y perthyn mawl ? " Gwna hon anthem fuddiol os ail-drefner hi. Ar oì hyn y mae un Cadwaladr Jones, Trawsfynydd, yn tynu ein sylw. Y mae ganddo anthem ar y geiriau, " Iddo Ef, yr Hwn a'n carodd ni." Nid oes dim awen yn y cyfansoddiad hwn eto; a digrifol yw dull yr awdwr o ranu ei eiriati. Er enghraifft:— ALTO. Ten. Sop. Bass. ■waed ei hun. iBm ÎEÌÍ o-dau yn ei waed ei hun. oddiwrth ein pech - o-dau yn ei waed ei hun.