Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

faPDOR.Y-tëYMRYi CYHOEDDIAD MISOL CENEDLAETHOL, ^t ^UÎnsüUíieííi <£eròî>ormetítt &*+* S« mftitlt 3 (íhgmrö* Cyfrol III. HYDREF, 1885. Rhif. 27. l;tettgôdîaeiít «SerôôtiroL EISTEDDFOD GENEDLAETHOL, 1885. ABERDAR, AWST 25MN, 26AIN, 27AIN, a'r 28AIN. I.— Sylwadau Cyffredinol. EL yr addawsom yn ein rhifyn diweddaf, rhaid i ni heddyw geisio gwneyd adolygiad ar weithrediadau ein Gwyl Gen- edlaethol am eleni. Wrth sylwi fel yma yn flynyddol ar ragorion a diffygion yr Eisteddfod, yr ydym yn gallu bod o wasanaeth i'n gilydd ac i gerddor- iaeth ein gwlad, a hefyd i'r sefydliad sydd a'i amcan mewn rhan i noddi cerddoriaeth Gymreig. Oddieithr fod pwyllgorau ein heisteddfodau yn talu sylw dyladwy i'r awgrymiadau a deflir allan yn garedig gan ein papyrau wythnosol a'n cylch- gronau misol, ac yn awyddu i wneyd y defnydd goreu o honynt, nis gallant wneyd eu dyledswydd tuag at eu cyd- genedl mewn ystyr lenyddol na cherdd- orol. Ond y mae genym le i gredu fod aelodau mwyaf darllengar a goleuedig ein pwyllgorau, yn ddiweddar, wedi rhoddi clust o ymwrandawiad i leferydd y Wasg ; fel hyny, yr ydym yn gallu cadw yr hen gerbyd eisteddfodol i redeg yn lled gywir — heb wyro gormod i gyfeiriad Seisnig- eiddiaeth, ar un llaw; na myned yn or- Gymreigaidd, fel ag i gadw yn ol gefnog- aeth cenedloedd ereill, ar y llaw arall. Yr oedd ymgymeryd â'r Eisteddfod Genedlaethol, gyda'i chyfrifoldeb arianol aruthroi, i gyfeillion Aberdar, wedi y rhwysg a ddangoswyd yn Nghaerdydd a Lerpwl, yn bwysig iawn yn mhob rhyw fodd; ond da genym ddeall fod yr antur- laeth wedi troi allan yn foddhaol a chalonogol i'r pwyllgor, ac y bydd gan- ddynt ychydig yn ngweddill wedi cyfarfod â'r holl ofynion. Yr oedd y trefniadau, hefyd, ar y cyfan, yn foddhaol ; er i'r cyfeillion, o herwydd diffyg profìad yn yr holl adranau, fethu eu cario allan yn foddhäus i bawb. Y mae hyn yn aw- grymu y dylid bellach gael pwyllgor yn nglyn â'r sefydliad, fel y byddo profiad un flwyddyn yn nerth ac yn arweiniad i'r flwyddyn ddyfodol. Credwn, er hyny, na fu yr Eisteddfod mewn un dref eto lle y dangoswyd mwy o frwdfrydedd a chariad tuag ati ; a lle yr amlygwyd mwy o awydd gan y swyddogion i wneyd yr hyn a ystyrient oedd oreu er ei lles. II.—Y Cystadleuaethau a'r Cystadl- EUWYR. Yr oedd y cystadleuaethau. ar y cyfan, yn dda, a'r cystadleuwyr yn lluosog ; yr hyn a brofai fod y testynau yn foddhaol, a bod llafur mawr wedi bod yn mhob adran yn y dosbarth cerddorol yn ddi- eithriad. Ni fu uwch canu corawl ar y ddwy brif gystadleuaeth, yr ydym yn credu, erioed, nag a fu yn Aberdar eleni. Llafur- iai y chwech côr ar y gystadleuaeth gyntaf o dan anfanteision dirfawr ; a'r syndod yw, iddynt allu myned drwy eu gwaith mor ardderchog, fel ag i dynu y fath ganmoliaeth oddiwrth y beirniaid, fel y gwelir oddiwrth eu sylwadau mewn colofn arall. Cafodd Côr Undebol Dow- lais, o dan arweiniad y cerddor ieuanc llafurus a galluog, Mr. Dan Davies, A.C., fuddugoliaeth deg ac anrhydeddus ; a dylai y côrau ereilí'a'u harweinwyr (y mae y rhan fwyaf o honynt, fel mae goreu'r modd) íoddloni ac ymdawelu, gan gy- meryd gwersi er rhagori yn yr amser a ddaw, Y mae pjb cerddor teilwng o'r