Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

toPPOR-Y-tëYMRYi &t lucisanîtcUt <g;e?$$orîŵstfv &t+f gtt mf\Htft 3 Cgmtg* DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol III. MAWRTH, 1886. Rhif. 32. CYNWYSIAD. Yr Arweinydd Corawl (parhad)......... ...109 Nodiadau........................110 Yr Ysgol Gerddorol ..................110 Beirniadaethau— Eisteddfod Gadeiriol Wrexham, fihagfyr 28ain, 1885... 111 Eisteddfod Annibynwyr Ffestiniog, dydd Nadolig,1885 111 Ein Bwrdd Cerddorol—Y Wasg Gerddorol ......112 Rhangan—" How sleep the brave" ("Mor dawel cwsg y dewrion mad"). YR ARWEINYDD CORAWL. (Parhad e rifyn Ionawr.) Gan T. R. Jones, Dinbych. j YLAI arweinydd ofalu am ddigon o amryw- iaeth. Ofnwn fod rhy ychydig o sylw yn cael ei dalu i hyn, a chredwn fod dirgelwch. aflwyddiant cor yn gorwedd i raddau mewn diffyg cyfiwyno amrywiaeth iddo. Tuedd sydd ynom y Cymry i ymrwbio byth a hefyd yn y darnau trystfawr, a phan ddeuwn at y gwan a'r tyner yr ydym yn gorfod teimlo eu bod yn eu trin yn galed ac anystwyth ; byddai diwygiad yn. hyn yn fendith i'n canu yn gyff- redinol. Mae yn ffaith mai yn y lleoedd y mae mwyaf o amrywiaeth golygfeydd y ceir mwyaf o edmygwyr ; mae mewn amrywiaeth ällu at greu edmygedd a dyddordeb ; a phe arferid mwy o hyn gyda dewis darnau i gymdeithas gorawl, sicr yw yr ymglyinai dyddordeb yr aelodau yn dynach â lles a llwyddiant y gymdeithas. Gofaler gweithio gyda bywiogrwydd i bwynt o ddydd- ordeb, ac na chymerer mantais ar yr hwyl i ddi- hysbyddu y dyddordeb hwnw, ond toier y cyfarfod i fyny yn ei fias, fel y gellir trwy hyny greu dyheuad am gyfarfod eto. Mae meithder bob amser yn peri diflasdod ar y danteithion mwyaf blasus a derbyniol. Prydlondeb.—Nid oes dim ag sydd yn poeni Uygaid arweinydd yn fwy na gweled yr un rhai yn dyfod i'r cwrdd yn hwyr, a dylai y rhai hyn fod o dan y wialen ; ond nis gall yr arweinydd weinyddu cerydd os bydd yn euog o'r un trosedd ei hunan, gan hyny dylai prydlondeb fod yn seren ddysglaer yn ei gymeriad. Ffyddlondeb.—Dyma rinwedd arall sydd yn addurno cymeriad pob dyn, ac nid llai felly yr arweinydd. Disgwylir fod pob cyfarfod yn fantais i roddi cam yn mlaen gyda'r hyn íydd mewn llaw, neu o'r hyn lleiaf fe ddylai fod ; ond os bydd bwlch yn cael ei achosi gan anffyddlon- deb yr arweinydd, tebyg ydyw y chwelir yr holl aelodau am y noson, a dyna rwyg yn y muriau, a cheir teimlo mai nid peth hawdd fydd llwyddo i gael pob careg at gareg drachefu er ffurfio yr adeilad ; gan hyny mae o'r pwys mwyaf i'r arweinydd wneyd ei ymddangosiad er anhaws- derau, ac os llwydda, er y cyfryw, ond odid nad dyna'r cyfarfod y ca' fwyaf o fendith a budd oddiwrtho, ystyriwn mai ar echel y ddwy rinwedd yma y try olwyn llwyddiant pob cymdeithas. Dylai arweinydd fod yn feddianol ar y gallu i gadw amser diysgog. taraw y beats yn eglur. Amser ydyw un o brydferthion ce.ddoriaeth, ac oni bae am dano elai yr holl ranau i wrth- darawiad a'u gilydd cyn pen ychydig. Maei am- ser aujcan pellach na chadw y rhanau i gyd-redeg, sef ymsjyrhaedd at yr ysbryd sydd yn bodoli yn y íarddoniaeth a'r gerddoriaeth ; dylai gael sylw manylaf yr aelodau gyda hyn, ond tuag at gael hyny y mae gauddo ef, fel arweinydd, ei ran i'w wneyd yn gyutaf, sef gofalu dysgu y gwahanol ranau allan fel y gall gadw ei lygaid ar y cor, a'i blaenori yn y wers o beidio gosod ei wyneb rhwng dalenau ei lyf'r ; gwna trwy hyn roddi mantais i'r cor yfed o'r un ysbryd ag y bydd ef yn ei f wynhau. Mae clust fain, fel y dywedir, yn hanfodol i arweinydd, fel y gall detectio gau nodau ; byddai deall cynghanedd yn werthfawr iawn iddo tuag at lwyddo yn hyn, gan y rhydd help i wybod pa nodau sydd yn cyfansoddi pob cord. Mae y cyfarwydd mewn cynghanedd wedi yfed y cord- iau i'w ddeall, ac yn gwybod mewn eiliad os bydd gau nodyn wedi Uithro i mewn yn llech- wraidd. Gyda golwg ar hyfforddi, anhawdd fyddai gosod i lawr pa ddull fyddai oreu, gan y dylai fod gan bob arweinydd ei ddull a'i system ei hun i weithredu wrthynt, ond ni a awgrymwn y dull canlynol: — Gofaled gynal y cyfarfodydd, hyd y mae yn bosibl, yn yr un lle, ar awr a noson benodol. Oymerwn yn ganiataol fod y lleisiau yn eu lle- oedd priodol, a phan y byddis yn dysgu dernyn newydd, gofaled yn laf, Cael y nodau yn gywir. 2il, Amseriad cywir. 3ydd, Mynegiant {ex- prwion). Ni ddylid cymeryd i ystyriaeth fanwl