Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

fapPOR-V-(gYMKVi DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Oyfrol III. EBRILL, 1886. Rhif. 33. CYNWYSIAD. Nodiadaú ...... ..................113 Gohebiaethau .....................114 Tysteb Alaw Ddu.....................114 Beirn i adaethau— Eisteddfod Annibynwyr Ffestiniog .........lU CystadleuaethLenyddo) Bethel, Uirwain ......115 Yr Ysgol Gerddorol ... ._ ............116 Ein Bwrdd Cerddorol-Y Wasg Gerddorol.........116 AT EIN DARLLENWYR. Yr ydym o dan orfodaeth i adael allan y Gerddoriaeth am y mis hwn, o herwydd amgylchiadau yn y Swyddfa nas gellid eu hosgoi. Cyhoeddir yn y rhifynnesafpedwarawd, "YMorwyr Llon"(Jolly Sailors), gan J. Hughes (Alaw Llyfnwy). ~ NODIADAU. •WELWJST fod rbai o'n prif gantorion yn esgyn o hyd: cymerMr. James Sauvage beìl- ach le y prií baritoneyn rghwmni Carl Rosa. Dywed amryw o'r prif bapyrau Seisnig ei fod yn ^hagori yn rhai o'r golygfeydd yn " Esmeralda," hyd yn nod ar y canwr enwog Mr. Ludwig. Llwyddiant i Ido eto. —o— Mr. Lucas Williams hefyd oedd y prif ad-dyn- iad yn y gyngherdd a gynaliwyd yn nglyn âg Eisteddfod Gadeiriol Tredegar. Cafodd dder- byniad cynhes ar ol ei daith gerddorol ddiweddar gyda Mr. Sims Reeves. Mae'n debyg fod y gynghaws o bartb i hawl-ysgrif yr alaw Llongau Madog," a gymerwyd yn ei erbyn ef a Mr. Treharne, gan Mr. Jarrett Roberts, wedi troi yn eu herbyn. Dylem fel cerddorion dynu ein gwersi oddiwrth y draíodaeth hon. —o— Perfformiwyd yr oraíorio " The Three Holy Chüdren' (Dr. V. Stanford), gan Gymdeithas Gerddorol Abertawe, Mawrth l8fed. Gwaith yw hwn, fel y rhan fwyaf o weithiau cerddorion beisnig diweddar, sydd yn amlygu mwy o ysgol- eigdod nag o awen gerddorol. Efelychu tipyn o Berhoz a Wagner, gyda hyny, sydd yn boddìoni y dysgedigion yma y dyddiau hvn. Mae yn y gwaith, yn ddiau, amryw o rifynau sydd yn gofrn llafurwaith mawr i'w cael i f>Dy. Rhaid îod ein cyfaill Morlais wedi bod wrthi yn galed • yn wir, y mae ei gôr yn canu yn dda. Yr oedd dau on cantorion Cymreig yn cymeryd prif ranau yn y gwaith, sef Miss Mary Davies ein pnt gantores, a Mr. Dd. Hughes (sydd yn awr yn y líoyal Academy), gwr ieuanc sydd yn codi, ac yn dra addawol fel canwr. Cawsom bleser wrth glywed y gwaith, er nad oedd y gerddorf na'r prif gantorion i fyny â hwy eu hunain, nag yn agos ddigon cartrefol. Lled ddideimlad y canai y cerddorion Seisnig. Ychydig o honynt hwy sydd yn rhagori. Gobeithiwn fod yr an- turiaeth wedi troi allan yn llwyddianus mewn ystyr arianol. —o— Rhenir y gwaith uchod i ddwy ran. I. " Wrth afonydd JBabilon" ("By the waters of Babilorì'); II. " Ar wastadedd Dura'' (" On the plaim of Dura "); felly gwelir fod yr ail ran yn cerdded yr un tir a Dr. Joseph Parry yn ei " Nebuchod- nezzar." Oawsom y pleser o eistedd wrth ochr y doctor yn y perfformiad hwn, a chawsom aml i orig fach rhwng y rhifynau, megys. —o— Yr ydym, bob amser, yn darllen sylwadau brysiog, eto craff, Mr. D. Jenkins yn ei golofn yn y Genedl Gymreig gyda blas. Ond y mae efe wedi dweyd pethau gwylltion yn ddiweddar. Yr ydym o'r un feddwl ag ef yn hollol o berth- ynas i fyrdra yr amser i gyfansoddi, beirniadu, cyhoeddi, a pherfformio y gantawd fuddugol yn Nghaernarfon, os ceir un. Noda ef allan gan- tawd fuddugol Eisteddfod Bangor, gan Mr. J. H. Roberts, fel un a gynyrchwyd ac a berfform- iwyd (?) dan yr un amgylchiadau. Gallem ninau feddwl y gallasai y cerddor dysgedig ychwanegu enghreifftiau Cymreig, heb nodi estron beth fel " The Rose of Sharon," yn Eist- eddfod Aberdar ! Gyda llaw, b'le mae y gan- tawd hono 1 Gwelsom ranau o honi mewn llawysgrifau. —o— Y mae yr aml arddulliau newydd a dyeithr sydd yn ffynu yn bresenol, fel yr aml gredöau yn amser Twm o'r Nant, yn ddigon i "faldro 'menydd dyn gwan, heb wybod pa fan i fyned!" Gwelsom un o'n cerddorion—nid anenwog—yn ddiweddar fel yn awgrymu fod y rhigymau ffug- gelfyddydol ar lun cantawdiau, sydd wedi eu dwyn allan yn ddiweddar yn y wlad hon, yn fwy advanced na gweithiau yr hen feistri; ac felly (dyma gyfeiriad yr ymresymiad), yn gofyn mwy o amser na, dyweder, gweithiau mawreddog Handel i'w cael i fynu. Nid ydym yn synu, yn wir ; oblegid nid yw y dosbarth cyntaf (neu, yn fwy priodol, olaf) ond clytwaith rheffynog o an- hawsderau difeddwl, tra mae eiddo yr hen Handel a'i ddilynwyr yn llawn o feddylddrychau, ac yn unol â rheswm a natur. Dyma fel yr ysgrifena un o'r^eerddorion sydd yn cael eu cythryblu atom ar bwnc y ddwy ysgol, a dichon y ceir ymdraf- odäeth arno fel y dymuna, yn ein colofnau :—