Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ERDDOR.Y-CYMRYí DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol III. AWST, 1886. Rhif. 37. CYNWYSIAD. 129 Cerddoriaeth Gynulleidfaol (parhad) ...... Beirniadaethau— Eisteddfod Aberâar, 1885(parhad) .........130 Dadansoddi ý don Bethel, o lyfr leuan Gwjllt (parhad) 131 Yr Ysgol Gerddorol ..................132 Nodiadau........................132 CERDDORIAETH GYNULLEID- FAOL. II.—Y Rhan Ddefosiynol o'e Gwasanaeth Cerddorol.—(Parhad.) (Papyr a ddarllenioyd yn Nghynadledd y Gi/manfa Ganu Gynulleidfaol Abertawe, Mehefin 7fed, 1886). DYLEM, bellaeh.ymestyn at y pur a'r aruchel; ond nis gellir gwneyd hyny heb fod yn feddylgar a chywir. Ofnwn fod mwy o awydd ynom i foddhau dynion na mynegu " moliant yr Arglwydd yn drefnus yn ei dỳ." Yr awydd hwn sydd yn peri fod rhai arweinwyr yn orfanwl gyda geiriau, yn lle gweithio allan syniadau. Y gorfanylder hwn yn fynych sydd yn difetha ysbryd y canu mewn llawer i gyfarfod cyhoeddus. Yn y gwasanaeth cerddorol dylai y gelfyddyd fod o'r neilldu, megys, neu gael ei chuddio ; oblegid perffeithrwydd ceifyddydoì ydyw cuddio y gelfyddyd. Yn y cyfarfodydd ymarferiadol y dylid ei pherffeithio hi ; ac with siarad am y rhan ddefbsiynol, rhaid i ni feddwl fod y rhan gelfyddydol wedi cael y sylw dyladwy. Eto, hyd y nod wrth beiffeithio y rhanau celfyddydol i bwrpas y cysegr, rhaid cadw nod ucheí o ílaen ein golwg o hyd, fel y santeiddier ein llafur i gyrhaedd yr amcan uchaf—clodfori yr Arglwydd. Nodwn yma rhai o'r pethau angenrheidiol at feddianu y tir uchel yma:—(laf) Dylai y rhai sydd yn llafario ac yn arwain yn y cyfeiriad hwn, fel gyda rhanau ereill perthynol i waith y cysegr, fod nid yn unig yn gelfyddydwyr da a chydwybodoi, ond hefyd rhai yn meddu teiml- adau crefyddol tyner, a chrediniaeth ddwfn yn ngwirioneddau yr efengyl. Y peth mwyaf gwrthun o bobpeth ydyw gweled dyn yn arwain canu y cysegr heb fod ei ymddygiadau yn cyf- ateb ; dj-lai bywyd pob arweinj^dd fod yn gyf- ryw ag a fyddo yn esiampl i'r cantorion yn mhob dim. Ond paham, gofynwn, y goddefìir i ddynion nad ydynt yn dyfod i fyny â'r gofynion yn yr ystyr yma i ymyraeth âg arwain y tyrfaoedd i ganu mawl 1 Ystyriwn mai eithafoedd rhagrith crefyddol ydyw i neb ymgymeryd âg esbonio hymnau a thonau cysegredig, ac ar yr un pryd yn gwrthod neu yn anghredu y gwirioneddau a gynwysir ynddyut. Na, dyweder wrth y cyfryw gan nad faint fyddo eu galluoedd meddylio], Na chyftyrdded eich dwylaw budr â'r pethau glân a chysegredig yma. (2i)) Dau beth arall sydd yn lladd ysbryd defosiwn yn fawr iawn y dyddiau hyn ydynt, diffyg gofal wrth ddyfod i, ac yn, ngwasanaeth y cysegr. Gellid casglu wrth osgo diofal llawer yn dy- fod tua'r lls o addoliad, a'u dullwedd afrosgo o dori i fewn ar draws y gwasanaeth, nad oes un pwys yn y byd yn y rhanau defosiynol, yn enw- edig y canu. Deuir i fewn, a hyny yn hynod o drystfawr ac anwyliadwrus ar ganol y mawl, heb gofio fod twrf yn ddinystr i ysbryd defosiwn, a bod swn a chyffro yn peri niwed i'r canu mewn ystyr gelfyddydol hefyd. Nid ydym ychwaith i fyny â'r hyn ddysgwylir oddiwrthym, ac â'r hyn a ddysgir i ni yn y gyfrol santaidd, yn ein hym- ddygiadau yn nhŷ Dduw. Mor wir a bod y gair yn dywedyd, " Gwylia ar dy droed pan elech i i dŷ Dduw," mae yn dysgu hefyd i fod yn weddus, mewn " symlrwydd ysbryd " pan yn y cysegr. Yn hyn yr ydym yn mhell ar ol fel Ýmneillduwyr i'n cyfeillion yr Eglwyswyr. Paham na aílwn ni fod cyfuwch yn ein moesau a'n bymddygiadau yn y capelau a hwythau yn yr egíwysi. Yn awr, pan mae addy&g elfenol a chlasuroi yn ymledu, dylem ymestyn at hyny. Oredwn mae esgeulusdod a grym arferiad yw y cwbl, a dylem feddwl yn ddifrifol am y peth ; ae o feddwl, gwella. Heb drefn, prydlondeb a symlrwydd mewn agwedd, nis gellir cyfiawnu y gwaith goruchel hwn yn wirioneddol. Mae y rhagorfraint o ddysgu ein cynulleidfaoedd i iawn ymddwyn wrth gyfiawnu y rhanau defosiynol o'r gwasanaeth, yn disgyn ar weinidogion a swydd- ion eglwysig yn gystal ag ar arweinyddion cerdd- oriaeth gynulleidfaol. Y mae hyn yn ein harwain i ddweyd gair (yn 3ydd) ar natur y gerddoriaeth ddylidymarfer â hi yn y gwasanaeth cerddorol. Ac cnid yw hyn ar unwaith yn awgrymu i ni fod yn bosibl dwyn i fewn i wasanaeth y cysegr gerddoriaeth anaddas] Ydyw; íelly y mae y