Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

(llERPPOR.Y.tëYMRYi DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol IV. HYDREF, 1886. Rhif. .37. CYNWYSIAD. Cystadleuaeth Ysgol Gerdáorol Cerddor y Cymry— Madame Malìbran (parhad) ............ 1 Nodiadau....................... 2 Y Berdoneg (parhad), gan John Williams, Festiniog ... 2 Yr Ysgol Gerddorol .................. 3 Ein Bwrdd Cerddorol.................. 4 Tysteb Alaw Ddu .................. 4 CYSTADLEUAETH YSGOL GERDD- OROL " CERDDOR Y CYMRY." AlL GrYFRES—TASC III. MADAME MALIBRAN. [PARHAD.] 'N awr, y mae yr olygfa ddiweddaf yn hanes ei bywyd dyeithr ac amrywiol, ond anffodus, yn agoshau. Cafodd ei chyfiogi i ddyfod i ganu i Gylchwyl Gerddorol Manchester ; cyrhaeddodd i'r dref ar ol taith gyflym a lluddedig 0 Paris, yn mha le y bu yn cyfiawnu ei hymrwymiad y Sul, yr lleg 0 Fedi, 1636. Y dydd Llun canlynol, canodd bedair-ar-ddeg 0 ganeuon gyda'i chyfeillion Ital- aidd, pa un a ddygodd arnì afíechyd difrifol. Yn ddiystyr 0 hyn oll, cawn hi yn canu y boreu a'r hwyr canlynol; ond dydd Mercher y mae yn myned yn llawer gwaelach, ond rhoddodd ddad- ganiad hynod 0 effeithiol o'r darn prydferth, " Sing ye to the Lord ;" ac yn yr hwyr o'r un dydd, y mae yn rhoddi ei dadganiad cyhoeddus olaf, yn cael ei chynorthwyo gan Madame Cara- dori Allan, a chanasant " Dame se Albughi in Petto " nes gwefreiddio y gwrandawyr, a gorfu iddynt ail ganu y rhan olaf. Ond nid oedd yr oll ond megys ffiachiad lamp ar ddiffoddi, ac ni chanodd byth mwy. Symudwyd hi i'r Mosley Arms, ac yma, 0 dan ofal meddygon y dref, y cafodd bob sylw y gallent roddi iddi; ac wedi naw diwrnod 0 afiechyd trwm, pan yr oedd ei nodau swynol eto heb gael ei dileu oddiar eu clustiau yn Manchester, am ugain mynyd i ddeuddeg o'r ^loch nos Wener, y 24ain 0 Fedi, 1836, ehedodd ei hysbryd at yr Hwn a'i rhoes ; a dyma ddiwedd gyrfa y dalentog a'r anghy- ffredin Malibran. Ar amrantiad bron, collodd y byd chwareuyddol un o'r chwareuesau goreu a fu erioed yn addurno'r llwyfan Brydeinig. Am ei chymhwysder fel actress a chantores, diau na welir ei chyffelyb yn fuan, 0 herwydd yr oedd jn gantores ac actress 0 gyffroad angherddol; a dywed Lablache am dani : " Y mae ei hysbrjid mawr yn ormod i'w chorff bach ei gynwys." Byddai yn aml yn dywedyd mewn digrifwch, pan wedi dyfod yn alluog i gasglu 40,000 0 bunau oddiwrth ei galwedigaeth, y byddai yn ymneill- duo ; ond credaf nad allai fyw heb gael rhyw foddion cyffroawl, 0 herwydd dyma ydoedd cynhaliaeth ei meddwl, a byddai ei hamddifadu 0 hono yn sicr o'i lladd, fel ag y gwnaeth gormod 0 foddion cyffroad, 0 dan amgylchiadau neillduol, achosi ei marwolaeth. Yr oedd ganddi feddwl uchel am y Saeson. Pan oedd unwaith mewn cwmniaeth barchus yn Paris, pan y gwnaeth un o'r cwmni Ffrengîg sylwi gyda mwy nag arferol 0 sarugrwydd, " Mai dynion ffol iawn ydoedd y Saeson," ac meddai un arall: " Sylwch ar y modd mai ei boneddigesau yn gwisgo eu hunain, y maent yn chwei thinllyd i'r eithaf; ac hefyd sylwch ar eu cerddoriaeth a'u canu. Ma joi! nid y w ond ffolineb," gwrandawai Malibran yn ystyriol ar yr holl ffiloreg hyn. Ond pan ofynwyd ei barn am danynt, ni wnaeth ond ateb rhywbeth er boddhau eu mympwy hnnanol ; ond yn fuan newidiodd y testyn trwy ofyn am ganiatad i ganu hallad fechan iddynt, pa un a ganiatawyd iddi. Ac mewn canlyniad, cymerodd ei lle wrth y piano, a dechreuodd mewn amser araf, yn yr iaith Ysbaenaidd, yr lien alaw Seisnig adna- byddus, " Molly, put the Tcettle on," pa un a ddadganodd mewn teimlad mor angherddol, nes tynu cymeradwyaeth fyddarol y cwmni, ac edrychent oll yn hynod 0 foddhaol, ac yn awr dysgwylient oll am gael clywed enw'r alaw oedd- ent wedi wrando s;yda'r fath bleser. " P'am ?" meddai Malibran, gyda llygaid yn tanio 0 lawen- ydd. "Onid alaw Seisnig ydyw? galwant hi yn <{Molly,put the Jcettle on" ac ystyriant hi yn un o'u halawon mwyaf cyffredin ;" ac yna rhoddodd wers iddynt ar y modd yr oeddent yn cymeradwyo yr hyn a wawdient er's ychydig fynydau. Ýr oedd hefyd yn meddu ar deimladau hynod 0 garedig. Yr oedd unwaith yn sefyll ar ei ffordd i fyned i mewn i'r hall, hen Italian Opera chorus singer, yr hwn oedd wedi colli ei lais drwy anwyd a chrygni; ac ar waith Malibran yn pasio, cyfarchodd hi yn foneddigaidd, ac eglurodd ei amgylchiadau iddi, pa rai y gwnaeth ceidwad yr haìí dystio i'w gwirionedd ; ac yn y man tynodd allan ei phwrs, a chyfrifodd allan bum' punt, ac a'i rhoddodd iddo, ac hysbysodd hefyd y gwnai dalu ei gostau er ei gludo i'w wlad