Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<g£RPPOR»Y -(gYMRYt &t ttmsmmetft Cetfôoriaetfu &c+t £tt mítlitft 9 Cgmrg DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol IV. CHWEFROR, 1887. Rhif. 43. CYNWYSIAD. Undeb Ysgolion Sabbothol Methodistiaid Calflnaidd Llundain........................17 Yb Ysool Gehddorol..................18 Bbestr o enwau prif Gerddorion ............19 Tysteb Genedlaethol Alaw Ddu ............20 UNDEB YSGOLION SABBOTHOL METHODISTIAID CALFINAIDD LLUNDAIN. CYFARFOD OYSTADLEUOL A GWYL GERDDOROL, A gynaliwyd yn Exeter Hall, Rhag. 27ain, 1886. Beirniadaeth Gramadegu Dernyn Cerdd- orol a roddwyd ar y pryd. (Parotowyd tôn gan y Beirniad na welodd y cystadleu- wyr ö'r blaen." |AETH chwech i'r ymdrechfa, a dengys eu papyrau eu bod yn deall cerddoriaeth yn lled dda. IY ffugenwau ydynt, Uywel, Un yn dech- pi, G. Brychdwr, Olffeus, Havod Uchel, a John y Gwas. Nid yw y tri a enwyd gyntaf ond yn nodi y cordiau yn fyr iawn, yn ol dull Oyfundrefn y Sol-ffa ; tíeb roddi un eglurhad na darnodiad o nodwedd y dôn a ddewiswyd. Y maent yn bur gywir a chryno mor belled ag y maent yn myned. G. Brychdwr, efallai, sydd yn amlygu fwyaf o wybodaeth gerddorol. Ceir fod y tri nesaf yn gyfarwydd yn y gwaith o ddadansoddi. Y mae Ölffeus a Havod Uchel yn gramädegu y dôn bron yn gywir, a cheir gan y cyntaf o'r ddau gopi o'r dôn yn y Sol-ffa, gyda nodiadau. Ond y cyfìawnaf o lawer ydyw John y Gwas ; dadansoddir yr holl gordiau gan yr ymgeisydd hwn yn fanwl, a gosodir i lawr gyfleadau y cordiau yn drefnus, ac ni cheir ond un neu ddau o wallau dibwys o ran gramadegiad, y gerddoriaeth yn y papyr. Trueni felly na allai °sod allan ei feddwl mewn iaith fwy cywir, y m^ ei Gymraeg hytrach yn fratiog. oa^m' er hyny' sydd wedi ëramadegu y darn cerüaorol a gynygiwyd oreu, ac iddo ef y dy- lerrnr y wobr flaenaf. Y mae papyrau Olffeus a Havod Uchel yn gyfartal o ran teilyngdod, a dylai yr ail wobr gael ei rhanu rhyngddynt. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol eleni: er fod yr hin yn eithafol o oer—yr eira yn gorchuddio y ddaear—daeth tyrfa ysblenydd a brwdfrydig yn nghyd. Cafwyd cystadleuaeth hapus a thang- nefeddus ar bob peth, ond yn unig mai un cor ddaeth yn mlaen ar y brif gystadleuaeth gorawl. " Hosana i Fab Dafydd" (Dr. Parry) oedd y dernyn—dernyn caled i gor cymharol wan ; ond canasant yn bur foddhaol, gyda mynegiant a thônyddiaeth lled bur, a chawsant y wobr—£10. Cafwyd araeth deilwng o Gymru ac o'r am- gylchiad gan yr Aelod Seneddol dros Sir Aber- teifi ; sir, gyda llaw, o ba un y daethai y rhan fwyaf o Gymry Llundain, oedd yn bresenol yn y cyfarfod. Aeth Mynorydd trwy ei waith yn hwylus fel arweinydd,a threfnwyd yr amgylchiadau yn dde- heuig gan Mr. J. Owens, yr ysgrifenydd galluog. Gwnaeth Miss Williams wasanaeth da wrth y berdoneg, fel cyfeilyddes. Un peth a'n boddhäai yn y cyfarfod hwn oedd, fod y gwahanol ysgolion, nad oeddynt yn cys- tadlu, yn dadganu bob o ddarn yn ystod y cwrdd, ac aethpwyd dros " Teyrnasoedd y Ddaear" yn dda iawn, o dan arweiniad Mr. Hugh Edwards.—Yr eiddoch yn rhwymau car- iad a chân, W. T. Rees (Alaw Ddu). Oratorios Handei.. !Nid rhyfedd fod oratorios Handel yn para yn boblogaidd, oblegid efe yw cyiansoddwr mawr yr oesoedd—Shakespeare y gerdd. Dygwyd o leiaf ddwy o honynt i sylw y Cymry tua'r gwyliau diweddaf yma; sef " Josuah," gan Gôr Dowlais, dan arweimad Mr. Dan Davics ; a " Judas," gan Gymdeithas Gor- awl y Tabernacl, Llanelli, dan arweiniad Mr. Charles Meudwy Davies. Gan mai hwn, fel yr ymddengys, oedd y tro cyntaf i berfformio " Josuah" yn ein gwlad, ni ddylai yr amgylchiad fyned heìbio yn ysgafn. Y mae genym hen full score o'r oratorio ysblenydd hon yn ein meddiant; a phan byddo amser yn caniatau. yr ydym yn golygu parotoi erthygl ar ei chyfan- soddiad, ei hanes, &c.