Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

faPPOR.Y-^YMRYi &t ttmsanaetít ŵròùorínetft* Ẁtit b« mftlitlt B ^smrg DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol IV. MAI, 1887. Rhif. 46. CYNWYSIAD. Nodau beimiadol ar fywyd ae athrylith Mozart..... 29 Nodiadau—Yr Ysgarmesoedd Cerddorol diweddar ... 30 Yr Ysgol Gerddorol.................. 31 Y Wasg Gerddorol .................. 31 Ton, Mesur 8.7.D...................... 32 NODAU BEIRNIADOL AR FYWYD AC ATHRYLITH MOZART. L—Ei Fywyü. tANWYD Mozart Ionawr 27ain, 1756, yn ninas Salzhnrg. Yr oedd tynerwch teimlad yn elfen dra nodweddiadol yn ei gymeriad. Gofynai ddengwaith yn y dydd i'r rhai oeddynt o'i gylch, a oeddynt yn ei garu; ac os atebent nad oeddent, gwelid ei lygaid yn ym- lenwi o ddagrau yn y fan. Oredwyf fod y tad wedi myned â Mozart bach pan yn blentyn yn ormod oddiamgylch er mwyn dangos ei allu fel chwareuydd, yn lle ei ddysgu ef, a gwneyd y defnydd goreu o'i alluoedd pan yn ieuanc. Bydd- ai pan ym yr ysgol yu un o'r rhai goieu mewn rhifyddiaeth, yr oedd wedi ei Iwyr feddianu gan bob peth a gymerai ato, nes byddai yn anghofio yn llwyr ei brydiau bwyd. Oafansoddodd alaw íechan, a'r peth diweddaf a wnai bob nos cyn myned i'w wely oedd ei chanu i'w dad, ac ar ol hyny cusanai ef, ac yna i'r gwely yn ddedwydd a siriol. Parhaodd hyn hyd nes oedd tua naw mlwydd oed. Un o'i hoff ddywediadau tua'r oedran hwn oedd, "Duw yn mlaenaf, a papa wedi'n." Bu ei fy wyd yn un llafurus a theithiol. Oredwyf iddo ef a'i deulu fyned ar daith tua Mehefin, 1763, trwy Wasserburg, Munich, Augs- burg, Heidelberg, Mayence, Frankfort, a Bonn ; ac iddynt gynal cyngherddau yn y lleoedd hyny, yn mha rai y rhoddai y tywysogion a'r prif ben- defigion eu presenoldeb. Tua Ebrill, 1764, hwy a ymadawsant o Paris, ani Loegr, ac a ddaethant i Lundain, a buont yn cynal cyngherddau yno o flaen y brenin a'r frenines, pryd y rhoddwyd yn ddiau o'i fiaen rai o ddarnau mwyaf anhawdd Sach a Handel, y rbai a chwareuodd gyda'r rhwyddineb mwyaf ar yr olwg gyntaf. Credwyf fod ei dad yn falch ac ymffrostgar ynddo (gan gredu nad oedd ei fath am chwareu ar yr olwg gyntaf); a pha ryfedd hefyd, pan yr oedd ei fywyd yn llawn o engreifftiau o'i dalent yn d|od allan mewn gwahanol amgylchiadau, weithiau gyda difrifwch neillduol, a phryd arali mewn mwyniant serchog. Yr oedd yn ddiau y brenin a'r holl bobl a adwaenent Mozart bach yn credu fod defnydd dyn mawr iawn ynddo, ac yn rhoddi llawer o anrhegion iddo ; fel yr oedd ei dad yn dyweyd, fod ganddo ddigon i gadw siop, ond o ran arian, meddai, yrwyf yn dlawd. Trueni fod y tad yn yr amgylchiad hyn gyda'r bachgen byd enwog nwn. Ni werthfawrogir talent a gallu y dynion goren nes byddont wedi myned i ffordd yr holl ddaear. I Leopold Mozart (y tad) y gellir priodoli yr addysg a gafodd Mozart bach. Ac i ddangos y sel a'r gofal difiino tuag at ei blant, dyfynaf o!i eiddo a ganlyn :—" Y mae pob eiliad a gollaf yn myned ar goíl byth ; ac os gwyddwn g-ynt pa mor werthfawr oedd amser i blant, yr wyf yn gwybod hyny yn llawer gwell yn awr. Chwi a wyddoch fod fy mhlant wedi cael eu harferyd i weithio, a phe dysgent wneyd esgusodion, megys fod rhyw- un yn y ty yn eu rhwystro gyda'r gwaith, a phe dysgent felly dreulio eu horiau mewn segurdod. bydd yr holl adeilad wedi syrthio i'r llawr." Gwynfyd na len wid miloedd o dadau yn Nghymru a'r un syniadau, ac a'r un difrifoldeb a diwyd- rwydd i'w roddi mewn gweithrediad gyda golwg ai eu plant! CredWyf i Mozart pan yn ieuanc ymarfer llawer a gweithiau Bach, Handel a Eber- lin, ac i astudio cyfansoddiadau y meistriaid hyny, yn nghyd a'r hen gyfansoddwyr Italaidd, Bu yn cael pob cefnogaeth a pharch gan bawb pan yn blentyn, ond pan ddaeth i fyny i ychydig oedran trodd yr holl i'w wrthwynebu o genfigen, gan ofni y byddai iddynt hwy gael eu taflu i'r cysgodion, ac ymroddasant, gyda'u gilydd, i arfer pob moddion i ddinystrio ei boblogrwydd a lladd ei ddylauwad. Ond er y cyfan gorfod iddynt yn fuan iawn addef mai ganddo ef yr oedd mwyaf o galon—sef teimlad yn ei gerddoriaeth. Cred- wyf yn sicr, nad oedd yn ddiffygiol, nac yn ail i neb o ran y pen—sef dealldwriaeth ychwaith. (I'w barhau).