Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

toPPOR.y-tëYMRYi DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Cyfrol IV. RHAG-FYR, 1887. Rhit. 52. CYNWYSIAD. Crynodeb o Hanes Eisteddfodan 1887 Hanesiaeth Gerddorol fel Efrydiaeth Yr Ysgol Gerddorol ......... Y Wasg Gerddorol ......... Rhestr o enwau Ptif Gerddorion 57 58 59 60 60 CRYNODEB O HANES EISTEDD- FODAU, 1887. (Cystadleuaeth Cerddor y Cymry.) rN ystod y flwyddyn hon, gan belled ag y mae wedi rhedeg, nid yw rhif yr Eistedd- fodau yn lluosog. Er y dichon fod graddau y rhai a fu yn gydmarol uchel, yn fwy felly nag y buont lawer tymor. Ac with gy- meryd golwg frysiog, a chymeryd pethau fel y maent yn awr, gan ddysgwyl eto oddiwrth a fu, yr ydym yn barod i tìdyweyd na bu Eistedd- fodau gan uched 0 ran graddau er's amser ag y bu eleni. Ond gan y rhaid i'n hysgrif fod yn fyr, ni a ymataliwn. Eisteddfod Llandudno, Medi l'3eg a'r ìáeg. —Ni chofnodwn ond yn unig y gweithrediadau cerddorol, a'rpersonau a ddalient gysylltiad a'r adran hon. Dechreuwyd yr wyl hon trwy gyngherdd amrywiol a chystadleuol. Caed y cystadleuon canlynol:—Oystadleuaeth soprano solo; enillwyd gan Miss A. Parry, Llanrug. Cystadleuaeth ganu yr Anthem Genedlaethol; cyd fuddugol, Miss A. Parry, Llanrug, a Mr. A. Henderson, Nantlle. Cystadleueeth unawd tenor; goreu, Mr. T. Thomas, Penygroes. Yna cystadleuaeth ganu penillion gyda'r delyn; gwobrwywyd Eos Ebrill, Llanrwst; ail, Mr. R. Jones, Llanerchymedd ; 3ydd, Mr. John Owen, Llanerchymedd. Dechreuwyd gweithrediadau yr ail ddydd (I4eg) am ddeg yn y boreu ; yr hyn, gyda lìaw, a ganmolwn, yn lle cyd estyn dydd a chyfarfod yn un cyfanwaith. Y gystadleuaeth gerddorol gyntaf a gaed ydoedd y brif gystadleuaeth gor- íwl; y damau dewisedig ydoedd,—" Duw sydd noddfa" (J. H. Roberts. Mus. BacJ ; ''Oome unto Him" (Gounod). Gwobr, 70p., a chwpan arian gwerth 5p. Diau fod y drychfeddwl 0 roddi cwpan yn newydd, os yw heb ei ladrata o'r rhedegfeydd ceffylau. Cystadleuodd -pump 0 gorau, 0 ba rai y dyfarnwyd cor Llangollen yn oreu. Enillwyd y llawryf am ganu dwyawd gan Eos Moelwyn a'i gyfeilles, Llinos G-waenydd, Ffestiniog. Ac ar yr unawd bass, "Bedd fy mrawd," gwobrwywyd Mr. Lîewelyn Jones, Llangollen. Prydnawn.—Yr oreu yn nghystadleuaeth y soprano solo ydoedd Miss Emily Mowll, Birken- head. Enillwyd y wobr 0 10p., a thlws aur, gau gor meibion Tanygrisiau. Y contralto soio oreu ydoedd Miss 0. J. Jones, Oonwy. Budd- ugol ar ganu baritone solo ydoedd Mr. D. Jones, Caernarfon- Yn ystod yr wyl hefyd caed am- ryw unawdau ar y delyn gan Telynor Seiriol. Yn yr hwyr, caed cyngherdd amrywiaethol dra- chefn, a llawer 0 wir deilyngdod cerddorol yn- ddo. Gwasanaethwyd yn yr Eisteddfod hon fel beirniaid gan Mri. J. B'. Roberts, Mus. Bac. ; J. Thomas, Llanwrtyd ; a J. Wüliams, Llandudno. Fel datgeiniaid, gwasanaethai Misses Mary Davies, Annie Hope, a Mri. James Sauvage, a Maldwyn Humphreys. Yn holl weithrediadau cerddorol yr wyl hon, nis gallwn ganfod unrhyw ragoriaeth gerddorol uchel; eto cyrhaeddodd yr holl ddatganiadau bron i raddau cydmarol uchel. Diau mai ei phrif ddiffyg ydoedd unffurfìaeth gerddorol : dylesid perfformio un o'n prif weithiau yn un o'r cyngherddau. Ac hefyd, dylasai yr Eistedd- fod fod wedi bod yn foddion cynyrchiad rhyw gyfansoddiad cerddorol. Eisteddfod Porthmadog.—Oynaliwyd hon ar Awst 24ain a 25ain. Rhifai unawdau yr wyl hon gynifer a deuddsg, gyda chrythwyr, telynor, a chanwr peuillion, y Porthmadog Choral So- ciety, a cherddorfa 0 20 0 offerynwyr. Y beirn- iad cerddorol ydoedd Mr. H. Leslie. Diau 0 ran rhif a gradd ei defnyddiau fod yr Eisteddfod hon yn rhagorol, yn gyfryw ag yroeddwith lawer 0 gost arianol i'w casglu yn nghyd, A diau fod