Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

igERPPOR»Y »<5yMRY. &.t ttm$mmetft dufcrôôortotftt &*+> tttt mftHtlt g Cgmra. DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Oyfrol V. CHWEFRÚR, 1888. Rhií. 54. CYNWYSIAD. Cymdeithas ein Cerddorion Cynireig ...... ... 65 " Saul" Handelyny Tabernacl, Llanelli......... 66 Yr Ysgol Gerddorol .................. 67 Marwolaeth cerddor ieuanc.............. 68 Ein Bwrdd Cerddorol................. 68 Y Wasg Gerddorol ...... ........... 68 Felix Mendelssohn Bartholdy............. 68 CYMDEITHAS Y CERDDORION CYMREIG. AE cynyg wedi ei wneyd eto i sefrdlu Gymdeithas y Gerddorion Gymreig. LÍawer i gynyg svdd wedi ei wnevd i gael cymdeithas o'r fath, ac mae llawer iawn o ysgrifenu wedi bod ar y mater gan wahanol gerddorion, ac ereill, o bryd i i bryd. Nis gall dau feddwl fodoli ar fater fel hwn, gan y cydnabyddir yn gyffredinoi fod cym- deithas fel hon o ìês mawr yn Nghymru i godi cerddoriaeth Gymreig i sylw, ac i uno cerddorion o bob gradd â'u gilydd, heb son am na nodiant na dim o'r fath sydd yn peri fod gagendor yn bodoli rhwng y gwahanol ddosbarthiadau o'n cerddorion. Gwnaethom ni gynyg teg at uno cerddorion adnabyddus trwy, offerynoliaeth Obrddoe y Oymey, pan oedd yn bodoli ar wahan i Gyfaill yr Aelwyd; a gwnaethom, hefyd, trwy gyfrwng yr un papyr, ein goreu i ddwyn cerddorion oedd yn codi i fwy o amlyg- rwydd, ac i gynorthwyo ereill nad oeddent yn adnábyddns i gael eu cydnabod. Yn hyny o beth addefir yn bur gyffredinol i ni lwyddo tu- bwnt, braidd, i neb fu yn llafurio yn yr un cyfeiriad o'n blaen. Nid gormod dyweyd i ugeiniau, os nad canoedd, o'n dynion ieuainc ddyfod i'r golwg, ac i gyffyrddiad â'u gilydd, y buasai yn anhawdrì, os nad yn anmhosibl, iddynt wneyd mewn un ffordd arall ar y pryd. Ond pe ceid cymdeithas o'd ceiddorion Cymreig, ac i bob un o'n cerddorion ymdrechu dyforì yn ael- odau o honi, byddai hyny yn ffordd mwy effeith- iol i'w huno â'u gilydd na thrwy gyfrwng un- rhyw bapyr neu gylchgrawn cerddorol. Wel, y mae un cynyg eto yn cael ei wneyd tuag at sefydlu Undeb Cerddorion trwy Gymru, ac mae ynom hyder cryf y llwyddir y tro hwn, am yn un peth fod y gwaith wedi ei gychwyn yn iawn, a gobeithiwn heb un amcan arall mewn golwg ond cael Cymdeithas gwir Gymreig a gwir generìlaethol. Anfoncdd Mr. Rees Jones, Glandwr, gyich- lythyrau o amgylch i luaws o gerddorion Cym- reig arìnabydrìus, gyda'r amcan o sefydlu Cym- deithas y Cerddorion ; a nos Wener, Ionawr l3eg, daeth nifer go drìa at eu gilydd i ysgoldy per- thynol i Gapel Ebenezer, Abertawe, a chafwyd cyfarfod gwir Gymreigaidd a brwdfrydig. Wedi cynyg Dr. Joseph Parry i'r gadair gan Alaw Ddu, siaradodd yr olaf ar ol y Cadeirydd yn wresog o blaid y mudiad ; a dilynwyd yntau gan Mr. John Watìcins, Mr. Seth P. Jones, Mr. Rees Jones, a'i frawd (Ap Caradog), Mri. Davies a Jones, &c. ; oll yn gerddorion profiado) a gwasanaethgar yn eu gwahanol gylchoedd. Prof- odd y siararì gafwyd forì teimlad brwd yn ffynu o blaid sefydlu cyradeithas i'r amcan o godi cerddoriaeth a cherddorion Cymreig. Yr oedd yr un teimlad yn rhedeg trwy y lluaws llythyrau ddarllenwyd oddiwrth gerddorion na allasent, o herwydd amgylchiadau, fod yn bresenol y noson hono, ond yn adrìaw bod wed'yn. Wedi y siarad a'r ymgomio yma, barnodd y cyfarfod fod digon o reswm dros wneyd un ym- drech egniol i gael cymdeithas, a chynygiodd cyfaill o gerddor, ac eiliwyd gan un arall, yr hyn a gefnogwyd i'r eithaf gan amryw ereiil, fod Cymdeithas y Cerddorion i'w sefydlu, a bod y cyíarfod nesaf i fod yn yr un lle yn mhen mis (nos'Wener, Chwefror y lOferì), Mr. Rees Jones i barhau fel conoenery cyfarforì hwnw, trwy anfou cylchlythyrau eto i'n cerddori^n ac ereill. Y cyfarfod hwnw eto i fod yn gyfarfod i barotoi gogyfer â chyfarfod arall mwy cyffredinol fyth olygir ei gynal ar ddydd Sadwrn rhwng y Grog- lith a'r Pasg nesaf, gan y teimlir y bydd yr adeg hono yn gyfìeus i lawer o'n cerddorion fod yn breseuol. Ÿ pryd hwnw (os bydd pob peth yn iawn) y golygir myned at y gorchwyl o dynu