Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

(SERPPOR.Y-tëYMRY, 3kt ttmsaimetít Ccròòoríactf), &t.t gtt mf|lítfi % Cgmrg* DAN OLYGIAETH W. T. REES (ALAW DDU). Oyfrol V. MAWRTH, 1888. Rhií. ö5. CYNWYSIAD. Coleg Caerdydd a'r Gadair Gerddorol ..... Eisteddfod Llanfair-yn-Muallt, Chwefror laf, 1888 Cymdeithas y Cerddorion Cynireig ...... Yr Ysgol Gerddorol ............... Y Wasg Gerddorol ...... ......... COLEG CAERDYDD A'R GADAIR GERDDOROL. 'CHYDIG flynyddoedd yn ol, y mae ein darllenwyr yn gwybod am yr ymdrech wnaed i gael Cymro i lanw y Gadair Gerddorol yn Ngholeg Caerdydd; ond er yr ymdrechu, methwyd a chael un, a dew- iswyd Mr. Templeton i'r swydd. Traddodi anerchiadau a rhoddi gwersi (pe byddai angen) yw y gwasanaeth ddysgwylir gan y proffeswr carddorol, ac y mae geuym amryw yn ein gwlad sydd yn ddigon galluog i'r gwaith, a theilwng o gefnogaeth cynghor y coleg. Wedi ethol Mr. Templeton, a thra yr oedd yn aros yn ei swydd, yr oedd y Cymry, yn ol eu harfer, yn boddloni i'r drefn; ond rhai misoedd yn oí, rhoddodd y Proffeswr ei swydd i fyny, a dysgwylid y buasid yn apwyntio un arall rhag blaen yn ei le, a hwnw, fel gallwn yn naturiol ddysgwyl bellach., yn Gymro. Yn lle hyny, cymerodd y cynghor fantais ar ymddiswyddiad y Sais i wneyd i ffwrdd â'r adran gerddorol. Tra yr oedd yr athraw cerddorol yn aros, ni sonid fod y cyllid yn rhy isel i ganiatau cadw yr adran yn mlaen ; ond yn union y try ei gefn, wele y drws yn cael ei gau yn erbyn neb arall. Y mae hyn yn gam dybryd â cherddoriaeth, ac yn sarhad hefyd ar 7 Cymry sydd yn cefnogi y Coleg â'u harian a'u dylanwad. Yn nghanol y siroedd mwyaf cerdd- orol—Morganwg a Mynwy—nis gall y coleg cenedlaethol hwn gadw yn mlaen y gadair gerddorol! Y mae yn dda genyni fod rhai o aelodau y cynghor, sydd yn Gymry aiddgar a dylanwadol, yn gwrthdystio yn erbyn tori i lawr yr adran gerddorol, a gobeithio y trechant y Saeson sydd ar y cynghor nad oes ganddynt nemawr gyd- ymdeimlad â'r Cymry na'u cerddoriaeth. Gwel- wn fod yr un personau sydd am ddiddymu y sedd hon, am sefydlu cadair arall ; a diamheu genym y baasid yn cefnogi i sefydlu Seat of Engineering yn galonog, oni bae am y gwrth- wynebiad i gadw yn mlaen yr athraw cerdd- orol. Mae yn wir fod y mwyafrif, ar gyn ygiad Mr. A. Thomas, A.S., a chefnogiad y Parch. D. Saunders, D.D., ac eraill, wedi cario i gadw yn mlaen y gadair gerddorol, a gobeithiwn y cerir allan y penderfyniad yn ddiymdroi, trwy osod hysbysiad allan am berson arall cymhwys i'w llenwi. Y mae pawb yn cydnabod fod yr ysbryd cerddorol yn fwy byw yn ein gwlad nag a fu erioed ; a chan fod Cymru mor gerddoroi, nid rhyfedd fod y Oymry yn teìmlo mor gryf yn erbyn yr ymddygiad hynod hwn o gau cerddor- iaeth allan. Y mae amryw o Gymdeithasau Cymreig eisoes wedi pasio penderfyniad i anghy- meradwyo y peth. Oni allai y Gymdeithas Gerddorol—Cymdeithas y Cerddorion Cym- reig—sydd yn awr yn cael ei sefydlu, gy- meryd y pwnc hwn i fyny nes peri fod ei llais yn cael ei glywed % Yr ydym yn awgrymu hyn fel mater i'w gymeryd i ystyriaeth yn y cyfarfod nesaf. Credwn yn sicr, pe apwyntid y dyn iawn, a hwnw yn Gymro talentog, mewn cydymdeimlad trylwyr a Chymru, ei cherddoriaeth, a'i cherdd- orion, y gellid llwyddo i wneyd yr adran gerdd- orol y fwyaf llwyddianus o'r cyfan. Tybed na ellid cael amryw o ysgoloriaethau cerddorol 1 Tybiwn fod yr arian a gasglwyd go- gyfer ag Ysgoloriaeth Ieuan Gwylit wedi eu trosglwyddo tuag at gyllid y Coleg eisoes. Gweithied y rhai weithiodd gyda hyn yr un mor aiddgar eto gyda chadw y gadair gerddorol yn mlaen. ÿ peth sydd eisieu yn awr, yn ddiau, ydyw sicrhau y gadair ; ar ol hyny, gellir myned ati i gael y dyn goreu sydd yn bosibl i'w ìlenwi. Ofnwn fod rhai wedi bod yn annoeth gyda hyn eisoes. Dylid cadw hyn o'r golwg yn awr rhag cyffroi y píeidiau.