Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhip. III.1 [Tachwedd 1, 1876. DALEN GENHADOL CHWARTEROL. Y GYMDEITHAS EE LLEDAENU'B EFENGYL. . MARCHNAD-WRAGEDD INDIA R GORLLEWIN. Y mae'r rhan liosoccaf o honom wedi darlìen yng nghylch Columbus, yr hwn, rhwng tri a phedwar can mlynedd yn ol, a gychwynodd dros y môr o Spaen, gan ddisgwyl cyrraedd India trwy hwylio tu a'r gorllewin; y modd y cyrhaeddodd o'r diwedd—gwedi wythnosau a misoedd blinderus—i ryw ynysoedd prydferth a ífrwyth- lawn, y rhai a alwyd ganddo yn India, gan feddylied y perthynent i'r tir y disgwyliai ef ddyfod o hyd iddo. Ynghylch Ynysoedd índia'r Gorllewin, a'r rhan honno o America ag sy'n gyfagos iddynt, a elwir Guiana, y traetha'r Ddalen hon. Y raae'r ynysoedd yma yn rhai pur hyfryd, cynnes, a dymunol, er nad ydynt bob amser yn iach i Brydeinwyr. Y máent yn orchuddiedig gan goedwigoedd, ym mha rhai y ceir prenniau teg, blodau heirdd, ffrwythydd peraidd, a phlanhigion defnyddiol. Yn y wlad hon cyfarfyddir âg amryw rywógaethau o bobl. Yn gyntaf ceir yr Indiaid, disgynnyddion y rhai a breswylient yno yn amser Columbus—pobl â chrwyn tywyll a gwallt llaes syth. Nid oes ond ychydig i'w cael yn yr ynysoedd, ond y mae lliaws o honynt yn crwydro yng nghoedwigoedd Guiana Brydeinig. Yna ceir y Negroaid, y rhai a ddygpwyd drosodd o Aífrica, yn nyddiau'r gaethías- nach, i ddiwyllio'r tir i'w meistraid Prydeinig. Bai blynyddau yn ol rhyddhawyd yr holl gaethion, ac y maent etto yn byw yn neu yn gyfagos i'w hen gartreíì. Negroesau yw'r gwragedd. a ganfyddir yn yr arlun. Yn ddiweddaf ceir y Coolies, llafurwyn rhydd. o India neu China, y rhai a weithiant am gyflogau dros ryw nil'r .4.